ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Ieuan jones Telynydd o Mathrafal Menter Newydd
Ionawr 2005
Ar ôl teithio'r byd gyda'i delyn am ugain mlynedd, mae Ieuan Jones yn teimlo fod yr amser wedi dod i ddod â'i grefft adref.

Ym 1981, gadawodd leuan Jones Mathrafal i fynd i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. 23 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae wedi dychwelyd i'r ardal ond yn dal yn gysylltiedig â'r Coleg Cerdd Brenhinol, fel Athro'r Delyn erbyn hyn.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae leuan a'i wraig, Penny, wedi bod yn adnewyddu hen fwthyn a adawyd iddo wedi marwolaeth ei dad yn 2001.

Ar ôl teithio'r byd gyda'i delyn am 20 mlynedd, mae'n teimlo fod yr amser wedi dod i ddod â'i grefft adref i'w rhannu gyda'r rhai hynny sy'n mwynhau cerddoriaeth glasurol. Mae bellach wedi adeiladu Ystafell Gerdd wych sydd wedi ei hychwanegu at ei fwthyn ger Meifod, sydd bellach yn gartref ysblennydd a chysurus.

Mae'r ystafell a adeiladwyd gan grefftwyr lleol, o dan ofal Dani Lewis, â lle i 80 o bobl eistedd ynddi. Mae'r lloriau a'r nenfydau wedi eu leinio â derw, a bu'r saer ifanc Ed Watson Smythe o Feifod yn gyfrifol am lawer o'r gwaith coed.

Ar Chwefror 27ain 2005 cynhelir y cyngerdd proffesiynol cyntaf yn yr Ystafell Gerdd, Tanyffridd. Y sêr fydd yn cymryd rhan fydd y gantores wych Nerys Jones, y pianydd ifanc, disglair, Aeron Preston o Gaersws ac wrth gwrs, leuan, fydd yn cyfeilio i Nerys yn ogystal â chyflwyno ambell unawd ar y delyn ei hun.

Dilynir hyn gan swper blasus wedi ei goginio gan Lavinia Vaughan. Noson i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, yn cynnwys talentau gorau Sir Drefaldwyn! Pris y cyngerdd a'r swper gan gynnwys gwin fydd £17.50. Ffoniwch 01938 500609 i archebu tocynnau.


Cyfrannwch

Dan Field o Clarach
Mae e'n neis i gwybod taw dw i ddim yn unig person sy'n dod o Ganada yn wreiddiol ag yn dysgu Cymraeg yn Aberystwyth. Ond, symudais i Lloegr pan o'n i yn un oed!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý