Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.

Gwyliwch glip fideo Tim Davies

Mae'r tri gwaith, a wnaed yn ystod y deuddeng mis diwethaf, yn cyfeirio at ac yn dadansoddi agweddau o'r diwydiannau treftadaeth a thwristiaeth, yn arbennig eu gallu i greu chwedlau; semioteg delwedd a thestun; a ffenomenoleg tirlun. Lle rwyf yn ei adnabod yn dda
Cyflwyniad DVD a llyfrau artist
Mae teitl y gwaith hwn yn eironig, oherwydd bod y 'lle' a ddaeth ag ef i fod wedi newid yn sylweddol ers yr amser a dreuliais yno yng nghartref fu nheulu yn yr 1960au a'r 1970au. Y lle arbennig y cyfeirir ato yw Solfach, yn Sir Benfro, ond gallai fod yn un o nifer o leoedd fel y rhai hynny yng Nghernyw, Ardal y Llynnoedd a Dorset, i enwi dim ond ychydig o enghreifftiau Prydeinig, sydd wedi dod i gael eu gwerthfawrogi am eu hatyniad masnachol fel cyrchfannau gwyliau ac sydd felly yn debyg i 'drefi ysbryd' allan o'r tymor gwyliau. Ceisiaf yn y gwaith gymysgu delwedd a thestun a'r personol drwy ddefnyddio ffotograffau teuluol, gyda'r mwy cyffredinol drwy ddefnyddio pytiau ystrydebol o daflenni gwerthwyr tai ac asiantau gosod bythynnod. O'u cymryd allan o gyd-destun, mae'r dyfyniadau yn ymddangos yn wirion ond eto yn od o delynegol, gan guddio'r byd masnachol y tarddant ohono. Drwy lunio gwaith celf am y prosesau o ddefnyddio a masnacholi lleoliad, anelaf at wneud i bobl ystyried goblygiadau'r prosesau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol i fywydau pobl go iawn ac, yn achos Cymru, y prosesau ieithyddol cynhenid sydd ar waith mewn cyd-destun o'r fath. Gobeithir bod y gwaith yn rhoi sylw i'r gwahanol brofiadau sydd ynghlwm wrth le, fel y lliniarir hynny drwy gymhellion amrywiol fel budd ariannol ac agosrwydd teuluol.
Cyfres Cardiau Post 1
Cardiau Post a beiro
Mae'r gwaith hwn yn barhad ar thema a ddatblygwyd am y tro cyntaf yn fy nhafluniad golau ar Gastell Abertawe Blue Funk. Mae'r gyfres hon yn gyfatebiad dau ddimensiwn sy'n defnyddio cardiau post fel gwrthrychau parod. Yn yr achos hwn caiff y cardiau post o gestyll eu llinellu mewn beiro las, y deunydd a ddefnyddir amlaf i ysgrifennu neges ar gefn cerdyn post. Mewn dull tebyg i orchuddio Castell Abertawe mewn golau glas, mae'r llinellu yn ffurfio llen dros y castell. Nid yw bellach yn atyniad prydferth i dwristiaid, ond yn ei ddirgelwch gobeithiaf ddatgelu pwrpas gwreiddiol yr adeilad (fel yr awgrymodd yr anthropolegydd Joy Hendry, mae lapio gwrthrych neu ei orchuddio yn aml yn ddull o egluro rhywbeth amdano): canolfan grym gwleidyddol, safle gorthrwm a thyst i frwydr a gwrthdaro. Cafodd cestyll yn aml eu peintio gan artistiaid oherwydd eu hynafiaeth a'u harddwch sydd wedi ei orchuddio gan eiddew, motifau mewn bugeilgerdd wledig ramantus. Fy ymateb i yw defnyddio gwrthrych bob dydd a'i gyflwyno mewn cyd-destun oriel i herio nodweddion esthetig tybiedig y cestyll ac atgoffa'r gwyliwr fod gan yr adfeilion hyn, a fawrygir yn aml fel atyniadau twristaidd ysblennydd un o nodweddion pwysig y diwydiant treftadaeth, hanes arall yr ydym weithiau yn ei anghofio.
Cyfres Cardiau Post II
Cardiau post wedi eu torri
Ar gyfer y gyfres hon, rwyf wedi dileu'r Ladi Gymreig o gardiau post a gasglwyd o siopau gwerthu pob dim, ac wedi eu cyflwyno naill ai yn wynebu tuag i fyny (i weld gweddill y ddelwedd) neu yn wynebu tuag i lawr i ddatgelu'r negeseuon a ysgrifennwyd ar y cefn, unwaith eto gan eu defnyddio fel gwrthrychau 'parod'. Mae'r Ladi Gymreig yn ddelwedd eiconig arall a ddefnyddir mewn twristiaeth ac wrth ymelwa ar dreftadaeth Cymru. Mae'r wisg wrth gwrs yn rhywbeth a ddychmygwyd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a fabwysiadwyd yn eang fel symbol grotésg o hunaniaeth genedlaethol. Mae'r cardiau post a anfonwyd at deuluoedd a ffrindiau dros y blynyddoedd yn hyrwyddo delwedd o Gymru o ddiniweidrwydd, plwyfoldeb a hynodrwydd, ac yn parhau â'r gwawdlun o'r ferch ystrydebol. Yn y cardiau post fe'n gadewir gyda'r tirlun y torrwyd yr eiconau ohonynt, neu'r geiriau yn dweud am brofiadau a phethau y daethpwyd ar eu traws ar wyliau. Mae'r modd yr wyf yn tynnu'r ffigwr allan o bob cerdyn post yn ymosodiad uniongyrchol ar y modd y caiff chwedlau eu creu o ddelweddau o'r fath. O fewn cyd-destun ehangach, mae'r gwaith hefyd yn dangos tirlun heb ffigyrau ynddo, sydd bellach yn ddim mwy na chysgodion ar y waliau boed hynny yn nhirlun lluniau'r cerdyn post neu'r tirlun a gofir ac a ddychmygir a ddisgrifiwyd yn y negeseuon. Mae hyn gobeithio yn arwain y sawl sy'n edrych arnynt i ystyried pethau sy'n absennol yn y tirlun mewn perthynas â'r cyflwr o berthyn neu golled.
Cestyll
Nid Caernarfon na Chonwy -
hen gewri maen hawddgar mwy,
na'r brenin Siarl o Harlech
a'i drem-cerdyn-post yn drech
na'i orwel o Eryri,
na'i friw graig, na'i fôr a'i gri;
ond llen ddulas dros gastell,
rhith o ffurf dierth a phell
dan wawd, fel ffawd cnaf ar ffo
o olwg heddiw'n cilio
lwyr ei din i'w 'slawer dydd,
yn ôl i lyo'i g'wilydd.
Dere i wyll diawyr hwn,
hyd wins o ddyfnder dwnsiwn,
at riddfan ap Cynan y co'
swn ing hanes sy'n ango
a droai'n gwyr dewr yn gig
a'u hangau'n llygod Ffrengig
Neu dring i fyny'i dwr e,
edrych ar bobol ei odre
yn grwm o dan deyrn mor gry',
yn daeogion ar dagu.
edrych, wir, ystyria chwedl
hen eiconau ein cenedl.