Cerddi Rownd Derfynol Y Talwrn 2025
1 Pennill bachog (rhwng 4 a 8 llinell): Adroddiad Ysgol Unrhyw Fardd
Dros yr Aber
Adroddiad Ysgol Bardd ‘Anhysbys’
Swil iawn a disylw yw. Yn y cefn,
mae’n llais cudd, anhyglyw,
a’r oll oherwydd ei rhyw,
oherwydd nad yw’n wryw.
Marged Tudur 9.5
Y Ffoaduriaid
Heb amheuaeth, y mae Llio
yn ei dosbarth yn disgleirio.
Gobeithio daw yn ôl fis Medi
heb y gwallt My little pony.
Gethin Wynn Davies yn darllen gwaith Gwennan Evans 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw bentref yn nalgylch y Steddfod
Dros yr Aber
Ein cof yng Ngresffordd yw cân
gwÅ·r Medi drwy’r gro mudan.
Rhys Iorwerth 9
Y Ffoaduriaid
Dileit i ryw eneth dlos
ym Mhoncie oedd fy mhancos
Dyfan Lewis 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n chwilio am rywle i guddio’ neu ‘Mae’n chwilio am rywle i guddio’
Dros yr Aber
Mae’n chwilio am rywle i guddio
ar ôl iddi ddwyn y Prosecco
a phwdin a phanad
o’r cownter yn Platiad.
Mae rhai am ei dad-archdderwyddo.
Rhys Iorwerth 9
Y Ffoaduriaid
Rwy'n chwilio am rywle i guddio
y stash magasîns sydd di'w stwffio
yn flêr dan fy matras;
mae'n destun embaras
sawl rhifyn o Barddas sydd yno.
Gethin Wynn Davies 9
4 Cerdd 12 llinell ar fesur yr englyn toddaid: Cymdogaeth
Dros yr Aber
Ni wn ai’r sŵn ai’r asennau noethion
sydd waethaf. Â mamau’n
magu eu dim o hogiau, mae gwrando
ar yr udo heno’n f’ysgwyd innau.
Mewn heulwen, maen nhw’n hela, ond o hyd,
bwced wag ddychwela.
Ac er i blant fegera, ’mond briwsion
a malais dynion sy’ ym Mhalesteina.
I’r rhai feiddia, mae’r fyddin yn barod
i’w bwrw i’r pafin.
Rhaid trio byw nes daw rhywun drwy’r baw
i agor llaw pan ddeffra’r gorllewin.
Marged Tudur yn darllen gwaith Carwyn Eckley 10
Y Ffoaduriaid
(Er cof am fy nhaid, gwas ffarm a bardd gwlad a ddysgodd ei grefft wrth gyd-letya
mewn llofftydd stabal ar ffermydd LlÅ·n.)
Yn llofft stabal fy nghalon, – yn y gwyll
dwi’n gweld yr hen weision
yn niwylliant penillion; – er eu siâr
o waith hegar ro’n nhw’n gyfoethogion.
Rhanna'r gweision eu doniau, – yn goleg
i’w gilydd, a’u beichiau
fin nos wedi’w hysgafnhau, - pob llais brwd
yn rhannu o gnwd yr hen ganiadau.
O’m hunigedd rhyfeddol – wrth y ddesg
rhith ddoe ddaw’n nosweithiol
o’r hogiau’n rhannu’r rhigol. – Nid oes cân
i’w hwyrion egwan a’u bwrn unigol.
Gruffudd Owen 10
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Ara’ bach a phob yn dipyn'
Dros yr Aber
“Ym mha ffordd yr hoffech imi
mewn man poenus roddi’r eli?”
holodd doctor y gwybedyn.
“Ara’ bach a phob yn dipyn.”
Iwan Rhys 9.5
Y Ffoaduriaid
Ara’ bach a phob yn dipyn
y mae tynnu llun o bidyn
ar gefn siaced y prifathro…
…chai fyth gynnal gweithdy eto.
Gruffudd Owen 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Partneriaeth
Dros yr Aber
Iwan: Ry’n ni angen gwneud cân ysgafn, a hynny yn go glou.
Rhys: Wel dyna’r linall gynta!
Iwan: A dyna lein rhif dou!
Dim ond deunaw llinell eto, ac fe gawn ni eistedd lawr.
Rhys: Ond rhaid gneud iddyn nhw chwerthin.
Iwan: Fe wna’ i iddyn nhw chwerthin nawr!
Be ti’n galw prifardd go ifanc yn ei sbecls
ac sydd yn llawn o gwrens?
Rhys: Dim syniad.
Iwan: Carwyn Eccles.
Rhys: Iw, ma hynna’n corni. Mae angan rwbath gwell.
Iwan: Mae gen i rai am Alan Llwyd...
Rhys: Na, paid â mynd rhy bell!
Iwan: Ydy cynulleidfa’r Talwrn yn hoffi jôcs tÅ· bach?
Sŵn rhechen? Prrrrp Prrrrrp.
Rhys: Ma hynna’n hollol gach.
Wyt ti wedi gollwng un go iawn? Ma’n drewi fel sach o hadocs.
Iwan: Na nid fi, mae’n gwynto fel rhechiadau Llio M.... Rhydderch.
Rhys: Beth am dwtsh o hiwmor slapstic?
Iwan: Be, slapstic ar y radio?
Di hynna ddim am weithio.
Rhys: ’Ddangosa i i ti mor dda di o.
Cau dy lygaid.
Iwan: Iawn. Rwy’n poeni.
Rhys: Yn dynnach.
Iwan: Sa i’n siŵr...
Rhys: Wyt ti’n sychedig?
Iwan: Ydw.
Rhys: Da iawn – wel cymra ddŵr! [Rhys yn tywallt cwpan o ddŵr dros Iw]
Iwan: Be wnes i i haeddu hynna?! Dwi heb wneud bygyr ôl!
Rhys: Wyt ti’n cofio cân y pyped? Nes i ddeud swn i’n dy gael di nôl!
Iwan: Anghofia hi! Tro nesa, fe wnaf i gân gyda Marged yn lle.
Wyt ti ffansi cydweithio Marged? Amdani?
Marged: Na, no wê! [Marged yn rhoi Slepjan i Iwan]
Iwan Rhys 9.5
Y Ffoaduriaid
Mae gor-ganmol y Meuryn yn hen hanes erbyn hyn.
A peidiwch deud wrth neb, ond dwi'm yn cîn ar Ceri Wyn.
Mae'n hen bryd seranêdio a chyfarch efo gwên
y person uwch y Meuryn ar lwyfan y Babell Lên.
Hi sy'n cyfri'r marciau, a hi sy'n cadw'r sgôr.
A beth ydi ei henw hi? Nia Lloyd Jones, ffôr shôr.
Nia, ti yw'r gorjysaf o staff y ÃÛÑ¿´«Ã½
Dwi mor falch dy fod ti yma, i gael ochri efo ni.
Y tro cyntaf i mi'th ganmol am dy drefn, dy waith, dy chwimdra
mi gath y Ffoaduriaid, fel dyddiad cau, naw diwrnod ecstra.
Mi yrrais gerdyn i ti am hynny'n reit ddiolchgar,
a wedyn, gath ein tîm y tasgau Talwrn fis yn gynnar.
Dydi Ceri ddim yn gwybod am ein cariad di-ben-draw
pan roiai i mi wyth a hanner, y mae Nia'n sgwennu naw.
Ond heddiw, dwisio mwy, Nia. Dwisio mynd ôl-the-wê.
Be ga’i gynnig i ti'n helpu ’roi Dros yr Aber yn eu lle?
Os roi di farciau llawn i ni, fe addewa i un dydd
i gael torf i ganu'th enw ar alaw Torri'n Rhydd.
O Nia, paid â ngwrthod, a paid â bod yn swil.
Jest sgwenna Un a Sero ar y papur.
(Nia - "Oce, Deal")
(Pawb i ganu enw Nia Lloyd Jones drosodd a throsodd, ar alaw Torri'n Rhydd, to infinity.)
Llio Maddocks 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Hon yw bro Rob a Ryan
Dros yr Aber
Hon yw bro Rob a Ryan
A phawb erbyn hyn yn ffan
Iwan Rhys 0.5
Y Ffoaduriaid
Hon yw bro Rob a Ryan
I mi’n Hollywood ..man!
Gruffudd Owen 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwyliau
Dros yr Aber
... a be wnawn ni rŵan? Mynd yn un fflyd i’r ardd gwrw
i godi llwncdestun i’r Out of Office,
newid i’n lleisiau crysau-T a fflip fflops,
gadael i’r fêps anadlu, gadael i’r plant
a’u cegau sôs coch redeg heibio’u hamser gwely.
A be wnawn ni rŵan? Dal ceg camera
uwch swigod aur y lagyr,
a rhwng y ‘tagia fi’ a’r sgrolio sydyn,
rhoi pwysau bawd ar gorff pum mis
yn amdo’r tywod.
Zainab Abu Halib.
Mae bys bach ei Mam yn lletach na’i ffêr.
Daw golau ola’r dydd i wasgu’i fysedd ar fy ngwddw.
A be wnawn ni rŵan?
Marged Tudur 10
Y Ffoaduriaid
Rwy’n dewis lle ar lan y pwll
ac yn taenu’r tywel i’w hawlio.
Does dim byd yn digwydd
wrth i mi ddiosg fy ffrog,
ei phlygu’n daclus,
ac offrymu fy nghnawd gwyn i’r pelydrau.
Mae trwynau’r bobl yn aros yn eu llyfrau,
mae llygaid rhai ar gau
a bob hyn a hyn,
mae rhywun yn mynd a dod o’r dŵr.
A phan ddaw’r awydd arnaf i
i lithro i’w goflaid oer
fe symudaf mor rhwydd drwy’r llonyddwch.
Ac ar y cyfandir hwn,
lle dwi’n nabod neb
mae fy nghorff
yn teimlo’n le cwbl gartrefol
i dreulio wythnos.
Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 10
9. Englyn cywaith – Targed
Dros yr Aber
Nigel Farage a Reform
I wlad y dwl y deui di, yn ffrind
mor ffraeth. Yn ei thlodi,
etholaeth ar werth ‘weli.
Reit hawdd fydd ei chymryd hi.
Rhys Iorwerth 10
Y Ffoaduriaid
Be wêl yr eryr a’i big? – A welai
y miloedd blinedig
yn giw hir neu ddarn o gig
yn y lludw drylliedig?
Gruffudd Owen 10