ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Hen Blasdy Llysun Llysun yn Llosgi
Ionawr 2006
Alwyn Hughes yn cyflwyno hanes diddorol Hen Blasdy Llysun a thân mawr y chwedegau.

Tybed faint ohonoch sy'n cofio hen blasdy Llysun ar ei draed? Rwyf yn ddiolchgar iawn i Mr Gwynfor Jones, Aberriw (Llysun gynt) am gael benthyg lluniau ac adroddiad papur newydd sy'n sôn am yr hen blasdy'n llosgi'n ulw yn Rhagfyr 1962.

Gerllaw'r tŷ presennol mae boncyn bychan, ac yno unwaith roedd castell mwnt a beili a ddyddiai'n ôl i gyfnod y Normaniaid, fel y gwelir ym Mathrafal neu Domen Gastell ger Llanfechain.

Mae Gutun Padarn (Parch Griffith Edwards) yn cyfeirio at 'Llysyn' yn ei lyfr ar hanes plwyfi pen uchaf Dyffryn Banw. Dywed fod Dr John Davies a Richards yn meddwl mai 'Llysdin' oedd yr enw gwreiddiol a olygai neuadd neu lys. Awgrym arall yw fod 'Llys' yn hannu o neuadd neu gwrt, ble roedd barnwyr y cwmwd neu'r ardal yn arfer eistedd.

Bu'n lle o bwys ar hyd y canrifoedd a lle coediog i hela oedd Parc (cartref Gareth, Sioned a Greta) gerllaw. Gelwir darn o goed heb fod ymhell yn Goed y Lodge hyd heddiw. leuan ab Bedo Gwyn oedd perchennog Llysun yn y bymthegfed ganrif, ac roedd yn ddisgynnydd o'r gangen ieuengaf o deulu Neuadd Wen, plasdy pwysig arall oedd gerllaw. Dywed y Montgomeryshire Worthies fod leuan ab Bedo Gwyn yn fardd a drigai yn 'Llyssyn' a bu'n llewyrchus rhwng 1530 a 1570.

Bu Llysun (neu Llyssin) yn eiddo i deulu'r Arglwydd Herbert o Chirbury (un o ragflaenwyr Arglwyddi Powys) am gyfnod ac yn ôl y Montgomeryshire Worthies, roedd yn cartrefu yn Llysun yn yr haf tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg (tua 1660). Plas Lymore, ger Trefaldwyn oedd eu prif gartref.

Ceir hanes am Richard, mab Edward Herbert yn dioddef ymosodiad ffiaidd ym mynwent Llanerfyl pan holltwyd ei benglog yn agored gan gryman, drwodd i'w ymennydd. Yn ôl y sôn, cerddodd y cyfaill adre i Lysun a gwellodd o'i glwyfau. Ceir cofnod yn hen ddogfennau Eglwys Llanerfyl fod sedd yr Arglwydd Edward Herbert, Barwn Chirbury ar ochr ddeheuol yr eil (aisle) ym mhen uchaf yr Eglwys.

Pobl eraill a fu'n byw yn Llysun oedd y teulu Gardner, rhwng 1809 a 1870. Mae'n siŵr eu bod yn deulu o gryn ddylanwad oherwydd gwelir tabled pres ar wal Eglwys Llanerfyl yn cyfeirio at y teulu hwn. Dywed yr arysgrifen fod y ffenestri yng nghangell yr Eglwys wedi'u rhoddi yn ôl ewyllys William Humphrey Gardner, yn wreiddiol o Llyssun er cof am ei daid Arthur Gardner a fu farw yn 1862, a'i nain Elizabeth Gardner a fu farw yn 1833 ynghyd â nifer o aelodau eraill o'i deulu a enwir ar y dabled.

Dyma ychydig o hanes Llysun yn y gorffennol, a diddorol yw sylwi gymaint o wahanol ffurfiau a geir wrth sillafu'r enw.

Nid yw gofod yn caniatau imi olrhain mwy o hanes y lle, felly neidiaf ymlaen i 1931, pan ddaeth y diweddar Evan H. Jones (tad Gwynfor Jones) yno i ffermio, a bu farw yn 1954. Cymerodd Gwynfor y fferm drosodd ar ôl iddo briodi yn 1952. Mae'r adroddiad a ymddangosodd yn y County Times yn cofnodi'r digwyddiad pan losgwyd yr hen dŷ. Roedd 21 o ystafelloedd yn hen ffermdy Llysun ac oedd y tân yn un o'r rhai gwaethaf a welwyd yng Nghwm Banw. Digwyddodd y tân yn ystod gaeaf caled 1962/63 a gwnaeth gwynt milain y dwyrain bethau'n waeth er gwaethaf ymdrechion diffoddwyr tân o Lanfair Caereinion, Llanfyllin, Y Trallwm a Threfaldwyn.

Dechreuodd y tân yn ystafell Evan, y mab ieuengaf ar y llawr uchaf ynghanol y tŷ, tua 10.15 yn y bore, a dywedodd y bychan wrth Miss Gladys Swain y forwyn fod ei ystafell yn llawn o fwg. Aeth hithau i mofyn cymorth Berwyn Davies (Bryn Banwy heddiw) a Mr Jackie Williams a oedd yn bwydo'r gwartheg. Roedd Gwynfor a'i wraig yn bwydo defaid mewn caeau i ffwrdd o'r tŷ ar y pryd, a phan ddaethant yn ôl roedd y dynion yn cario popeth a fedrent allan o'r llawr isaf.

Collwyd yr holl ddodrefn ar y llawr uchaf ynghyd â'r rhan fwyaf o'r dillad ac anrhegion priodas ac eiddo personol. Dywed Gwynfor i'r lle "fynd i fyny fel matsien". Diolchodd na ddigwyddodd hyn yn ystod oriau'r nos pan oedd y teulu yn cysgu. Ni lwyddwyd i ddarganfod sut y bu i'r tân ddechrau.

Nid hwn oedd y tân cyntaf a fu yn Llysun. Roedd rhai o'r trigolion hynaf yn cofio tân arall a fu yn 1929 pan losgwyd llawer o'r adeiladau y pryd hynny.

Rwyf yn ddiolchgar iawn i Gwynfor a'i wraig am gael benthyg y lluniau ac am gael aralleirio'r adroddiad papur newydd. Credai mai da o beth yw cyhoeddi'r llun o'r hen blasdy oherwydd nid yw llawer iawn o drigolion yr ardal yn ei gofio fel yr oedd.

Erthygl gan Alwyn Hughes


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý