ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Canmol Steddfod lwyddiannus

11 Awst 2007

Pafiliwn

Goresgyn anawsterau yn wyneb haul llygad goleuni

Er i gyfanswm yr ymwelwyr a'r Eisteddfod yr wythnos hon fod yr isaf ers tair blynedd yr oedd yr Å´yl ei hun yn cael ei disgrifio fel llwyddiant ysgubol gan y trefnwyr.

Hynny oherwydd bod hon yn eisteddfod a ymddangosai ar adegau ei bod wedi ei thynghedu i beidio a bod.

Ond diolch i gyfuniad o dywydd braf yng nghanol yr haf gwlypaf ers cyn cof a chefnogaeth leol anhygoel gan gynnwys cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint llwyddiant oedd yn tywynnu heddiw.

Er i law trwm ddod yn ystod y cyngerdd olaf nos Sadwrn, fel pe i atgoffa'r trefnwyr pa mor lwcus fu nhw mewn gwirionedd.

Ond methodd hyd yn oed hynny a tharfu ar berfformiad hynod y pianydd Llyr Williams a chwaraeodd, yn ôl ei arfer, heb gopi a'r gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo wedyn.

Dydd Gwener orau

Dros yr wythnos 154,944 a ymwelodd â'r maes gyda dydd Gwener, diwrnod y Cadeirio, y diwrnod prysuraf o drwch blewyn - 23,941 o gymharu â 23,092 ar y dydd Mercher, diwrnod y Fedal Ryddiaith a chroesawu'r Cymry tramor.

Ond yr oedd yna ymhlith y trefnwyr lai o gymharu ffigurau a mwy o ddathlu i'r Eisteddfod hon gael ei chynnal o gwbl.

Wedi'r cyfnod hir dros ddwy flynedd yn ôl o fethu a chael cartref iddi daeth llwyddiant rhyfeddol yr ymgyrch leol i godi arian yn eli ar y briwiau.

Ond hyd yn oed hynny yn cael ei fygwth gan y glawogydd trymion a drodd y maes yn gors o fwd dim ond pythefnos cyn yr agoriad swyddogol a'r trefnwyr yn gwylio gyda gofid y drochfa ar faes y Sioe Frenhinol.

Ac wrth gyfeirio at fygythiad y tywydd dywedodd Aled Lloyd Davies:

'Cychwyn pryderus'

"Fe gawsom ni gychwyn pryderus ac yr oedd gennym ni ddewis mawr i'w wneud - ac o'i roi o mewn termau moel, mwd neu gerrrig oherwydd sut oeddem ni i wybod fod y tywydd yn mynd i wella?

"Ond wrth gwrs, doedd hyn ddim yn dod yn rhad ac am ddim. Mae o wedi costio cruglwyth o bres inni - rhyw £60,000 yn ychwanegol o leiaf nad oeddem ni wedi bargenio amdano.

"Fe allwch chi ddychmygu fod hynny wedi bod yn dipyn o sioc inni ar ddechrau'r wythnos ac roeddem ni'n reit bryderus ar y cychwyn."

"Ond ychwanegodd fod pobl Sir y Fflint ac eisteddfodwyr Cymru wedi "ymateb yn rhyfeddol gyda'u traed a chyda'u pocedi".

"Oherwydd mi fedrai'r hyn oeddem ni'n i weld ar y cyfryngau o'r Sioe Amaethyddol fod wedo gwneud i lawer ohonyn nhw dorri eu calon a dweud ; 'Dydw i ddim am olchi'n welingtons a dod a nhw yr holl ffordd i Sir y Fflint '," meddai.

Mwy yn y pafiliwn

Canmolodd hefyd y niferoedd mwy nag arfer aeth i mewn i'r pafiliwn ei hun gan ychwanegu i'r cyngherddau gyda'r nos wneud yn well na'r disgwyl hefyd.

A dywedodd ei fod o'r farn fod mwy nag arfer o bobl ifainc ar y maes eleni.

Talodd deyrnged arbennig i Gyngor Sir y Fflint am ei gefnogaeth ef i'r Eisteddfod. "Fe fu'n gefn mawr inni," meddai ac yn fodd i roi hwb i bwyllgorau codi arian lleol gyda'r rhan fwyaf o'r reini wedi codi mwy na'r nod osodwyd iddynt.

"Codwyd trwy apêl leol £365,000 - sef mil o bunnau am bob dydd o'r flwyddyn," meddai.

Nid yn unig siriolodd y tywydd ond bu hon hefyd yn eisteddfod rydd o drafferthion trafnidiaeth hefyd.

Pob un yn wahanol

Dywedodd Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, mai'r hyn a wnaeth argraff arno fo oedd fod hon yn eisteddfod lle canolbwyntiwyd ar faterion eisteddfodol yn unig.

"Chawsom ni ddim ein llurgunio a'n tynnu tuag faterion eraill," meddai.

"Un o bethau mawr Steddfod i mi ydi fod pob un yn wahanol wrth iddi gymryd natur y lle mae hi. Mae Eisteddfod Sir Fflint wedi bod yn wych. Mi fydd Eisteddfod Caerdydd yn wych ond yn wahanol a dyna pham y mae pobl yn fodlon dod o flwyddyn i flwyddyn. Maen nhw'n cael ffics wythnosol ond y ffics yna ychydig bach yn wahanol o le i le," meddai.

Dyma'r ffigurau mynediad cyflawn gyda rhai Abertawe y llynedd, Eryri, 2005 a Chasnewydd, 2004, yn dilyn:

  • Nos Wener 1,009 (3,770) (1,451) (1,011)
  • Sadwrn 16,710 (16,565) (15,932) (16,172)
  • Sul 13,848 [Cymanfa 2,072] (14,483) (12,759) (14,046)
  • Llun 18,608 (20,123) (20,720) (18,080)
  • Mawrth 17,463 (18,074) (19,182) (15,142)
  • Mercher 23,092 (20,741) (21,343) (22,438)
  • Iau 21,089 (19,205) (20,737) (18,771)
  • Gwener 23,941 (23,199) (26,307) (24,505)
  • Sadwrn 19,184 (19,277) (19,389) (15,548)
  • CYFANSWM 154,944 (155,437) (157,820)



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý