ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Eisteddfod Genedlaethol Drenewydd 1965. Eisteddfodau'r Gorffennol
Ebrill 2003
Atgofion 'Cywen'

Gan fod Nest yn rhifyn diwethaf y Plu wedi ein hatgoffa o Steddfod 1949 yn Nolgellau dyma rai o'm hatgofion 'Fyddwn i ddim yn dymuno steddfod arall fel hon'.

Does gen i fawr a gof am y steddfod ei hunan ond yn sicr nid oedd cwt ieir bach yn ddelfrydol i bump! Nid oeddem yn codi fel ieir o bell ffordd - diogi yn y bore a rhai'n galw heibio i'n gweld a ninnau ein pump yn dal yn solet ar y glwyd. Roedd hi'n mynd yn boeth ddifrifol yn y cwt yn y nos a ninnau ofn cadw'r drws ar agor gan fod cwn yn dod heibio. Atgof Mai Court (Sturkey) oedd iddi golli'r swydd o wneud brecwast gan ei bod yn rhy hir wrthi a ninnau ar glemio!

Edrych ymlaen am ddod adre i gael bath oeddwn i ond bu'n rhaid aros i'r pen - pawb ond Nest. Dihangodd honno efo Elwyn! Ni fyddwn yn recomendio wythnos mewn cwt ieir i neb, ond siawns fod merched ifanc yr oes hon yn gallach.

Cafwyd barddaniaeth wedi'i sgwennu inni. Dyma'r cyfarchiad a anfonodd W.J. Richards, Derwenlas.
Chwi geiliogod y colegau
Ar ôl dod yn dyrfa lon
I Eisteddfad fawr Dolgellau
Ewch i ffermdy Tanyfron;
Wedi cyrraedd yno'n llawen
Mynnwch gael eich siâr o hwyl
Yn y 'Clwydle' mae pum cywen
Wedi dod i dreulio'r Wyl.

Nest, Eleanor a'r ddwy Ella
Sydd â'u clodydd ym mhob man.
A daeth Mai bob cam mi goelia
Yno i nyrsia'r carwyr gwan!
Os am anfon gair yn barod
Cyn yr Wyl i'r cwmni llon
Ar yr amlen rhowch 'Cywennod,
Clwydle, Buarth Tanyfron.

A dyma gyfarchiad Siôn Brydydd o Gemaes.

Cyflwynedig i deulu Plas yr leir
Lles i gynnes gywennod - yw dilyn
Deialog eisteddfod;
I'w hanian bur, da iawn bad
Colegau di-geiliogod.

Yn ôl Ceiriog yr oedd pabell eisteddfod fawr 'ffiffti wyth' yn Llangollen wedi'i thoi yn benigamp â chlamp a wrthban gwlannen. Eithr mwy rhyfeddod lawer a welwyd yn Nolgelllau yn 1949!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý