CREU SYNNWYR A DATHLU
Cynllun preswyl Maldwyn
Ym Maldwyn eleni penderfynodd yr Is-bwyllgor Celf a Chrefft ddathlu bywyd a gwaith yr hanesydd a’r llenor o Lanbrynmair, Iorwerth Peate. Mewn partneriaeth â Chywaith Cymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, dyma benodi dau artist preswyl i weithio yn y gymuned. Y syniad o gasglu arteffactau a chreu arddangosfeydd oedd y man cychwyn ‘Creu Synnwyr’.
Yn briodol, aeth yr artistiaid Christine Mills sy’n frodor o Ddyffryn Banw, a Carlos Pinatti, sy’n dod o’r Ariannin, i chwilio am ysbrydoliaeth yn archifau Amgueddfa Werin Cymru – lle gwell o ystyried mai Iorwerth Peate oedd Ceidwad cyntaf y sefydliad arloesol hwn. Yno daethpwyd o hyd i lyfrau nodau clust o eiddo Telynores Maldwyn, Nansi Richards ynghyd â thagiau defaid a llythrennau pitsho.
Wedi twrio drwy’r casgliadau yn Sain Ffagan, dyma’r ddau yn sefydlu stiwdio yn Llanerfyl a datblygu eu syniadau ymhellach. Cysylltwyd â thrigolion yr ardal a holwyd am wybodaeth ynglyn â marciau, llythrennau neu ddarluniau diddorol ar adeiladau neu furiau lleol. Tra oedd Christine Mills yn awyddus i gofnodi’r newidiadau sy’n digwydd i gefn gwlad, syfrdanwyd Carlos Pinatti gan lên gwerin a thraddodiad llafar y fro.
A hwythau yng nghanol byd amaeth, doedd dim modd osgoi ffermio defaid chwaith.
Dyma’r ddau yn ymddiddori fwyfwy yn y posibiliadau o greu celfyddyd drwy ddefnyddio delweddau nodau clust defaid a llythrennau pitsho. Mae’r artistiaid yn cyfeirio atynt fel “graffiti’r caeau”.
Yn ôl Christine Mills a Carlos Pinatti roedd y sgyrsiau a gafwyd gyda thrigolion y fro cyn bwysiced â’r arteffactau. Roedd cyfranogiad y gymuned leol yn allweddol i lwyddiant y preswyliad.
Er mwyn lledaenu’r gweithgaredd, dyma ymweld ag ysgolion lleol a mynychu Rali’r Ffermwyr Ifainc. Gwahoddwyd beirdd lleol i’r stiwdio ac ymwelwyd â Gwasg Gregynog. O ganlyniad bydd y darluniau, gwaith tecstilau, ffotograffau, fideo a’r llyfr arbennig a grëwyd gan y ddau yn gofnod parhaol o’r bwrlwm creadigol a symbylwyd ym Maldwyn pan ymwelodd y Brifwyl â’r fro yn 2003.