ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y Bobl Comisiwn Madog
Cynllun preswyl Maldwyn
Gwobr Ifor Davies
Iorwerth Peate
Ackroyd Harvey
Derek Williams



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pensaernïaeth yng Nghymru

Gwahoddwyd ceisiadau oddi wrth benseiri neu grwp o benseiri i ddangos adeiladau gyda dyddiad eu cwblhau ymarferol rhwng 2000 a 2003 yn gynwysedig.

Detholwyr:
Maredudd ab Iestyn, Richard Woods

Ystyriwyd ceisiadau llwyddiannus yr Arddangosfa ar gyfer y gwobrau canlynol:

Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth
Gwobr Goffa Alwyn Lloyd

Rhoddir replica arian-ac-aur gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru er cof am y diweddar Ddr T Alwyn Lloyd. Pwrpas y wobr yw tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anrhydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safon uchaf mewn dylunio. Rhoddir y wobr i'r pensaer neu benseiri sy'n gyfrifol am adeilad neu grwp o adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru rhwng 2000 a 2003, a gymeradwywyd i'r Eisteddfod fel y rhai gorau.

Penseiri Nicholas Hare, Llundain
Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd

Plac Teilyngdod
Bwriad y gystadleuaeth hon yw hybu ceisiadau a rhoi llwyfan i brosiectau llai ond o safon ac ansawdd uchel. Gwahoddwyd penseiri i gyflwyno un ai prosiectau newydd neu brosiectau adnewyddu a oedd yn bodloni'r pwyntiau canlynol:

a) adeiladwyd yng Nghymru
b) cyfrif terfynol hyd at £500,000
c) cwblhawyd rhwng 1999 a 2002
ch) yn harddu'r amgylchedd

Penseiri Davies Sutton, Pontyclun
Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg

Penseiri Davies Sutton, Pontyclun
Neuadd Cefn Mabli, Rhydri

Penseiri Davies Sutton, Pontyclun
Canolfan Ymwelwyr Castell Caerffili

Penseiri Noel, Caerdydd
Crefft yn y Bae, Caerdydd

Mundo Design, Llanfair-ym-Muallt
Ysgubor Pantycelyn, Crucadarn, Llanfair-ym-Muallt

Datganiad y Detholwyr Pensaernïaeth:
Daeth 14 o gynlluniau i law eleni. Roedd y safon yn amrywiol ac fe welwyd mewn nifer o’r ceisiadau elfennau dyluniad a oedd, yn y bôn, yn ddibwrpas ac yn cyfrannu’r nesaf peth i ddim tuag at ymddangosiad gweledol yr adeilad. Roeddynt yn fwy na thebyg yn elfennau na fyddant yn cael eu gwerthfawrogi gan y defnyddwyr. Nid yw gosod ychwanegiad funud olaf ar adeilad ar fympwy yn creu pensaernïaeth. Nid ydym yma yn awgrymu fod angen cyfiawnhau pob elfen ddyluniadol ar bob adeilad ond mae pensaernïaeth yn ei hanfod yn mynnu cysondeb - cyfanwaith yw adeilad da.

Roeddem ym siomedig hefyd yn y nifer bychan o’r ceisiadau a oedd yn cydymffurfio â gofynion y Plac er Teilyngod. Cynlluniau ‘bach’ gyda chost llai na £500,000 yw bara beunyddiol mwyafrif penseiri Cymru ac mae’r anrhydedd hon yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd pensaernïaeth i bawb. Ble mae’r adeiladau hynod ar raddfa fach lle gwelir ffrwyth y berthynas rhwng y pensaer a’r cleient? Siawns fod degau o adeiladau ‘bach’ yn cael eu codi’n flynyddol ac mae’n rhaid fod rhywfaint o falchder yn perthyn i’w creu. Un eithriad a dderbyniwyd oedd Yr Hen Efail, Meifod gan Shearer a Morris, Y Drenewydd. Er nad oedd y cynllun o safon pensaernïol nodedig roedd yn ateb gofynion y cleient i’r dim. Roedd y ffaith mai’r cleient ei hun a yrrodd y cais yn profi llwyddiant y cynllun ar un lefel o leiaf. Faint o’n hadeiladau mawreddog sy’n methu ar y lefel sylfaenol hon - lle nad ydynt yn cyffroi unrhyw emosiwn yn eu perchnogion?

Chwe chynllun a ddewiswyd i’w harddangos, pob un yn dangos dyfeisgarwch pensaernïaeth gyfoes Cymru ar raddfa wledig a dinesig yn ogystal â dathlu ein traddodiad adeiladol.

Fe welir yn Ysgubor Pantycelyn gan Mundo Design enghraifft lwyddiannus o sut i roi bywyd newydd i hen adeilad gwledig. Yma addaswyd ysgubor i greu gofodau byw pleserus ar gyllid cyfyng. Mae’r deunydd adeiladu a’r arddull yn gyfoes. Ni welir yma ddrysu purdeb gonest yr adeilad gwreiddiol drwy ddylunio pastiche ‘hen ffasiwn’ sy’n difetha’r mwyafrif o’r addasiadau i’n hadeiladau traddodiadol. Yma mae’r penseiri ifainc wedi amlygu dyluniad iwtilitaraidd gwreiddiol y beudy ac wedi ei gryfhau gyda gwydr a choncrit gloyw sydd yn ymestyn heibio’r rhiniog i wreiddio’r adeilad yn ddyfnach yn y tirlun.

Fe welir y palet cyfoes yma eto yng ngwaith Penseiri Noel o Gaerdydd gyda’u haddasiad ac estyniad i’r D-Shed yn y Bae. Mae’r cynllun wedi ail-leoli, addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig hwn. Warws Fictoraidd oedd y D-Shed yn wreiddiol –bellach y mae wedi ei drawsnewid yn ofod arddangos ar gyfer Urdd Gwneuthurwyr Cymru. Mae’r cynllun hwn yn codi’r cwestiwn sut y dylid ymestyn adeilad hanesyddol sydd â chymeriad cryf? Mae fframwaith y D-Shed ei hun wedi ei amgáu yn rhannol gan wydro cyfoes di-ffrâm. Yn bennaf fodd bynnag, fel yn achos yn gwreiddiol, y mae wedi ei amgáu gan fyrddau pren, tra bod fframwaith waliau’r estyniad newydd o fyrddau a system wydro o fewn ffrâm. Fe welir fod colofnau fframwaith haearn bwrw gwreiddiol y D-Shed yn cael eu hadlewyrchu gan fframwaith dur yr estyniad. Fodd bynnag, mae’r estyniad, gyda’i ffurf drionglog, ei do metel a’i nodwedd pîg ‘forwrol’, yn amlwg yn gyfoes. Mae’r nodwedd blaen pen llong yma yn brysur troi yn ystrydeb ac yn anffodus fe gryfheir y teimlad yma pan welir mai grisiau sydd wedi eu lleoli yn y pen blaen hwn. Drwy osod elfen o gylchrediad anniddorol mewn beth a all fod y gofod gorau yn yr holl adeilad, efallai fod y penseiri wedi colli cyfle yma? Serch hynny mae’r adeilad hwn yn gywrain ac yn eithriadol o addas at ei ddefnydd - yn wir mae’n edrych ei hun fel darn o grefftwaith er ei fod braidd ar goll yn sgleinio fel addurn ar ei ynys yng nghanol datblygiadau eraill Bae Caerdydd.

Llosgwyd Ty Cefn Mabli mewn tân difrifol yn 1994 ac roedd y gwaith adfer gofalus gan Benseiri Davies Sutton i’w weld yn drawiadol iawn yn y ffotograffau. Yn allanol roedd yn cyfleu dawn a sensitifrwydd y penseiri a’u gallu i gadw cymeriad gwreiddiol y ty. Mae adeiladau fel hyn wedi datblygu dros y canrifoedd ac roedd yr aeddfedrwydd a’r patina ar yr adeiladwaith yn dal yn amlwg er gwaethaf dinistr y tân. Ond wrth ymweld â’r safle fe gawsom deimladau cymysg, roedd y gwaith adfer i Cefn Mabli ei hun yn wir yn sensitif a gofalus ond roedd y cyd destun yn ein taflu oddi ar ein hechel. Oddeutu cefn y ty mawr roedd ystâd gaeëdig o dai rhwysgfawr newydd. Mae heddwch yn gallu bod yn nodwedd braf ond yma roedd ei effaith yn teimlo’n sinistr. Doedd dim plant, dim llawer o bobl a dim bywyd bron. Efallai mai nid beirniaid gyda theuluoedd ifainc yw’r bobl orau i roi eu barn ar y fath gymuned. Roeddem yn teimlo hefyd fod dyluniad mewnol Ty Cefn Mabli wedi ei gyfaddawdu ac, er cywreinrwydd yr adfer hanesyddol allanol, teimlad gwesty crand oedd i’r datblygiad.

Mae gan Canolfan Ymwelwyr Castell Caerffili gymeriad cryf a dyluniad a manylu sy’n gweddu. Gyda’i fframwaith o dderw cadarn sy’n cynnal to plwm a muriau o wydr, mae Penseiri Davies Sutton wedi codi adeilad mewn lleoliad hanesyddol. Ac os ydyn nhw wedi defnyddio deunydd adeiladu traddodiadol, drwy eu huno mewn dull a modd gwbl gyfoes, maent wedi llwyddo i greu adeilad sydd o’i amser ei hun - adeilad sydd yn sefyll yn hyderus o fewn muriau’r castell. Nodwedd amlwg y Ganolfan yw’r pigyn pen blaen llong, nodwedd a ddisgrifir gan y penseiri fel metaffor am ymosodiad ar y castell. I gryfhau’r trosiad hwn y maent yn cyfeirio at wneuthuriad y peiriannau rhyfel canoloesol a welir gerllaw fel rhan o ysbrydoliaeth y dyluniad. Mae tebygrwydd o fath ond bod dyluniad y peiriannau yn gwbl ymarferol a chynnil. Efallai mai’r cynildeb hwn sydd ar goll yng nghanol y bensaernïaeth. Mae’n adeilad hyderus sydd efallai fymryn yn rhy frwdfrydig.

Yng nghanol Caerdydd, rhwng y ganolfan ddinesig a datblygiadau enfawr y Bae saif Rhif 1, Sgwâr Callaghan. Mae Penseiri Nicholas Hare yn adnabyddus am eu gwaith coeth a chain ac nid yw’r adeilad hwn yn eithriad. Dyma ran gyntaf datblygiad masnachol newydd o swyddfeydd ar safle anodd rhwng y rheilffordd ac un o briffyrdd newydd y ddinas. Mae’r adeilad yn wers mewn cynllunio ar raddfa ddinesig. Mae cymesuredd yr adeilad wedi ei ystyried yn ddwys a gofalus iawn - nid yw’n hawdd gwneud adeilad i edrych mor syml â hyn. Ond mae’r symlrwydd argraffiadol hwn yn cuddio cywreinrwydd y dyluniad. Mae’n glasurol ei naws ac yn rhoi graddfa ddinesig ac urddasol i’r rhan hon o’r brifddinas. Mae crymedd cynnil yr edrychiad blaen a’r rhodfa golofnog yn wrthbwynt i’r cynllun llawr rhesymegol. Yna mae lwfrau’r cysgod haul yn diffinio llinell y cornis ac yn creu diddordeb gweledol ar lefel uchaf y ffasâd. Mae’n siomedig nad yw’r adeilad yn codi cwestiynau ynghylch dyluniad swyddfeydd yr 21ain ganrif nac yn ymchwilio i gynaladwyaeth, y drefn gymdeithasegol na’r drefn o gyflogi’r gweithlu cyfoes. Ond dyluniad y gragen yn unig oedd cyfrifoldeb Penseiri Nicholas Hare ac nid oedd ymchwilio i’r pynciau hyn yn rhan o’r brîff, mwya’r piti.

Addasiad o goetshws rheithordy yn Llandw yw Ty Teilo. Mae’r adeilad bellach yn cynnig lle i gyfarfod ac addoli, gyda chapel ar y llawr isaf ac ystafell gyfarfod uwchben. Mae’r penseiri, Davies Sutton eto, wedi llwyddo i ymestyn yr adeilad gwreiddiol gyda dyluniad sydd yn gyseiniol ond eto’n gyfoes. Mae gosodiad gofalus a meddylgar y ffenestri a’r fynedfa yn dangos dawn ddistaw ac mae cysylltu’r adeilad gyda thirlun yr ardd yn llwyddiant mawr. Gem o adeilad yw hwn. Y mae mor gynnil ei ddyluniad – mae’n llwyddo i roi cymeriad i’r addasiad heb fod yn ystrydebol ac yn osgoi’r temtasiwn i or-ddylunio. Yn fewnol fe welir chwarae medrus gyda gorffeniad arwynebedd, tri math o blastr ar y waliau er enghraifft. Roedd yr adeilad yma yn apelio yn atgofus at yr is-ymwybod hefyd nid oeddem yn teimlo hyn am un o’r adeiladau eraill. Dyma adeilad a oedd wir yn gwbl addas i’w bwrpas.

Rhoddwyd pedwar cais ar y rhestr fer ac fe fuom yn ymweld â’r adeiladau ar fore braf o haf. Yn bennaf, mae pensaernïaeth dda yn agor y drafodaeth rhwng cysondeb dyluniad a’i fynegiant ac mae’r adeiladau arobryn yn enghreifftiau arbennig o’r ymgom hwn. Penderfynodd y detholwyr wobrwyo fel a ganlyn:

Dyfernir Plac er Teilyngdod 2003 i encil Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg am lwyddo i greu’r awyrgylch angenrheidiol i fyfyrio distaw. Dyfernir Medal Goffa Alwyn Lloyd 2003 i Rhif 1, Sgwâr Callaghan, Caerdydd am adeilad medrus a chain sydd yn gosod y nod ar gyfer safon adeiladau masnachol newydd y Gymru ddinesig.

Maredudd ab Iestyn, Richard Woods

Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura Clark Laura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie Phillips Lucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas Hare Penseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies Sutton Pensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari Thomas Mari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim Davies Tim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard Bevan Richard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý