|  |
 |  |

![]() 
![]() 
![]() 
![]() 
![]()

![]()
|
 |
Arddangoswr: Lucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.

Mi wnes i fynd ar daith i Dyddewi, gerllaw'r fan lle rwy'n byw, i weld yr Eglwys Gadeiriol a byth ers hynny mae pensaernïaeth wedi bod o ddiddordeb mawr i mi. Roeddwn i'n gwybod mai gyrfa yn y maes cynllunio yr oeddwn am ei dilyn erioed ac o'r herwydd, ers yn ifanc iawn, mi wnes i astudio pynciau i'm helpu i gyrraedd y nod yma. Fel y gwelwch o'm portffolio rwyf wedi cynnwys pensaernïaeth yn fy astudiaethau cyn belled ag yr oedd yn bosibl a rwyf wedi parhau â'm diddordeb trwy ddilyn cwrs gradd BA (Anrh) mewn Pensaernïaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Rwyf hefyd yn ysgrifennydd eu pwyllgor pensaernïaeth, Archaos. Y rheswm dros fynychu'r ysgol bensaernïol hon yn hytrach nag un yng Nghymru yw'r ffaith fod y cwrs rwy'n ei astudio yn radd ddwbl unigryw sy'n cyfuno cynllunio gwlad a thref â phensaernïaeth. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig i ddeall y ddau os ydym yn gobeithio gwella'r mannau lle rydym yn byw a'r mannau o'u cwmpas. Os enillaf yr ysgoloriaeth yma rwy'n bwriadu defnyddio'r arian i fy nghynorthwyo i gynnal fy hun tra byddaf yn y Brifysgol fel y gallaf barhau â'm hastudiaethau. Rwy'n gobeithio ennill cymwysterau yn y ddau faes rwyf yn eu hastudio fel y gallaf wneud gwahaniaeth i'n cymdeithas. Gan fy mod wedi fy magu mewn tref fechan rwy'n gwybod sut deimlad yw bod eisiau gwneud pethau a methu â'u gwneud nhw gan nad oes unrhyw adnoddau i wneud hynny. Rwyf eisiau helpu i roi terfyn ar hyn drwy wella ardaloedd â chanolfannau, adeiladau a chyfleusterau newydd, trwy eu gwneud yn fwy cynaliadwy ac yn haws eu cyrraedd a thrwy anadlu bywyd newydd i mewn i gymunedau bychain. Fy mhrif nod yw datblygu fy nhref enedigol, Aberdaugleddau, a threfi Cymraeg bychan eraill, rhyw ddydd.
|
|
 |
 |
 |
Laura Clark Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
|
 |
 |
 |
 |
Lucie Phillips Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
|
 |
 |
 |
 |
Penseiri Nicholas Hare Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd. Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
|
 |
 |
 |
 |
Pensaernïaeth Davies Sutton Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg. Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
|
 |
 |
 |
 |
Mari Thomas Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio Cyfres Haenau Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
|
 |
 |
 |
 |
Tim Davies Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
|
 |
 |
 |
 |
Richard Bevan Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.
|
 |
|
|