ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Archdderwydd yn ffarwelio

11 Awst 2007

Selwyn Iolen gyda Jams Niclas ar y chwith

Pwysig cofio pwy sy'n bwysig!

Un o'r pethau y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn ei drysori o'i gyfnod yn Archdderwydd yw digwyddiad ar faes Caernarfon.

Gwraig ar y Maes yn y dref yn dweud wrtho ar ei longyfarch:

"Roeddwn i'n dweud wrth y gwr 'cw; chap ifanc fatha chi sy isio ar gyfer y job yna."

Ac meddai Selwyn Iolen gan chwerthin wrth ffarwelio â'i Eisteddfod olaf yn Archdderwydd yr wythnos hon;

"Ond rŵan mae'r amser wedi dod i'r chap ifanc yma ddod o hyd i rywun ifancach na fo i wneud y job yma - a Dic Jones ydi hwnnw" meddai."

Dim ond un orchwyl swyddogol sydd i Selwyn Iolen ei chyflawni cyn y digwydd hynny - agor cyfarfod yr Orsedd i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 fis Gorffennaf nesaf ac ar gychwyn y seremoni gorseddu Dic Jones yn Archdderwydd am y tair blynedd wedyn.

Dywedodd Selwyn Iolen iddynt fod yn dair blynedd hapus iawn iddo.

Ac wrth ddiolch i aelodau'r Orsedd am eu cefnogaeth dywedodd:

"A diolch yn fwy na dim i aelodau'r gynulleidfa yn y pafiliwn a rhai sydd wedi dod ata i ar hyd y maes am sgwrs - mae hynny wedi bod yn uchafbwynt i mi."

Dywedodd hefyd iddo geisio cofio gydol yr amser nad yr Archdderwydd yw'r person pwysig ar lwyfan prifwyl.

"Nid y fi oedd yn bwysig ond y sawl oedd yn codi ar alwad y corn gwlad. Fy ngwaith i oedd gwneud y diwrnod yna yn gofiadwy iddyn nhw ac yn rhywbeth i gofio amdano fo am byth.

"Hynny oedd fy nghyfrifoldeb i . Nid y fi sy'n bwysig ar y diwrnod yna ond y fo," meddai.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý