ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Ymateb Llydawyr i'r Gymraeg

11 Awst 2007

Ludovic a Yannig

Eisiau gweld defnydd yr un mor naturiol o'r Llydaweg

Y rhyddid sydd yna i siarad y Gymraeg a'i defnyddio'n naturiol o ddydd i ddydd a wnaeth yr argraff fwyaf ar ddau ymwelydd o Llydaw â maes yr Eisteddfod.

Yr oedd Ludovic Louboutin - enw barddol Kurun Pennbarch yng ngorsedd Llydaw - a Yannif Laporte ymhlith cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd yn ystod seremoni'r coroni ddechrau'r wythnos.

Pan ofynnwyd iddynt ddoe am eu hargraffiadau o'r Eisteddfod a Chymru dywedodd Ludovic:

Naturiol a braf yng Nghymru

"Fe fyddwn i'n dweud ei bod yn gymaint haws defnyddio'r iaith yn naturiol yma yng Nghymru nag yw hi i ni yn Llydaw. Hynny oherwydd iddo fod yn fater gwleidyddol yn Llydaw a hynny wedi gwneud i genedlaethau ofni defnyddio'r Llydaweg," meddai

"Ym meddyliau llawer o Ffrancwyr yr oeddech yn cael eich hystyried yn 'antagonist' os yn siarad Llydaweg - yn union fel pe byddai pawb yma sy'n siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn frawychwr ac yn aelod o fudiad fel yr IRA er enghraifft," meddai.

"Felly, y peth cyntaf sydd wedi'n taro ni yw fod eich iaith yn cael ei defnyddio heb wrthwynebiad ac mewn awyrgylch o braf.

"Ac yr ydym ninnau eisiau medru defnyddio y Llydaweg yn yr un ffordd yn union ag yr ydych chwithau yn defnyddio'r Gymraeg a chael pobl i ddeall nad gweithred sy'n ceisio tanseilio'r drefn ydi siarad eich iaith," meddai.

Gobeithio dilyn Cymru

Dywedodd mai rhyw 230,000 sy'n deall Llydaweg erbyn hyn.

"Mae hynny oherwydd bod y Llywodraeth yn Ffrainc wedi bod yn erbyn yr iaith yn y gorffennol," meddao gan ychwanegu i rai fod yn ofni ei defnyddio hyd yn oed.

"Yr oeddwn i'n 28 oed cyn sylweddoli fod fy nhad yn medru siarad Llydaweg," meddai gan ychwanegu i ofn ei dad i ddefnyddio'r iaith droi'n gyflwr meddygol bron oedd yn tagu'r geiriau yn ei lwnc.

Heddiw, fodd bynnag mae ysgolion fel rhai Diwan yn dysgu a hyrwyddo'r iaith ymhlith ieuenctid a dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael ei hadfer yno gan ddod yn iaith mor naturiol â'r Gymraeg yng Nghymru.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý