ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Llun o plant Ysgol Theatr Maldwyn trwy garedigrwydd y Cynhyrchwyr Ysgol Theatr Maldwyn
Chwefror 2005
Tîm llwyddiannus a fu'n gyfrifol am sioeau bythgofiadwy Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd ati i sefydlu Ysgol Theatr Maldwyn.

Testun llawenydd i ni yn ardal 'Plu'r Gweunydd' yw fod y tîm llwyddiannus a fu'n gyfrifol am sioeau bythgofiadwy Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn sef Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams, bellach wedi mynd ati i sefydlu Ysgol Theatr Maldwyn i roi cyfleoedd theatrig i bobl ifanc o 11 i 15 oed.

Roedd pobl ifanc mewn rhannau eraill o Gymru yn cael manteisio ers tro ar y cyfleoedd a gynigid gan Ysgol Glanaethwy ac Ysgol Gerdd Ceredigion a'u tebyg, ac mae sefydlu ysgol theatr fel hon yn mynd i fod o fudd mawr i'n hieuenctid ni.

Daeth y criw at ei gilydd am y tro cyntaf ym Medi 2004 - 51 o ieuenctid Blwyddyn 7-9 o ysgolion uwchradd y Sir - a hynny yng Nghanolfan y Banw lle maent wedi bod yn ymarfer yn galed drwy'r tymor.

Y sioe a ddewiswyd i'w pherfformio gyntaf oedd sioe Gareth Glyn a Cefin Roberts "3, 2, 1", sioe a ysgrifennwyd ar ddiwedd yr wythdegau. Perfformiwyd y sloe dair gwaith dros benwythnos yr 8fed a'r 9fed o lonawr, 2005 ac roedd y Ganolfan Hamdden yn Llanfair yn llawn i bob perfformiad.

Gweithiodd y criw yn hynod o galed i baratoi'r diweddariad hwn o hanes Arianrhod a Llew Llaw Gyffes o'r Mabinogion ac roedd y gynulleidfa wedi rhyfeddu at eu dawn i ddysgu a pherfformio sioe o'r fath mewn cyfnod mor fyr.

Mae'r criw wedi ailddechrau ymarfer y tymor hwn ac edrychwn ymlaen at eu perfformiad nesaf, a fydd yn cael ei gyflwyno mewn tair ardal ym Maldwyn rywbryd ym mis Ebrill neu Fai.

Sefydlwyd Cymdeithas Rheini i gefnogi'r Ysgol Theatr ac i gynorthwyo gyda chodi arian tuag at y gweithgareddau. Cadeirydd y Gymdeithas yw Tom Jones, Plas Coch, yr Is-Gadeirydd yw Hywel Jones, y Drenewydd, yr Ysgrifennydd yw Jill Jones, Bryn Meurig, a'r Trysorydd yw Enid Jones, Melingrug.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at berfformiad nesaf Ysgol Theatr Maldwyn, a thybiwn, o gofio pwy sydd wrth y llyw, y byddwn yn clywed llawer mwy am y fenter gyffrous hon yn y dyfodol.

  • Adolygiad a lluniau o sioe Llwybr Efnisien (2007) a chlipiau sain o Penri Roberts yn siarad am Gwmni Theatr Maldwyn.

  • Gwefan Y Drenewydd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý