Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Proffeil Dêtio Sali Mali
Tir Mawr
Mae na frân i frân yn rhywla,
Dyna ddywed pawb o’m ffrindia.
Holi ydwi, ers cyn co’,
Plis, ga’i frân yn lle Jac Do?
Carys Parry 8.5
Arglwydd de Grey
Rwy'n chwilio am rhywun sy'n oren, a'i gôt yn ddu,
Ei dan yn ffêc ac yn wyn ei dÅ·,
Mae fy ngwallt mewn byn, a gwir bob gair,
Dwishio dyn hefo gwallt fel tas o wair.
Dwi di blino'n llwyr ar Jac y Jwc,
Af draw i'r Amerig i drio fy lwc;
Ffêc tan, ffêc news, nid yw'n ddewis gwael
Mae’n rhaid fod rhywun yno ar gael!
Eleri Jones yn darllen gwaith Arwel Emlyn 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm yn ymwneud ag arlwyo
Tir Mawr
Defnyddiol ydyw rholbren
I wneud pei a niwed pen.
Carys Parry 9
Arglwydd de Grey
Er yr holl gynhwysion rhad:
gorau yw owns o gariad.
Huw Dylan 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘I arbed y costau cynhyrchu’
Tir Mawr
I arbed y costau cynhyrchu
Mi brynais i drap oedd yn gallu
Dal llygod a’u gosod
Mewn tuniau bwyd cathod,
Ond bechod, ni ddaru nhw werthu.
Gareth Jôs yn darllen gwaith Myrddin ap Dafydd 8.5
Arglwydd de Grey
I arbed y costau cynhyrchu
Symudwyd Y Talwrn o Gymru
I Rwanda bell,
Dau dîm mewn dwy gell,
Roedd y safon lot gwell ar ôl hynny.
Arwel Emlyn 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Treftadaeth
Tir Mawr
(agorwyd cymal newydd o’r Llwybr Arfordir drwy gyrion plas y Faenol yn ddiweddar)
Trof f’enaid at dro’r Faenol:
rhoi i’r dydd dderw a dôl
Menai – hen fôr a mynydd
Y Lord ei hun ’slawer dydd.
Heddiw gwledd ddaw i ŵydd gwlad
drwy’r wal, ond rhyw gamdreuliad
o’n doe sy’n fy ngherdded i
yn llwch y llwybrau llechi.
Pob tÅ· gwas, pob cyff masarn,
yn dyst i gyfoeth, pob darn
o fy nydd. Nid af yn ôl
a rhoi f’enaid i’r Faenol.
Myrddin ap Dafydd 9.5
Arglwydd de Grey
Mudandod di-adnodau
Ydyw celc y Capel cau,
Pulpud mud pregethwyr mawr,
Araf dipiadau oriawr.
Heb allwedd pwysig bellach
Awn o stori'r festri fach,
Mae Iesu Grist yn ddistaw,
Duw ar drai di-grwydro draw,
Emynau a chymuno...
Enaid ein gwlad o dan glo.
Ond, di-ddiwedd yw gweddi
Yr oedfa fawr ydwyf i.
Arwel Emlyn 9.5
5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae’n anodd iawn addasu’
Tir Mawr
Mae’n anodd iawn addasu
Ar ochor chwith y gwely:
Cloc larwm yn rhy bell o law
A’r pot tu draw i ’ngallu.
Myrddin ap Dafydd 8.5
Arglwydd de Grey
Mae’n anodd iawn addasu
Y sêt cyn iddi yrru;
Yn five-foot-two a’i gŵr yn gawr -
wna iddi fawr alaru.
Geraint Owens 8
6 Cân ysgafn: Taith yr Alban
Tir Mawr
Mae 'na ddisgwyl i mi sgwennu am drip rygbi efo'r bois
Os 'da chi'sio rhywbeth felly wel gofynwch i Max Boyce
Ar ôl clywed fod Caeredin dan y rhewbwynt ganol ha
Ro'n i'n edrych fel fy mod i'n mynd am fis i Wlad yr Ia
Wrth fynd heibio i John Lennon heb gael saib na newid gêr
A brasgamu ar fy union draw i gownter Ryan Air
Ro'n i nawr yn chwysu chwartia dan y capia ar fy mhen
Ac ym mreichiau'r awdurdoda' daeth fy rhuthr wyllt i ben
Mewn i focs dal trugaredda' aeth fy ffôn a f'arian mân
Efo'r sanna' mawr a'r cotia pedair fest a'r mennyg gwlan
D'oedd dim byd ar ôl i'w dynnu roeddwn bron yn noeth fy nhîn
Ond er hynny dal i ganu a goleuo wna'r mashîn
Wrth i'r ddynes brocio 'nhafod daeth yn amlwg iddi hi
Mai weirs fy nannedd gosod wnaeth achosi'r bi bi bî
Gyda 'nrhowsus rownd fy ffera a fy mhasbort dan fy ngên
Dyma sboncio'i fyny'r grisia drwy y drws i'r ero plên
Do mi gysgais ar ôl setlo ger rhyw ŵr a gwraig o Llan
A'r rheiny ddaru 'neffro'n Gran Canaria o bob man
Mewn pythefnos ro'n i adra'n tanio'r stôf i gnesu'r tÅ·
Roedd bob dim ond gwyn fy llgada naill ai'n goch neu'n frown neu'n ddu
Mi fydd Cymru'n chwarae adra 'r tymor nesa siwr i chi
A phan ddaw'r Albanwyr yma'n Gran Canaria fydda i
Gareth Jôs 9
Arglwydd de Grey
Pam myned i’r Alban o bobman ar wylia?
Tydi’r lle fel Blaena Ffestiniog ‘ny gaea.
Ond mynd fu’n rhaid i chwarae golff yn Aberdeen
Ar gwrs Donald MacTrump yr Albanwr cîn
Roedd lluniau ohono i’w gweled ym mhobman
Fel mai fo ydi ‘Braveheart’ newydd yr Alban.
Ond doedd na’m llun ohono mewn kilt yn nunlla
Tydi dynion nôl Donald ddim yn gwisgo sgertia.
Mae ganddo gysylltiad â’r Alban oes wir ar fy llw
Oherwydd mae’I groen ru’n lliw â chaniau Irn-Bru
A rhyw gandi fflos yn un lwmp ar ei goryn
Does ryfedd bod ffair bob amser yn ei ddilyn.
Ymlaen aethom wedyn I LochNess I weld Nessi
Sy’n fwystfil lot ffeindiach yn wir na mab Mary.
A holi rhyw ŵr pa bryd oedd yr amser
Y byddai y bwystfil yn ymddangos fel arfer.
Atebodd yntau yn gwbwl o ddifri
Wel syr rôl chi yfed yr wythfed wisgi.
Ac wedi cael profi yr Alban ar wylia
Mae’n well gen I Blaenau Ffestiniog ‘ny gaea.
Huw Dylan 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Ceri Wyn aeth i'r Cae Ras
Tir Mawr
I’w sedd mewn helmed heddwas
Ceri Wyn aeth i'r Cae Ras
Myrddin ap Dafydd 0.5
Arglwydd de Grey
Ceri Wyn aeth i'r Cae Ras
Yn arwr ar y teras
Huw Dylan 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dosbarth Nos
Tir Mawr
Un wrth y starn yn trin y rhwyd,
Un rhwyfwr cryf a’r cwch a gwyd
Dau’n dal y rhaff yn dynn ar lan,
Dau yn y lle daw’r cwch ‘n y man.
Gwna hanner cylch heb swn na stwr,
Ond palfau’n sisial yn y dŵr,
Daw’r stem i’r gro fel gwÅ·dd a’i swch,
A neidia’r cychwyr brwd o’r cwch.
Tynnu’r naill ben i dir sy’n sych,
A’r duwch yn cuddio’r “helfa wych”,
Daw chwalp a sglein o’r t’wyllwch draw
A brys i’w rhoi mewn sach o law,
Rhuthro’r cysgodion yn ein brys
I gael y cargo, osgoi’r llÅ·s,
A’r draenog balch a’i darian boen
Yn claddu ei nodwydd drwy fy nghroen,
A throi am adre cyn dod gwawr
I lyfu nghlwyfau wnes, yn gawr.
Carys Parry yn darllen gwaith Huw Erith 9
Arglwydd de Grey
(Brynaman 1954: Yn nghanol llyfrau fy modryb des o hyd i lyfr cownt oedd ganddi pan fu’n ysgrifenyddes dosbarth WEA yn ei phentref genedigol. Ynddo mae rhestr o aelodau’r dosbarth ynghyd â’u galwedigaeth: sawl glöwr, ond merched yn bennaf, yn weithwyr ffatri, gweithwyr siop a gwragedd tÅ·.
Nos Fawrth yn Nhachwedd a niwl yn mygu’r cwm.
Golch ddoe yn stemio ar hors o flaen y tân
a’r mwg o getyn ei gŵr yn dirwyn yn araf
uwch dalennau ei bapur newydd.
Picio i’r llofft i osod cusan yn anwes ar fochau cynnes,
gwisgo’i chot
a gwthio’i bysedd cochion i’w menig gwlan.
Camu allan a phrysuro ei chamau at olau’r neuadd.
Agor y drws,
anadlu a blasu dysg.
Llyncu’n awchus.
Ei meddwl yn fwrlwm
a gwefr yn gwibio drwy’r deall.
Rhyfeddu o gael rhannu
Yn y fath gyfnewidfa syniadau.
Tristwch yn don pan fu’n rhaid tewi.
Ond wrth droi am adref
gwenu ar ehangder y cwm.
Eleri Jones 9
9 Englyn: Therapi
Tir Mawr
Ofn y dasg sy’n fy nadwisgo – un haen
Ar ôl haen i’w philio,
Hyd cael, ym mhlygiadau co’,
Yr hwn oeddwn, yn cuddio.
Carys Parry 9.5
Arglwydd de Grey
(Hiraethog, tua Llyn Aled)
Pellter bod, gwyllt a chlodwiw – a gweddi’r
Unigeddau ydyw,
Emyn hedd a mawn heddiw,
Fi a neb, dim ond fy Nuw.
Arwel Emlyn 9.5