Astudiaeth Maes
Artistiaid cydweithiol yw Heather Ackroyd a Dan Harvey a bydd eu prosiectau'n egino'n llythrennol o'u hymateb i'r mannau lle byddant yn byw. Bydd yr artistiaid yn creu delweddau drwy daflunio lluniau ar laswellt a dyfir o hadau mewn amodau golau arbennig, neu'n trawsnewid safleoedd drwy gyflwyno glaswellt a defnyddiau organig eraill mewn modd dynamig. Mae'r rhan fwyaf o'u gwaith yn safle-benodol yn yr ystyr draddodiadol, hynny yw, caiff ei gynhyrchu'n benodol ar gyfer ei leoliad, dan ddylanwad y lleoliad hwnnw. Mae pob safle'n darparu'r deunydd materol a/neu syniadol ar gyfer y darlun byw neu osodiad neu ymyriad sy'n ganlyniad i'w gwaith. Ond mae gwaith yr artistiaid yn benodol i'r lle arbennig hefyd oherwydd, fel y dywed Lucy Lippard, lle yw'r hyn sy'n cyfuno gofod a chof, a bydd Ackroyd a Harvey'n defnyddio glaswellt a'i nodweddion ffisegol i gyfuno syniadau o fyrhoedledd, parhad a chof gyda'r gofod a lenwir gan eu gwaith. Drwy weithio'n barhaus ar syniadau'n ymwneud â lle, trawsnewid, a hanes personol a lleol, mae eu gwaith yn cyflawni'r hyn a ddiffinnir gan Lippard fel bwriad deunydd ‘lle-benodol': sef celfyddyd sy'n goliwio'i lleoliad yn hytrach na dim ond ei lenwi.
Mae gweithiau glaswellt Ackroyd a Harvey wedi ailfywiogi ac ailddehongli amgueddfeydd, adeiladau, gerddi a pharciau o San Francisco i Boston, o Awstralia i Gymru, o Seland Newydd i Sweden – a thu hwnt – ers pymtheng mlynedd bron. Bu iddynt gydweithio am y tro cyntaf yn 1990 ym mhentref canoloesol Bussana Vecchia yn yr Eidal, gyda gosodiad a gyfunai ofod, cof a pharhad o'r cychwyn. Nodwedd y gosodiad, dan yr enw Yr Ochr Arall (L'Altro Lato), oedd glaswellt a dyfai'n fertigol i fyny waliau siambr gromennog mewn eiddo a adferwyd gan deulu Harvey ryw bedwar ugain mlynedd wedi i ddaeargryn ddinistrio'r pentref yn 1887.
Er i'r fyddin hel gweddill y trigolion oddi yno yn y 1950au, erbyn y 1960au roedd cymuned o artistiaid, a rhieni Harvey yn eu plith, wedi dechrau ailadeiladu nodweddion y pentref. Roedd Yr Ochr Arall yn dwyn i gof yr adfywiad hwn drwy dyfu glaswellt i fyny eiddo teulu Harvey, gan roi bywyd byrhoedlog ond llachar i'r ystafell. Wedyn gadawodd yr artistiaid i'r ystafell wywo yn ei hamser ei hun. Trwy ddefnyddio ymdoddiad amser, lle a deunyddiau organig, roedd trawsffurfiad y siambr yn cyfuno hanes personol, hanes lleol ac adfywiad Bussana Vecchia ei hun yn yr 20fed ganrif.
Fel gydag Yr Ochr Arall, gellid dweud fod gwaith Ackroyd a Harvey'n ystyried lle fel ‘lleoliad haenog llawn hanesion ac atgofion dyn ... mae a wnelo â chysylltiadau, yr hyn sy'n ei amgylchynu, yr hyn a'i ffurfiodd, yr hyn a ddigwyddodd yno, yr hyn a fydd yn digwydd yno' (Lippard, 7).
Safai'r gosodiad a wnaethant yn 1992, Yr Ymgymeriad, er enghraifft, yn siambrau a choridorau Paris o dan Theatr Genedlaethol y Palais du Chaillot am chwe wythnos yn 1992, gan dynnu ar ei agosrwydd at fynwentydd tanddaearol y ddinas i siarad am hanes, darfodedigaeth a dadfeiliad. Yn ddi-os, roedd natur safle-benodol Yr Ymgymeriad,ynghyd â'r modd yr amgaeodd yr artistiaid ystafelloedd mewn glaswellt byw, eu llenwi â fyngau byw, a phlannu haidd aeddfed ynddynt cyn rhyddhau locustiaid i'r ystafell yn ddiweddarach i'w difa, yn dwysáu'r modd yr oedd y gwaith yn adleisio esblygiad a marwolaeth.
Tra bod y gosodiadau cynnar hyn yn archwilio effeithiau trawsffurfiannol glaswellt yn gyffredinol, mae gwaith diweddarach Ackroyd a Harvey wedi pwysleisio nodweddion cloroffyl. Wedi iddynt ddarganfod, ar hap, gysgod gwelw a oedd wedi'i achosi gan ysgol a bwysai yn erbyn un o waliau glaswellt Yr Ochr Arall, datblygodd yr artistiaid y syniad o argraffu delweddau ar laswellt. Y broses hon, a elwir ganddynt yn ‘ffotosynthesis ffotograffig', sydd wrth wraidd llawer o'u gwaith diweddar ac mae'n golygu taflunio delweddau ar rygwellt a dyfir yn fertigol o'r had mewn amodau golau dan reolaeth sy'n annog neu'n cyfyngu cynhyrchiant cloroffyl er mwyn creu amrywiadau graddliw. Wrth i'r glaswellt aeddfedu, daw'r ddelwedd ffotograffig i'r wyneb mewn arlliwiau o wyrdd a melyn.
Yn dibynnu ar yr amodau atmosfferig a golau yn ystod yr arddangosiad, gellir cynnal y ddelwedd am oddeutu tair wythnos cyn iddi bylu a graddol ddiflannu o'r golwg. Yn arbennig, mae Heather Ackroyd yn disgrifio ymddangosiad y gwaith yn y cyfnod hwn fel ‘rhithiol', ac yn dal bod yr olion olaf hyn yn rhoi cryfder ychwanegol i'r gwaith drwy orfodi gwylwyr i ymdrechu i'w weld ac felly i gysylltu ag ef.
Eto, yn ogystal â'u hymchwiliad creadigol parhaus i'r darfodedig, mae Ackroyd a Harvey yr un mor ymroddedig i ymchwilio i ffyrdd o sefydlogi eu delweddau. Ers 1997, maent yn cydweithio â'r Athro Howard Thomas a Dr Helen Ougham o'r Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil i'r Amgylchedd yn Aberystwyth er mwyn ceisio ymestyn oes eu gwaith drwy ddefnyddio glaswellt ‘parhaol-wyrdd' sy'n deillio o beisgwellt Cymreig sy'n naturiol wrthsafol i wres, barrug a sychder.
Mae'r glaswellt parhaol-wyrdd yn atal y genyn sy'n gyfrifol am y dadfeiliad cloroffyl sy'n digwydd pan ddaw'r planhigyn dan bwysau a dechrau marw, a thrwy hynny mae'n arafu proses melynu'r glaswellt a hefyd, dan lefelau golau isel iawn, yn llesteirio ffotosynthesis. O ganlyniad, unwaith y bydd y ddelwedd wedi dod i'r wyneb yn llawn, caiff y gwaith ei sychu'n gyflym, gan ganiatáu i'r artistiaid gyflawni argraffion ffotograffig a allai gadw'u hamrywiadau graddliw am flynyddoedd.
Er bod y dail parhaol-wyrdd ‘yn cadw eu cloroffyl yn llawer mwy effeithiol na glaswellt cyffredin, bydd effeithiau prosesau eraill, fel cannu ocsidiol, yn graddol ddigwydd a thros amser yn cyfrannu at golli delwedd na ellir ei droi'n ôl'. Yn wir, mae'r ddelwedd yn y cyntaf o'u gweithiau i ddefnyddio glaswellt parhaol-wyrdd, Mam a'i Phlentyn (1998), wedi pylu, er nad yw wedi diflannu'n llwyr.
Wedi'i dyfu o ffotograff a dynnwyd gan Harvey o Ackroyd a merch y ddau, Adele, fe gadwyd y ddelwedd gan y glaswellt parhaol-wyrdd sych, ond bu ocsidiad a dinoethiad i'r golau yn ystod y chwe wythnos pan gafodd ei arddangos gyntaf yn gyfrwng i achosi i'r llun golli'i liw maes o law, gan ysgogi sylw craff Harvey mai ‘golau yw'r peth sy'n creu'r ddelwedd...ac a fydd yn ei llygru hefyd'. Heddiw, mae hanner uchaf y portread fwy neu lai wedi diflannu, tra bod olion Adele yn dal i'w gweld yn yr hanner gwaelod. I Ackroyd, mae'r gwaith gwreiddiol yn cadw'i effaith, serch hynny. ‘Mae prydferthwch mewn tyfu ac mae prydferthwch mewn gwywo hefyd', meddai, gan danlinellu arwyddocâd presenoldeb ac absenoldeb ill dau yn ei hymarfer hi a Harvey.
Yn ddiddorol, mae'r artistiaid wedi ail-greu Mam a'i Phlentyn sawl gwaith ers 1998. Yn 2001, arddangosasant fersiwn diraddiedig 1998 ochr yn ochr â fersiwn newydd ei dyfu fel rhan o'u harddangosfa Presence yn Amgueddfa Isabella Stewart Gardner yn Boston. Mae'r potensial i aildyfu Mam a'i Phlentyn, neu unrhyw un o'u portreadau organig, ynddo'i hun yn ehangu arwyddocâd eu gwaith. Fel y dywed Ackroyd,
Os tynnwch lun o [un] ennyd yna mae'r ennyd hwnnw wedi mynd. Ond mewn ffordd, beth wnewch chi gyda'r glaswellt yma os triniwch chi ef; a ddewch chi â'r ennyd hwnnw'n ôl? Dim ond trwy fywyd y defnydd y gallwn ni ddod â'r ennyd hwnnw'n ôl yn fyw. Felly mewn gwirionedd caiff presenoldeb yr ennyd hwnnw ei atgyfodi mewn rhyw fodd. Ac nid wedi'i osod ar yr arwyneb y mae, mae'n digwydd go iawn ar lefel moleciwlau. Mae'n digwydd yn y glaswellt.
Mae gallu technegol yr artistiaid i atgyfodi presenoldeb yn organaidd, ac felly yn wirioneddol, yn awgrymu y gellir adfywio ennyd a fuasai fel arall yn ddarfodedig dro ar ôl tro. Ond mi fyddwn i'n dadlau fod natur ddiflannol gynhenid eu ffotograffau byw yn y pen draw'n ailgadarnhau absenoldeb: bydd y ddelwedd yn pylu, bydd yr atgofion a gynhwysir ynddi'n cilio. Mae'r addewid o adnewyddu drwy aildyfu felly'n profi mor rhithiol a'r ddelwedd ei hun.
Mae cyfeiriadau at adnewyddu ac at y cof personol a chymunedol yn nodweddiadol o waith Ackroyd a Harvey. Mae'r cyfraniad a gynlluniwyd ganddynt ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, felly, yn darlunio golwg o'r awyr ar y tir o gwmpas Meifod, gan gyfeirio drwy hynny at le, amser, hanes lleol a chenedlaethol a, thrwy gyfrwng glaswellt, at adfywiad, i gyd ar yr un pryd. Fel gyda'u gosodiadau cynharaf, mae parhad – sef, yn yr achos hwn, y darlun ennyd a gaiff ei gipio oddi fry; y syniad o amser sydd ynghlwm wrth dwf y ffotograff – yn uno â lleoliad er mwyn treiddio i'r union le lle caiff y gwaith ei gartref cyntaf. Bydd y miloedd o ddail glaswellt, sydd pan welir hwy'n agos yn gwadu i'r gwyliwr amgyffred y ddelwedd, yn mynnu cael eu gweld a'u hystyried o hirbell. Drwy ddylanwadu ar berthynas y gwyliwr ei hun gyda'r gwaith a'i leoliad, bydd gwaith Ackroyd a Harvey yn wir yn goliwio, yn hytrach na dim ond llenwi, ei le.
Alison Bracker
Gorffennaf 2003