ѿý

Explore the ѿý
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

ѿý ѿýpage
Cymru'r Byd

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y Bobl Comisiwn Madog
Cynllun preswyl Maldwyn
Gwobr Ifor Davies
Iorwerth Peate
Ackroyd Harvey
Derek Williams



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

'CYRRAEDD Y CAIN A'R PRYDFERTH'
Iorwerth Peate – Celf a Chrefft, Cymru a'r Eisteddfod Robyn Tomos

'Cofier hefyd am grefftau eraill y wlad,' meddai Iowerth Peate gan restru y gweithgareddau posib' y dylid eu hystyried, ' – gwaith lip, y melinau o bob math, y ffatrïoedd brethyn, gwneuthurwr priddlestri, y saer coed a'r saer maen, y töwr, y turniwr, y crydd, y teiliwr, y gof y gwneuthurwr clociau, y glöwr a'r chwarelwr…'

Ac yntau bellach yn Geidwad ar Adran Diwylliant a Diwydiant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru, roedd yr hanesydd yn annerch aelodau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Ac wrth ddod i ddiwedd y ddarlith ynghylch gwaddol y diwylliant gwerin, dyma fynnu mai: 'Dyma'n wir lle y ceir y celfyddyd werin. Hanfod y gelfyddyd honno yw mai peth naturiol ydyw. Nid rhywbeth a ddysgwyd o lyfrau mohoni, ond cynnyrch dilwgr y teimlad yn ei ddangos ei hun yn naturiol – unlearned artistry, chwedl y Sais.' Er mwyn egluro, dyma Iorwerth Peate yn cyfeirio at gwilt a welodd yn Arddangosfa Celf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam bedair blynedd yn gynt. Roedd gwaith teiliwr milwrol o'r dref, mynnai, yn 'enghraifft ddiledryw o gelfyddyd werin Gymreig'. Roedd y gwaith a grëwyd gan James Williams ganol y 19fed ganrif yn cynnwys 4,525 o ddarnau unigol o frethyn - llawer ohonynt yn glytiau glas a choch o lifrai milwrol - ac yn mesur 2½ llath wrth 2½ llath.

'Er bod hwn yn gwybod ei Feibl, nid cynnyrch na llyfr na school of art yw ei gelfyddyd,' meddai Peate amdano. 'Sylwer ar ei destunau – testunau o'r Beibl, patrwm o'r Willow-pattern plate a phrif ryfeddodau gwaith dyn yng Ngogledd Cymru yn ei gyfnod ef, Pont Fenai a Phont Cysyllte gyda'r trên yn rhedeg trosti. A'r cwbl wedi ei weithio'n gelfydd ac yn lliwgar i mewn i draddodiad cwiltio.'
Roedd ei gasgliadau yn ddilyniant o'r hyn a gyhoeddodd yn ei gyfrol Y Crefftwr yng Nghymru yn 1933. Y thema ganolog i Iorwerth Peate gydol ei oes oedd bod gwir gelfyddyd Gymreig i'w chanfod yng nghrefftau Cymru.

Dadlennir syniadau ffurfiannol Peate ynghylch celfyddyd yng Nghymru flynyddoedd yn gynt yn ei ohebiaeth i'r papur newydd Baner ac Amserau Cymru. Ac yntau newydd raddio mewn Astudiaethau Cymdeithasol roedd yr ysgolhaig o Lanbrynmair yn fwy na pharod ei farn. Mewn ymateb i erthygl gan Saunders Lewis, dan y pennawd 'Celfyddyd a Chenedlaetholdeb' yn rhifyn 25 Gorffennaf 1923, dyma'r hanesydd ifanc yn mynnu bod pob artist yn genedlaetholwr 'wrth natur'.

'Y tu ôl i artist o Gymro,' meddai, '… y mae holl draddodiad ei wlad a'i genedl ei hun, yn gyntaf oll; cyfanswm egwyddor fawr cenedlaetholdeb.
'Fy nadl i yw mai peth cenedlaethol wrth natur yw celfyddyd, gan fod i bob cenedl deithi arbennig a ymddengys yng nghynnyrch meddwl y genedl honno.
Ac i Peate roedd enaid cenedl y Cymry wedi ei gronni yng 'nghelfyddyd yr oesoedd' sef crefftau gwerin gwlad.
'Yn ein crefftau y mae hanes ymdrech dyn at gyrraedd y Cain a'r Prydferth,' meddai.

Roedd Iorwerth Peate yn ddrwgdybus o gelfyddyd uchel ael – roedd honno yn perthyn i draddodiad estron. Wrth adolygu cyfrol Edmund D. Jones Camre Celfyddyd yn 1938, dyma ddatgan: '…ffieiddiaf y gweiddi diweddar am “Gelfyddyd Genedlaethol Cymru.” Nid oes y fath beth â chelfyddyd genedlaethol. Y mae artistiaid sy'n Gymry a hynny'n unig.' Yr un oedd brwsiad paent neu nodyn miwisg ym Maldwyn ac Amwythig, meddai. 'Ni ddibynna'r paentiwr ar draddodiad cenedlaethol: defnydd difywyd – paent – yw ei gyfrwng ac o'i bersonoliaeth ef fel dyn unigol y gwisgir y paent hwnnw â'r peth byw.'

Crisialwyd ei syniadau ynghylch perthnasedd y diwylliant gwerin fwy fwy a cheisiai bob cyfle i ledaenu ei weledigaeth. Er enghraifft, er gwaethaf anawsterau cynnal y Brifwyl adeg yr Ail Ryfel Byd, llwyddodd Peate i drefnu arddangosfa o wrthrychau yn perthyn i grefftau a diwydiannau Ceredigion yn Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1942. (Y bwriad oedd cynnal yr wyl yng Nghaerfyrddin ond symudwyd y lleoliad i Aberteifi oherwydd diffyg neuadd).

Er i'r cystadlaethau celfyddyd gain ddechrau ail-ennill eu lle yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946 cafwyd pwyslais trwm, dan ddylanwad Peate eto ar y crefftau gwledig traddodiadol yma hefyd. Gan nad oedd Aelod Seneddol Aberdâr, George H Hall ym medru bod yn bresennol, ac yntau yn Llywydd yr adran Celf a Chrefft, agorwyd yr Arddangosfa gan Iorwerth Peate. Dyfynwyd ef yn y Western Mail yn datgan: 'Not only are the poet and musician important in the Welsh tradition, but also the craftsman, who has always been a man of influence in Welsh life.'

Mewn ysgrif a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y gyfrol Ymhob Pen yn 1948 dyma amlinelli swyddogaeth yr artist mewn cymdeithas. 'Y mae pob gwaith celfyddyd yn bont, ' meddai. '…Onid bydd yn bont, hynny yw, onid yw'n ddealladwy i rywun heblaw'r awdur ei hun, ni all fod yn artistwaith mawr. …Nid dywedyd yr wyf y disgwylir i'r artist greu gwaith sy'n ddealladwy i bawb, ond dal yn hytrach fod gan bob gwir artist gyhoedd neu gynulleidfa sy'n deall ei waith ac yn cael budd ysbrydol ohono, er nad bob amser yn oes yr artist ei hun.'

Onid ei ddadl felly oedd bod yr artist, fel y crefftwr gwlad yn perthyn i gymdeithas? Ei fod yn rhannu hanes, phrofiadau a dyheadau ei gyd-ddyn? Ac, o'r herwydd, yn rhan o'r drafodaeth a oedd yn ceisio gwneud synnwyr o'r cyfan?

Erbyn 1950 fodd bynnag roedd gafael Iorwerth Peate ar arddangosfa'r Brifwyl yn llacio. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili y flwyddyn honno, penderfynwyd dileu'r cystadlaethau celfyddyd gain yn gyfan gwbl a detholwyd yr arddangosfa gan yr artistiaid Cedric Morris, Ceri Richards a George Mayer-Marton. Peate fodd bynnag oedd Llywydd yr adran Celf a Chrefft gyfan a mynegodd ei amheuon ynghylch y drefn newydd yn rhagair y Catalog ac yn ei araith wrth agor yr arddangosfa. 'Ceisiodd y Pwyllgor eleni ddiwygio ac arloesi ym myd crefft a chelfyddyd,' meddai. ' Un o'r digwyddiadau mwyaf diddorol yw'r fenter o ddileu gwobrwyon ac o hepgor cystadleuaeth yn adran Celfyddyd Gain. O dro i dro bu llawer o feirniadu ar yr Eisteddfod am gynnal cystadlaethau, yn arbennig ymysg beirniaid 'uchelael'. Bydd arbrawf Caerffili yn rhoddi cyfle da i ystyried a oes gwell dull i sicrhau'r safonau uchaf na'r hen ddull eisteddfodol o gystadlu.'

Dyma rybuddio hefyd nad oedd yr adran Celfyddyd a Chrefft wedi llwyr ennill ei phlwyf yn yr Eisteddfod a mynnu nad oedd y Brifwyl ei hun wedi llwyddo i wneud cyfraniad cofiadwy a pharhaol i gelfyddyd yng Nghymru. 'Un rheswm am hyn yw ein bod ni'n dal i bwyso'n ormodol ar feirniaid a dulliau meddwl estron i'n traddodiad,' meddai. 'Os disgwyliwn gyfraniad arbennig gan yr Eisteddfod i gelfyddyd yng Nghymru, rhaid inni fod yn hyderus a diofn gan ddewis beirniaid a wyr yn dda am gefndir y bywyd Cymraeg, am addysg Cymru, ac anawsterau'r artist yng Nghymru… 'Os gwir y dywediad mai 'o gorff o grefftau byw y tyf celfyddyd fyw,' gwir hefyd y gosodiad, mi gredaf, mai o waith Cymry dan feirniadaeth gwyr a wyr am Gymru y ceir cyfraniad Cymreig hollol i gelfyddyd. Gall y cyfraniad hwnnw fod o safon “crefft” ar y dechrau, ond buan y cyfyd y safonau i dir celfyddyd fyw.'

Os nad oedd modd gwadu llwyddiant arddangosfa 1950 roedd rhybudd Peate yn ei araith agoriadol yn adlais o'r hyn yr ysgrifennodd ynghylch Camre Celfyddyd yn 1938. Dyfynnwyd ef yn y wasg yn mynnu:'Welsh artists should not become too complacent about the establishment of a Welsh school of painting just because they have enjoyed a successful exhibition at Caerphilly. If we in Wales are to see a school of Welsh artists, the artist himself must familiarise himself with the whole background of Welsh material life.' Ym Mhrifwyl Llanrwst y flwyddyn ganlynol sefydlwyd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain (bu'n rhaid aros tan 1985 cyn sefydlu anrhydedd cyffelyb ar gyfer Crefft a Dylunio).
Erbyn 1951 roedd y freuddwyd o sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi ei hen wireddu a Iorwerth Peate wedi ei benodi'n Geidwad arni. Canolbwyntiodd ei ymdrechion ar ddiogelu a chasglu enghreifftiau o ddiwylliant gwerin Cymru a datblygu'r amgueddfa newydd.
Yn y cyfamser, diolch i Iorwerth Cyfeiliog Peate mae'r drafodaeth ynghylch cyd-berthynas Cymreictod a chelfyddyd yn parhau ac yn esblygu.

Gweler hefyd:

Bro a Bywyd : Iorwerth Cyfeiliog Peate 1901 - 1982, R Alun Ifans, Barddas 2003
Y Chwaer Dduwies – Celf, Crefft a'r Eisteddfod, Peter Lord, Gomer 1992

Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura Clark Laura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie Phillips Lucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas Hare Penseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies Sutton Pensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari Thomas Mari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim Davies Tim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard Bevan Richard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the ѿý | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy