 |
 |
 |
Gŵyl Ban Geltaidd Ebrill 13 - 18 Mai 2004 Teithio o Gaergybi i Ddulyn ar y cwch cyflym - naw o'r gloch y bore, Ebrill 13eg. |
 |
 |
 |
Siwrne faith ar draws yr Iwerddon i Dralî, Swydd Kerry. Cyfarfod a chroeso i'r ŵyl nos Lun gyda chwmni Theatr y Werin, Siamse Tira yn dweud peth o hanes y wlad. Criw ifanc tebyg iawn i aelodau Ysgol Glanaethwy ond â'r pwyslais ar ddawns a chân. Noson Lawen i ddilyn.
Gwibdaith dydd Mercher i'r Gap of Dunloe a llynnoedd Killarney. Noson y canu gwerin - merch o'r Alban oedd yn fuddugol ar y Gân Werin Unigol gyda bachgen o'r Iwerddon yn ail, a Rhian Mair Lewis o Gymru yn drydydd. Yng nghystadleuaeth y grwpiau - yr Alban gipiodd y wobr gyda Cernyw yn ail, a grŵp Pen Tennyn o Glwyd yn drydydd. Cernyw aeth a'r wobr am Gân Werin Newydd. Noson Lawen - Iwerddon a 'Manaw i ddilyn.
Dydd Iau, taith i'r Dingle i ddilyn - ardal lle mae'r Wyddeleg yn iaith bob dydd. Mae'n rhaid ymweld â'r ardal bob cyfle a gawn. Ymlaen i Amgueddfa lle mae hanes Ynysoedd y Blasket - eu traddodiadau, eu cerddoriaeth, eu ffordd arbennig o grafu byw - ymweld â byd arall bron! Diwrnod i siopa! Nos Wener, cyngerdd corau - yn anffodus dim ond Glanaethwy oedd wedi cyrraedd - fel 'na mae hi yn y 'Werddon - popeth yn mynd yn ei flaen. Gwledd o ganu, cerdd dant, darnau comisiwn a.y.y.b. - noson i'w chofio. Pleser pur! O fanno i'r Theatr - Cyngerdd Cerddoriaeth Telynau Cenedlaethol yr Iwerddon - noson wefreiddiol eto o gân, dawns, cerddoriaeth - partïon ac unawdwyr. Dyma noson y Gân i Gymru (estynedig yn awr i'r gwledydd Celtaidd). Cernyw a orfu gyda Cymru'n ail a'r Iwerddon a'r Alban yn gydradd drydydd. Noson Lawen - Llydaw a'r Cernywiaid (yn ôl Bruce!).
Dyma hi'n Sadwrn yn barod, ac amser hogi arfau ar gyfer cystadleuaeth y corau! Tenau oedd hi braidd - ond diwrnod i'w gofio i Ysgol Glanaethwy - dod adref â thri chwpan! Y côr cymysg, côr merched a chôr gorau'r ŵyl. Yng nghystadleuaeth y corau meibion Parti'r Efail o ardal Pontypridd oedd ar y blaen; Hogiau Bodwrog o Fôn yn ail a Cyntaf i'r Felin o ardal y Felinheli yn drydydd.
"Gormod o Bwdin" meddai rhai ohonoch - "canu a dawnsio" - dydi pawb ddim yn gwirioni r'un fath. Ond roedd rhywbeth at ddant pawb yno ar ein cyfer - dawnsio gyda dawnswyr Delyn a Tipyn o Bopeth; - gweithdai iaith a cherddoriaeth; - gormodaith gyda'r holl gynrychiolwyr Celtaidd; - noson telynau; - cystadleuaeth telyn, ffidil a phibgorn; - chwaraeon cenedlaethol - Camogie Blitz gyda dros drigain o dimau yn cymryd rhan - rhywbeth tebyg i hoci!
Ar y nos Sadwrn, Ebrill 17 roedd y cystadlaethau dawnsio a Dilys Lewis, o dîm dawns Delyn yn cydfeirniadu gyda beirniaid o'r Iwerddon a'r Alban. Michael o dîm Tipyn o Bopeth oedd ar y blaen, yr Iwerddon yn ail a'r Alban yn drydydd. Tipyn o Bopeth aeth â thlws y dawnsio. Rhaid llongyfarch Bobbie ar ei hethol yn Llywydd Cenedlaethol yr Ŵyl yn 2005 a 2006.
Roedd Robin James Jones a Nia Morgan yn beirniadu'r telynau a'r corau. Yn wir, gŵyl ar gyfer pawb yw - rhywbeth at ddant pawb - gwyllt neu wâr - chi sy'n dewis. Mae'r hwyl a'r cyfeillgarwch yn parhau am fisoedd i ddod. Gwasanaeth yn yr Eglwys Gatholig fore Sul. Beth am ddod efo ni i Dralî yn 2005 neu i Letterkenny yn 2006? Gobeithio i chi gael blas ar y darllen.
Marion Owen
 |
 |
 |
 |
|

|