ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Smentio iaith a diwylliant

6 Awst 2007

Mike Eberlin

Cwmni sment yn noddi diwrnod

Cafodd pennaeth y cwmni sy'n noddi'r eisteddfod heddiw ei atgoffa o ddeng mlynedd a dreuliodd yn Seland Newydd yn ystod ei ymweliad â maes Yr Wyddgrug.

Ac yntau heb erioed fod mewn eisteddfod o'r blaen dywedodd Mike Eberlin, Cyfarwyddwr Rheoli Castle Cement, ei fod yn gweld cryn debygrwydd rhwng yr hyn a welai yng Nghymru â'r hyn a welodd o'r diwylliant Maori yn Seland Newydd.

Yn fwyaf arbennig yr ymlyniad at iaith a diwylliant cynhennid.

"Y mae ymrwymiad y Maori i'w diwylliant ac i'w hiaith yn debyg iawn i ymrwymiad y Cymry," meddai Mr Eberlin a fu'n gweithio yn y diwydian sment yn Seland Newydd.

Cyfeiriodd hefyd at yr hawliau y mae'r Maoriaid wedi eu hennill gan gynnwys hawliau addysg.

"Ac wrth gwrs, maen nhw'n hoff iawn o ganu ac o rygbi," meddai.

Ychwanegodd fod clywed yr holl Gymraeg ar faes yr Eisteddfod yn ystod ei ymweliad cyntaf yn ei atgoffa o fod ymhlith gweithwyr Maori yn cymdeithasu yn eu iaith eu hunain.

Yno, fel ag yng Nghymru, meddai, mae iaith yn rhan hanfodol o'r diwylliant.

"Mae iaith yn gwbl allweddol - mae'n rhywbeth sy'n clymu gwlad wrth ei gilydd, ac rwyf wrth fy modd clywed y Gymraeg o'm cwmpas heddiw," meddai.

Bu Castle Cement yn noddi'r ŵyl ers deng mlynedd ac mae ganddo waith cynhyrchu sment yn Paedswood ger Yr Wyddgrug.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý