ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Trefor Owen, Glyn Tegai Hughes, Megan Ellis, Gwyndaf Roberts, Theodora Harvey Dathlu'r Deugain
Ebrill 2006
Swper arbennig yng Ngregynog i ddathlu pen-blwydd Cylch Llenyddol Gregynog yn ddeugain oed.

Cynhaliwyd swper arbennig yng Ngregynog nos Iau, Mawrth 16 i ddathlu pen-blwydd Cylch Llenyddol Gregynog yn ddeugain oed.

Dr Glyn Tegai Hughes, Warden Gregynog ar y pryd, a gafodd y syniad o sefydlu'r Cylch yn fuan ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965 yn y Drenewydd. Wedi ychydig o drafod a phwyllgora penderfynwyd sefydlu Cylch Llenyddol Maldwyn.

Byddai'r Cylch yn agored i bawb ac yn cyfarfod yng Ngregynog. Etholwyd Dr Glyn Tegai Hughes yn gadeirydd cyntaf, Mr Percy Owen, Tregynon yn drysorydd a Mr Edgar Spooner yn ysgrifennydd.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar Fawrth 17eg, 1966 gyda'r diweddar D J Williams, Abergwaun yn darlithio. Y darlithwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf oedd D.J, Emyr Humphreys, R S Thomas, D Gwenallt Jones, Kate Roberts a John Gwilym Jones, ac mae'r Cylch byth oddi ar hynny Trefor Owen, Glyn Tegai Hughes, Megan Ellis, Gwyndaf Roberts, Theodora Harvey a Mike Hughes wedi bod yn denu cewri llên y genedl a'r aelodau wedi cael gwledd with wrando arnynt dros y blynyddoedd.

Wedi'r swper blasus, i gyfeiliant Siwan Jones ar y delyn, torrwyd y gacen pen-blwydd gan Dr Glyn Tegai, sy'n Llywydd y Cylch o hyd, a Megan Ellis, yr Ysgrifennydd am y naw mlynedd diwethaf.

Cyflwynwyd rhodd arbennig sef cywydd o waith Emrys Roberts wedi ei argraffu'n gain i'r Dr Glyn Tegai a darllenwyd y gwaith gan Theodora Harvey. Cyflwynwyd cyfarchion barddol hefyd gan Emyr ap Erddan, John Pinion Jones a Cyril Jones.

Bydd tymor newydd yn dechrau yn hanes y Cylch ym mis Gorffennaf, a bydd croeso cynnes i unrhyw un ymuno â'r cyfarfodydd - bydd manylion llawn yn y papur bro.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý