Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru ac fe’i dyfernir i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ledaenu ei ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed.
Ysgoloriaeth: £1,500
Detholwyr: Robert Camlin, David Lea
Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth i Laura Clark a Lucie Phillips
Sylwadau'r Detholwyr:
Bu i ni ddewis yr ymgeiswyr ar sail y meini prawf canlynol:
- Fflach greadigol a ffordd wreiddiol o feddwl
- Medr wrth drin gofod, lle, arwyneb a deunydd, hanfodion celfyddyd pensaernïaeth
- Tystiolaeth mewn llyfr braslunio o syniadau a gwaith bras
- Dawn dylunio
- Eglurder bwriad a chyflwyniad
- Ymateb i bwrpas yr ysgoloriaeth
Dim ond pedair ymgais a dderbyniwyd, nifer siomedig, ond roedd ymdrechion dwy a ymgeisiodd yn eithriadol o dda. Bu i ni benderfynu rhoi’r ysgoloriaeth i’r ddwy oherwydd ein bod yn dymuno gwobrwyo brwdfrydedd, synnwyr greddfol am y gwrthrych, craffter, a’r potensial ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, yn ogystal â chyrhaeddiad.
Mae Laura Clark yn ei blwyddyn olaf yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Mae ei ffotograffiaeth yn dangos llygad mor gywir a sensitif sydd ganddi, a sut y gall ddarganfod a phortreadu harddwch a drama yn y pethau symlaf. Mae’r ddawn hon yn sail i’r holl waith yn ei phortffolio. Mae’r cynlluniau ac adrannau ei hadeiladau yn syml, yn gynnil ac yn gain; edrychwch er enghraifft ar y prosiect ‘Contain your Living’ lle mae’r wal storio gam yn cynhyrchu amrywiaeth o ofodau o faint priodol o fewn blwch petryal tynn.
Mae ei dyluniadau yn rhydd o ystrydebau ac iaith chwyddedig ac mae hyn i’w groesawu. Caiff cyfeintiau petryalog eu trin a’u trafod i ddarparu gofodau a ffasadau mewnol cymhleth wedi eu haenu gyda sgriniau. Mae’r gyfres o ddelweddau hardd ar gyfer Tai Oban Drive a Chanolfan Dysgu Lanark yn gyfansoddiadau pensaernïol arbennig o argyhoeddiadol ac hefyd yn arddangos ei medr gyda rendro cyfrifiadurol.
Mae ei synnwyr o liw bob amser yn gynnil ac yn gytûn ac nid yw’n tynnu oddi ar eglurder y cyflwyniad. Nid yw’r cydbwysedd hwn rhwng delwedd a thestun bob amser yn hawdd i’w gyflawni. Mae rhaglen gymdeithasol, ymarferol a threfol sydd wedi ei mynegi’n gryno yn sail i’r rhan fwyaf o’r prosiectau, yn y traddodiad modernaidd gorau. Mewn rhai achosion hoffem weld dyluniadau strwythurol gyda mwy o ddychymyg ac wedi eu dylunio yn llawnach, ond mae’n sicr y bydd hyn yn digwydd yn nes ymlaen.
Mae Lucie Phillips yn dilyn cwrs mewn Pensaernïaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Mae ganddi hi synwyrusrwydd pensaernïol cwbl wahanol. O’i hastudiaeth Lefel A, Prosiect 1, ymlaen mae’n ymchwilio i ddrama bodolaeth wedi ei fynegi mewn ffurf gerfluniol, wedi ei lluniadu. Mae gan yr astudiaethau hyn gadernid arbennig, tensiwn a phðer, pðer sy’n cael ei drosglwyddo yn uniongyrchol i bedair ystafell Prosiect 3. Mae’r gofodau bychain hyn yn eithriadol o ddwys ac yn mynd yn syth at galon pensaernïaeth. Maent yn cynnig dulliau hudolus o weddnewid awyrgylch o fewn gofod cyfyngedig iawn. Maent yn trin a thrafod gofod, golau, arwyneb a deunyddiau mewn dull haniaethol heb fod yn atebol i arddulliau. Edrychwch ar y golau sy’n crychu ac ar waliau’r ystafell arteffactau, a chynllunio croeslinol yr ystafell ymolchi Dwrcaidd - syniadau syml a chryno, bwriadau clir a gyflawnir mewn modd uniongyrchol. Byddent yn hawdd i’w hadeiladu.
Mae Laura Clark a Lucie Phillips yn mynegi eu pryder am froydd eu mebyd yng Nghymru, eu dymuniad i ddychwelyd a chyfrannu eu doniau i wneud y byd yn well lle. Ni allwn or-bwysleisio’r angen am benseiri sy’n deall bod pensaernïaeth yn gelfyddyd yn bennaf, ac mai ei thasg yw ychwanegu at fywyd yr ysbryd, a dymunwn gryfder iddynt i wrthsefyll cyfyngiadau materol arfer, sy’n bygwth celf ym mhob man.
Robert Camlin, David Lea