Main content

Cerddi Rownd 2 2025

1 Pennill bachog: Awgrym ar gyfer arwyddair newydd

Penllyn
Y mae’n rygbi ni dan glwy’,
Welwn ni ddim coron mwy,
Angof bellach ‘Gwlad y delyn’
Rhaid i’n ganlyn ‘Gwlad y llwy’.

Beryl Griffiths 8

Dros yr Aber
Dwyn hwn wnes, ond dyna ni. I’n hynod
a’n hannwyl dîm rygbi,
yn frol i Undeb o fri:
“O gallwn, gallwn golli.”

Rhys Iorwerth 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â DIY

Penllyn
Yn y ciw yn IKEA
Ro’n i wir yn ddarne, wa

Gruffudd Antur 9.5

Dros yr Aber
Ni wnaed ceinder heb flerwch,
ni wnaed lle hardd heb wneud llwch

Carwyn Eckley 9.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n gwybod na ddylwn i chwerthin’

Penllyn
Dydd Dolig cawn araith y brenin!
Rwy’n gwybod na ddylwn i chwerthin
Ond gall chwarter awr
Ymddangos fel awr,
A wir mae’n difetha fy mhwdin.

Aled Jones 8

Dros yr Aber

Mewn oriel o fri anghyffredin
rwy’n gwybod na ddylwn i chwerthin
ond mae crys hwn o ’mlaen
efo uffar o staen
sy’n edrych fel paentiad gan Kyffin

Marged Tudur 8.5

4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw ddigwyddiad torfol penodol

Penllyn
(Fis Medi cynhelir achos llys Soldier F, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio dau a cheisio llofruddio pump arall ar Sul y Gwaed yn 1972)

Dau i lawr. Ar hyd y lôn mae eraill
hanner meirw'n gwingo'n
yr oerfel, ac fel y fo'n
ddienw, ac yn ddynion.

Dynion i'r byd eu henwi'n daer ydynt,
ond ar strydoedd Derry
maen nhw'n siffrwd d'enw di,
yr un na cheir ei enwi,

enwi nes bod y llythrennau'n deilchion,
yn deilchion fel hwythau'r
tadau gwargam a'r mamau
a garodd-ddiawliodd y ddau.

Gruffudd Antur 10

Dros yr Aber
Rali Nuremberg 1937

YouTube. Maen nhw’n saliwtio yn eu hoes
bell yn ôl, yn martsio
drwy’r sgrin. Yn ymfyddino.
Daw rhu torf a chodi’r to.

A daw, o’r dorf, i’r awyr, y dyrnau
wrth i deyrn didostur
ac ynfyd greu gwahanfur.
Ei waedd o ddaw’n waed ar ddur.

Yn waed, ond pa raid hidio? Hyn oedd ddoe.
Cawn ddiolch taw fideo
du a gwyn o fyd o’i go,
taw byd ar YouTube ydi-o.

Rhys Iorwerth 10

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Mae hi’n braf na wyddom weithiau’

Penllyn
Mae hi’n braf na wyddom weithiau
Pa mor llym fydd hwn â’i farciau
Neu ni fyddem yn trafferthu
Llunio cerddi na’u llefaru.

Beryl Griffiths 8.5

Dros yr Aber
Mae hi’n braf na wyddom weithiau
beth a fyddai canlyniadau
rhoi cocên i altos canol
Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Carwyn Eckley 9

6 Cân ysgafn: Araith wrth dderbyn gwobr

Penllyn
Cynhaliwyd y “Baffdas” eleni yn festri capel Horeb Y Llan
Ac er fod y boilar di torri, roedd ‘no bobol ‘di dod o bob man.
Roedd y “Bwrdd Anog Ffarmio Diarhebol Amgenach” wedi bod rownd y lle’n gwneud pri-lims
Ag Owen am roi y dyfarniad tra’n pwyso ei fraich ar lyfr hymns.

Athro pori oedd Owen i ddefaid, roedd o wir yn meddu a’r ddawn,
Wnai o fyth edrych drwy’r ffenest ben bore, neu chai ddim byd i’w wneud yn y pnawn.
“Mae’r drydedd wobr eleni’n mynd i hipi fu a ieir yn ei dÅ·,
Ac a fethodd anelu ei fwa a saeth pan ddaeth llwynog i’w bwyta yn hÅ·.
Fe darai’i ben elin yn erbyn pob mur gan nad oedd ei saethau yn ddigon byr”.
Yr hipi esboniodd “mewn bwthyn un-nos, hir fy nghyfaill, hir yw pob arrows”.

Aeth Owen ymlaen i ddyfarnu “mae’r ail wobr heno’n ddi-fai
I Wil tarw potel Cwm Cynllwyd, am ddefnyddio AI ac AI”.
“Mae Wil” meddai Owen, “di llwyddo ar ol oriau o weithio’n ddi dwyll
I greu campwaith o afr, un deallus; ei afr gorau, a’i enw yw Pwyll”.

“Ond i’r hufen eleni” medd Owen “Daw hen geffyl a’i goesau yn gam,
Gast ddefaid mewn braw wrth ei ochor, a ffarmwr o’r enw Dei Sam,
Ac er mor anodd yn amlwg fu’r orchwyl, mi dynnodd Dei ast allan o’r ceffyl.

Daeth hogyn bach Gladys Ty Pella’n hel casgliad tra cenid yr emyn
A’i fam oedd yn ceisio esbonio nad Aur ydoedd popeth i Emlyn.
I orffen, caed sgwrs gan Huws y gweinidog, ryw sgwrs ddigon ‘pig’, am brynu cyffylog!

Aled Jones 8.5

Dros yr Aber
(Recordiad gan Iwan, perfformiad gan Rhys)

Mae’n fraint cael bod yma heno i dderbyn fy ngwobr i:
Gwobr Tafleisiwr y Flwyddyn (neu ventriloquist i chi a fi).
Ac ie, fi, Iwan, sy’n siarad, a fy mhyped yw Rhys Iorwerth.
On’d yw e’n realistig, a’i wyneb ’di baentio mor brydferth?
Allwch chi ddim fy ngweld i – rwy’n cuddio y tu ôl i Rhys,
yn rheoli pob symudiad, a ’mraich lan cefen ei grys.
Rwy’n tynnu ar un llinyn i wneud i’w geg agor a chau;
ei wefusau sydd yn symud... dim ond pan ... wyf i’n caniatáu.
Os pwysaf i’r botwm yma, shgwlwch ar ei lygaid yn rowlio!
Mae’n siŵr o deimlo embaras, ond am hynny sa i’n becso.
Wrth dynnu’r llinyn yma, mae e’n codi ei fraich chwith
a’r lifer yma wedyn sy’n gwneud i’w goes dde godi’n syth.
Wrth dynnu’r llinynnau’n gywir, ei ddwy benelin sy’n fflapio
nes ei fod yn ymdebygu i iâr fawr grac yn rapio.
O ydw, rwy’n cael lot o sbort yn rheoli ei holl fywyd
ond i’r tafleisiwr druan, y mae ’na dristwch enbyd:
y pyped gyda’i feiro a gaiff y clod o hyd
er mai finnau sydd yn sgwennu ei gerddi oll i gyd!
A dyna pam rwy’n ddiolchgar am ennill y wobr fawr.
I gloi, dyma wneud i Rhys Iorwerth neidio lan a lawr...

Iwan Rhys 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Caffi Ni sy’n seithfed ne’

Penllyn

Er y rwdlan yn fanne
Caffi Ni sy’n seithfed ne’

Gruffudd Antur 0.5

Dros yr Aber

I Fadryn y dof adre
Caffi Ni sy’n seithfed ne’

Marged Tudur 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Benthyg

Penllyn

Y bore hwnnw,
rhwng gronynnau sialc
y wers wyddoniaeth,
llithraist i'r sêt agosaf.

Heb bensel,
eisteddaist i wylio'r llwch
yn llafn yr haul,
nes i minnau dosturio
a dewis o'm câs pensiliau gorlawn,
y salaf i ti.

Labelwyd yr adar llwydion.

Â'r wers ar orffen
estynnaist ronyn o'r awyr las
rhwng bys a bawd -
un bluen sgrech y coed,
a'i gollwng ar gledr fy llaw,
fel anadl.

Ond hawliaist ti mo'i glesni nôl.
Ac weithiau ar ddydd o haf
mae pwysau'r bluen ysgafna' 'rioed
fel plwm
ar gledr llaw.

Haf Llewelyn 10

Dros yr Aber

‘Tyd laen, cyn i’r llanw droi’ medda chdi
wrth imi wasgu ’mysedd ar ystlys y cwch
a chamu’n sigledig i mewn.

Yn ara’ bach, aiff Warws Dora, TÅ· Coch
a’r silwét yn Bwlch yn llai ac yn llai.

Dwi’n trio cadw rythm dy rwyf
wrth wrando ar bioden fôr yn clymu hwyliau’r awel
a dy lais yn bedyddio pob modfedd o’r bae
ag enw, stori a sianti.

Yna, rwyt ti’n tawelu
ac mae atgofion am y dwylo fu wrth ein peneliniau
yn creu crychau ar dy wefus.

Ar y lan, rydan ni’n tynhau’r rhaff sy’n raflo,
gan oedi i syllu ar y tonnau’n llyncu olion traed,
cyn codi’n golygon tua’r gorwel
a throi i gerdded eto i fyny’r allt.

Marged Tudur 10

9 Englyn: Negydu

Penllyn

Tegwch gaiff ei ategu, - geiriau doeth,
Geiriau dwys rhesymu.
Weithiau, â hyn yn methu
Wel gei di ddwy lygad ddu.

Haf Llewelyn yn darllen gwaith Al TÅ· Coch 8.5

Dros yr Aber

Fe allai’r Mesur Marw â Chymorth gymryd pedair blynedd i ddod yn gyfraith.

Draw o sŵn aelodau’r Senedd a’r wasg,
mae ’na rai mewn gwaeledd
na ŵyr byw ond ger y bedd
eisiau dewis y diwedd.

Carwyn Eckley 9