Cyflwyniad : ar ran y detholwyr:
Michael Tooby a Jennifer Harris
Fel curaduron proffesiynol, mae modd datblygu perthynas ryfedd â'r dasg o ddethol gwaith ar gyfer arddangosfa agored. Mae yma fwy o gyfle i ddewis a dethol nag a gawn weithiau yn ein gwaith arferol. Ac eto, mae'r broses yn ddigon cyfarwydd. Mae'n wahanol iawn i artistiaid; mae'n ofynnol i'r ysgrifennwr, sy'n chwarae rhan weithredol yn y gymuned gelfyddydol broffesiynol, ymwneud â thybiaethau cyffredinol am y celfyddydau gweledol a hynny mewn modd herfeiddiol a dadlennol.
Yn y cyflwyniad hwn ceir cipolwg ar y broses o ddethol, a mynegir lleisiau'r detholwyr fel grwp, fel bod modd i'r persbectifau unigol fod yn sail i'n penderfyniadau unfrydol.
"Roedd cael gwahoddiad i fod yn un o'r detholwyr eleni yn gwbl annisgwyl. Derbyniais yr anrhydedd, er yr oeddwn ychydig yn ansicr ar y cychwyn. Mae'n haws dod i benderfyniadau pan yr wyf yn ymdopi â'm gwaith personol. Mater gwahanol iawn yw trin, trafod a dethol gwaith eich cydweithwyr gogyfer â'r arddangosfa bwysicaf yng nghalendr y genedl.
Bu'r profiad o flasu cyn gymaint o waith amrywiol nas gwelais o'r blaen, yn ogystal â'r gwaith a gyflwynwyd gan artistiaid yr adnabyddais eu gwaith, yn wefreiddiol ac addysgiadol. Roedd yn gatalydd personol enfawr. Mae llawer iawn o'r gwaith yma yn fy niddori am wahanol resymau ac mae yna glwstwr arbennig o waith, gan artistiaid greddfol eu natur, sy'n sefyll goruwch eu cyd-arddangoswyr. Mae arwyddion gweledol eu gwaith yn dangos yn glir eu sensitifrwydd tuag at sawl achos ac maen nhw'n barod i fynnu llais. Gyda'i gilydd, mewn arddangosfa o'r math hwn, clywir eu llef goruwch unrhyw Gorn Gwlad."
Dewi Glyn Jones
"Mewn arddangosfa grwp o'r math hwn mae'n rhaid i'r gwaith weiddi er mwyn cael ei glywed.
Bydd y doniol, y cryf a'r gwleidyddol yn tynnu sylw bob amser, ond ceir rhai portreadau dwys a pheintiadau tawel o dirluniau y mae'n rhaid cadw llygad amdanynt. Mae'n anos i beintwyr sy'n gorfod dygymod â grym hanes celf yn ei gyfanrwydd."
Frances Carlile
Ceir rhai gosodiadau, gwaith fideo a ffotograffau creadigol, cryf o natur ymchwiliol, ambell un yn newydd, yn naturiol a bron yn ddifyfyr.
"Yn y diwedd, yr hyn mae rhywun yn chwilio amdano yw gweledigaeth newydd."
Frances Carlile
Roeddem yn ymwybodol wrth drafod y gwaith ein bod yn mynegi sylwadau tebyg iawn i'r rhai a fynegwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ynghylch agweddau ymarferol ar broses ddethol yr Eisteddfod. Yn fwyaf arbennig, penderfynasom gymryd pob cynnig gan bob artist fel yr oedd yn y cyflwyniad, a thrwy hynny brofi'r cynnig, yn hytrach na'i gymryd fel 'symbol' o'r hyn a wyddem yn barod neu na wyddem o bosib am waith yr artist dan sylw.
Arweiniodd hyn at anhawster i ddeall un neu ddau o'r cyflwyniadau, ac at drafodaeth ynghylch pwysigrwydd y ffordd y mae artistiaid yn cyflwyno'u gwaith, nid yn unig mewn arddangosfa, ond hefyd mewn gwybodaeth ysgrifenedig. Roedd y ddau artist ar y panel yn ymwybodol iawn o oblygiadau'r broses hon.
Ar y cyfan roedd y gwaith crefft wedi ei gyflwyno'n llawer gwell. Ond ni ddaeth digon o weithiau i law yn yr adran grefft. Roedd yr enillydd a'r sawl ddaeth yn ail iddo ben ac ysgwydd uwchben y lleill, yn syml, yn gryf ac, yn achos y gemwaith, yn glir ac yn nwyfus. Ambell waith roedd y cyflwyniad yn 'amhroffesiynol', e.e. llaw i'w gweld yn dal paentiad, a oedd hefyd allan o ffocws, ac weithiau'n annigonol h.y. dim digon o wybodaeth ysgrifenedig. Dewiswyd gwaith weithiau er gwaetha'r cyflwyniad, wrth i rywbeth hanfodol ddod drwodd; ambell waith, yn anffodus, gorfu i ni beidio â chynnwys gwaith gan fod y cynnig yn aneglur.
Frances Carlile
Ni allem osgoi trafodaeth ynghylch beth sy'n gwneud categorïau 'crefft' a 'dylunio', ac ystyriwyd hyn yn ein hawgrymiadau ar gyfer gosodiad yr arddangosfa, yn ogystal ag wrth ddethol.
Efallai nad oes cymaint o waith crefft a dylunio yn yr arddangosfa eleni ond mae'r gweithiau gorau'n cyfuno sgiliau traddodiadol mewn cerameg, tecstilau, gemwaith, gwaith metel, a chyfryngau cymysg ag ymdeimlad cryf o'r hyn sy'n gyfoes ym maes celfyddydau gweledol arloesol. Er mai casgliad bychan ydyw, mae hefyd yn dangos cwmpas crefft gyfoes, gan amrywio o wrthrychau wedi eu dylunio i bwrpas penodol, i arteffactau sy'n cydnabod swyddogaeth ac yn chwarae ar ffraethineb ac eironi, a gwaith sy'n bennaf fynegiannol.
Mae rhai eitemau 'crefft' sy'n ymochri â chelfyddyd gain. Er bod y cyfrwng – tecstil – yn gyfrwng crefft mae gwaith Eleri Mills yn dweud cymaint am dirwedd a hunaniaeth Cymru â'r gweithiau niferus yn yr arddangosfa hon sy'n ymdrin â themâu cyffelyb, ond yn gwneud hynny ar bapur ac â phaent, ffotograffau, fideo a chyfryngau cymysg.
Roedd rhestr fer y Detholwyr ar gyfer y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn cynnwys gwaith o ddau begwn crefft – gweithiau ffurfiol, lleiafsymiol Maggie Henton sy'n defnyddio rhythm ac ailadroddiadau i archwilio syniadau am y cysyniad o ofod, a'r gadwen, y freichled a'r fodrwy odidog o waith Mari Thomas, lle mae crefftwaith campus a mynegiant cyfoes yn disgleirio mewn metelau gwerthfawr.
Jennifer Harris
Wrth i ni drafod y detholiad, a chwynnu'r rhestr, sylwasom ar 'foth' oedd â thair prif elfen yn esblygu o'i chwmpas: symlrwydd gwaith cymharol bersonol, a oedd yn aml yn defnyddio'r tir neu'r dirwedd, neu nodwedd weledol syml, i gyfleu profiad; mynegiant personol iawn yn cael ei gyfleu drwy hunaniaeth allanol, gan ddefnyddio dillad, arwyddion symbolaidd a hunaniaethau mabwysiedig; a phortreadu'r defnydd a'r cyflwyniad o'r dirwedd gymdeithasol.
Cyfeiriwyd dro ar ôl tro yn ystod ein trafodaethau at leoliad unigryw'r Eisteddfod Genedlaethol. Talwyd sylw manwl i'r ffordd y gallai pob gwaith ddylanwadu ar y cyd-destun penodol. Wrth i ni sylwi ar safon eithriadol gwaith Tim Davies, gwelem ei fod yn portreadu pob un o'r tair elfen allweddol hyn, a'u perthnasedd i'r lleoliad, gan wneud y tair thema yn un.
Mae'n addas iawn bod Ian Rowlands yn cyflwyno ei sylwadau ei hun, ac yn crynhoi ein barn ni am y broses:
Mewn ystafell dywyll yn un o westai'r Trallwng eisteddai dau guradur, dau artist ac un amatur brwdfrydig. Fel llais y bobl ar y panel, nid oeddwn i mor gyfarwydd â'r jargon, nac â'r cyd-destun y mae rhai artistiaid yn creu ynddo, nac ychwaith â'r dylanwadau sydd wedi eu hysbrydoli. Fy unig faen prawf oedd yr ysbrydoliaeth a gawn i fy hun o'r gwaith. Ymateb greddfol yw hwn. Y math o ymateb sy'n gwneud i chi fynd i chwilio am lyfr siec cyn i chi hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o fuddsoddiad.
Er i ni lunio'n rhestr fer o sawl safbwynt, roedd ein trafodaethau'n rhyfeddol o gytûn. Roedd fel pe baem yn meddwl yr un fath, ac yn rhannu'r un estheteg. Daeth y chwaeth gyffredin hon â'r arddangosfa i'w ffurf derfynol mewn modd organig bron.
Yn gynnar iawn yn y broses gwelsom fod thema'n amlygu ei hun. Roedd llawer iawn o'r gweithiau'n holi cwestiynau yn ymwneud â hunaniaeth, bersonol a gwleidyddol. Syllu ar ein bogeiliau medd rhai. Ond mae'r diddordeb hwn sydd gan y Cymry yng nghyflwr y genedl yn fwy na hynny. Yn fy marn i, mae'n broses angenrheidiol o ryddhau oddi wrth gyfaredd, un nad yw Lloegr wedi dechrau arni eto.
Nid yw'r ddeialog fewnol barhaus yn fy nharo i fel clefyd Cymreig terfynol. Oes, ar yr wyneb mae gennym obsesiwn am yr hyn a fu a pharchedig ofn wrth feddwl am yr hyn a ddaw. Gwyddom faint ein colled, ond ni allwn ragweld beth fyddwn yn ei ennill. Er hyn, gwelaf yr hunanymholi hwn yn esgor ar ymrithiad - yn ein galluogi maes o law i weld ein cenedl mewn cyd-destun ehangach. Rydym yn meddwl nawr er mwyn bodoli yn y dyfodol.
Cymharol hawdd fyddai dewis, o'r holl waith a gyflwynwyd, arddangosfa wladgarol i raddau helaeth a allai fod wedi cyffroi cynulleidfa'r Eisteddfod. Ond ein prif faen prawf wrth ddethol y gwaith oedd rhagoriaeth. Ein nod oedd cyflwyno'r gorau er bod y gorau, ar adegau, yn gallu bod yn anodd i'w ddeall. Fel mae'n digwydd eleni cyflwynwyd llawer iawn o weithiau a oedd yn mynd y tu hwnt i'r jingoaidd ac yn cyffwrdd â harddwch cyffredinol. Wedi'r cyfan, mae cwestiynau sy'n ymwneud â pherthyn a cholli yn gyffredin i bob cenedl.
Dywed Tim Davies yn 'Process' (t.86) 'Gofynnir i mi'n aml pam fy mod yn gwneud gwaith am Gymru … ni allaf ddianc rhag amser a lle… nid wy'n ymddiheuro amdano. O'r penodol y daw'r gwirioneddol eang.'
Fodd bynnag, nid arddangosfa ar destun penodol yw'r arddangosfa hon eleni. Mae'n ddetholiad eangfrydig ac yn llwyfan i rai o artistiaid gorau Cymru sy'n gweithio â chyfryngau o bob math. Ceir detholiad da o ffotograffau, celfyddyd gain, gosodiadau, cerfluniau a mwy a mwy o gelfyddyd fideo sy'n adlewyrchu chwaeth diwylliant teleweledol.
Daeth yn amlwg yn gynnar iawn yn y broses ddethol y byddai enillwyr teilwng i'r fedal aur mewn celfyddyd gain ac i fedal aur y campwaith crefft. Mae gweledigaeth eglur Tim Davies yn ei amlygu fel un o artistiaid cyfoes gorau Cymru. Gellir dweud yr un peth am grefftwaith Mari Thomas sy'n creu'r gemwaith mwyaf ysbrydoledig wedi ei ysgogi gan ddaearyddiaeth a hanes ein tirwedd a'n diwylliant. Roedd y penderfyniad yn un rhwydd ac unfrydol.
Nid ydym yn ymddiheuro am ein detholiad. Gellid dadlau bod ein dewisiadau'n oddrychol ac o ganlyniad yn ddiwerth. Ond rydym wedi dewis y gweithiau o'r fan lle roeddem ni'n sefyll mewn 'amser a lle' penodol ac rydym yn glynu at ein penderfyniad.
Os yw'n dewis yn peri tramgwydd i unrhyw artist Cymreig, yna bydded iddo gael ei dramgwyddo. Bydded iddo hefyd gael y nerth a ddaeth i Llewelyn Lloyd, yr artist Eidalaidd o dras Cymreig, pan na chafodd ei dderbyn i Biennale Fenis yn 1910. Llyncodd ei falchder a chafodd ei wahodd yn ôl yn 1912. Aeth ymlaen wedyn i arddangos ym mhob Biennale hyd 1930. Cymro'n cyrraedd Fenis 70 mlynedd cyn pafiliwn Cymreig.
Byddai panelau eraill wedi gwneud dewisiadau eraill, ond gogoniant arddangosfa'r Eisteddfod Genedlaethol yw ei bod yn wledd symudol o ddanteithion dethol. Eleni, detholwyd y danteithion gorau ym marn dau guradur, dau artist ac un amatur brwdfrydig, ac i mi yn bersonol, braint ac anrhydedd oedd cael bod yn rhan o'r broses ddethol hon.
Ian Rowlands