Main content

Cerddi Rownd Cyn Derfynol 2025

1 Pennill Bachog: Archeb

Tir Iarll

Boi yr Uber â’i heibio – yn ei stêm,
JustEat ‘di anghofio
cynnwys fy Mig Mac heno…
mae hi nawr yn Dominô.

Tudur Dylan Jones 8.5

Ffoaduriaid

Arferai fod yn eithaf ciwt
fod fy mhlant mor debyg i fi.
Ond gallant brynu sothach nawr
o’m ffôn, trwy Face ID.

Dyfan Lewis yn darllen gwaith Gwennan Evans 8.5

2 Cwpled caeth decsill yn cynnwys gair neu ymadrodd o unrhyw iaith Ewropeaidd

Tir Iarll

Y thema hynaf i anthem hanes
Yw brolio, brolio bod uber alles.

Emyr Davies 9.5

Ffoaduriaid

Fy mhlant gafodd flas sultanas i'w te,
hyn nawr sy’n datrys fy raisin d’être.

Gethin Wynn Davies 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae pethau’n debygol o boethi’

Tir Iarll
Mae pethau’n debygol o boethi,
A minnau’n ystyried ymnoethi;
Mae’n ormod o drwbwl
(Fel cael odlau dwbwl) -
Rwy’n meddwl na fyddai yn ddoeth i.

Emyr Davies 9

Ffoaduriaid
Roedd Talwrn ar draeth ymddinoethi
yn syniad ofnadwy, rwy’n ofni.
gan mai Emyr y Graig
ydi pin-up fy ngwraig.
Mae pethau’n debygol o boethi.

Gruffudd Owen 9

4 Cywydd gofyn (rhwng 12 a 18 llinell) unrhyw arf neu arfau

Tir Iarll
Irina Slavina, newyddiadurwraig a losgodd ei hunan yn fuan ar ôl ymosodiad Rwsia ar Iwcrain.
Ystyr Voldimyr / Vladimir yw ‘arweinydd byd’ a/neu ‘arweinydd hedd’.
Ystyr Irina (Irene) yw ‘yr heddwch a ymgorfforwyd’.

Vlodimyr, Vladimir, mae
hen hanes yn eu henwau,
dau enw mewn dwy heniaith,
a dau ŵr ar yr un daith;
dau a ŵyr am fyd a hedd
ond dau na ŵyr eu diwedd.

Yn fy enw gofynnaf,
drwy ru oer y pedwar haf,
yn naïf am ysgrifbin,
un blaen dur all drechu’r drin,
yr un arf all roi i ni
amodau dydd cymodi,
rhoi ar ddalen ddau enw,
dim ond dau, eu henwau nhw:
enwau’r ddau allai ddewis
piau’r hedd a thalu’r pris.

Mererid Hopwood 9.5

Ffoaduriaid

Mae’n nos, a dwi’n y ffosydd,
yn dad, heb oleuni dydd.
Rhwygo’r aer wna twrw’r gri
o hyd fel sŵn bwledi.
Yn fy arfwisg trwch plisgyn
af i’r gâd dan leufer gwyn.

Un arf rydw i’n ei erfyn:
Llafn o haul all lyfnhau hyn
o glwy. Trywana dy gledd
i’m mynwes ddi-amynedd
a di-gwsg. Dyro i dad gwan
a’i ryfel, fwynder hafan.

Gruffudd Owen 10

5 Pennill mawl neu ddychan, ar fesur y Clerihew, i unrhyw Gymro neu Gymraes

Tir Iarll
Ai ffôl neu ddewr oedd Owain Glyndŵr?
Sai cweit yn siŵr.
Aeth ar sbri i setlo dadl,
Ac mae’r gweddill yn ffal-di-ridl-radl.

Aneirin Karadog 8.5

Ffoaduriaid

Carwyn Eckley.
Yn yr haf mae’n mynd yn ffrecli.
Daeth yn brifardd yn twenti-êt,
rhaid ei fod o angen sêt.

Gethin Wynn Davies 9

6 Cân ysgafn: Rhoi Heibio

Tir Iarll

Rhois hebio ganu’r cornet, ’chos sai’n lico hufen ia,
Am na fedrwn harmoneiddio, rhois heibio’r harmonica,
Am na chawn i signal, rhois heibio’r sacsoffon,
A’r offeryn pres estynnol, rhy drom oedd yn y bôn

Wrth chwarae’r drymiau ron-i rhy fychan i’r hi-hat,
Ac enw cwbwl addas oedd y clarinet B fflat.
Ffarwel i’r gong a’r bongo, y tenor horn a’r liwt
Cans do newidiodd popeth pan glywais gân y ffliwt

Dyw Dylan a’i farddoni ddim yn llwyddo’i greu yr ias,
Ond mae pethe’n gallu newid pan mae’n tynnu ei ffliwt e mas,
Pen brydydd ydyw Emyr ac awdur hynod giwt,
Ond uwch na’r rhain yn gyfan yw ei allu ar y ffliwt.

Mae rhai’n ei alw’n rapiwr, ac eraill yn brifardd, glei
Ond gwn ym mer fy esgyrn mai flautist ydyw Nei.
Sdim angen beirdd o safon na mynd i’w Waun mewn siwt,
Pan sda chi dîm o Ieirllod sy’n gallu canu’r ffliwt.

Beirdd Tir Iarll 9

Ffoaduriaid

Mi rydwi wedi marw. Ces ddamwain, do, un gas
wrth faglu dros yr wy a’r lwy tra’n gor-stiwardio ras.

Roedd plant y Cylch mewn twmpath, a’u wyau i gyd yn botsh
ond fi ddoth oni waethaf wrth i’r llwy fynd... o dio’r ots.

Mi aeth fy nghorff i’r babell Cymorth Cyntaf, ymhell o’r sŵn,
a meddai’r nyrs, “she’s very dead. I think it was the spoon.”

Ond doedd dim lle’n y Capel Hedd, nac awydd ar y pwyllgor
I ganslo mabolgampau a sioe flynyddol pentre Llanfor.

Fy nghorff a roddwyd heibio yn barchus ar y bwrdd
yng nghanol cystadleuaeth lemon drizzle WAGs y Cwrdd.

Roedd sein ar offer tug of war yn datgan 'ddim yn saff'
felly nghorun a fy sawdl a ddefnyddiwyd fel pen rhaff.

Fe godwyd fi i sefyll yng nghanol patch o ddrain,
a fi gath wobr gyntaf y gystadleuaeth Bwgan Brain.

Fe falwyd pob un ffon gan fy nghymydog (mae o’n lembo)
felly fi gafodd y fraint o chwarae rhan y polyn limbo.

Roedd basged Anti Janet wedi malu, am drybini,
Ac ar fy mol bach llwyd bu'i arddangosfa prize zucchini.

Fe nghladdwyd mewn amherffaith hedd o dan y castell bownsio.
Dwi'm yn meddwl na'i stiwardio yn sioe pentre Llanfor eto.

Llio Maddocks 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Fore Sul difarais i

Tir Iarll

Fore Sul difarais i
A fflato wnaeth fy ffliwt i

Emyr Davies 0.5

Ffoaduriaid

Emyr Y Graig a ‘ngwraig i
Fore Sul difarais i

Gruffudd Owen 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwisgo

Tir Iarll
Mahsa Amini

Ar wyneb yr anialwch
dan rymoedd Duw a deddf,
fe redaist i’r tawelwch
ac ildio i rym dy reddf,
gan ddiosg yr hualau sydd
yn cadw pawb rhag byw yn rhydd.

Yn llygaid haul gormesol
fe aethost ar dy hynt,
mor wyllt â bwled pistol
neu wallt yn chwip y gwynt,
i ddawnsio’n chwyrn dros glwt o dir
a mynnu’th hawl i wisgo’r gwir.

Dan groen dy wlad gorweddi,
yn dawel fel hen glais,
ond gwranda ar y rheini
sy’n deffro, codi’u llais –
mae’u chwyldro nhw yn dal ar waith,
a’th wyneb di’n goleuo’r daith.

Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 9.5

Ffoaduriaid
(ar ôl dysgu mai dim ond yn 2019 gafodd merched Cymru eu henwau ar gefn eu crysau)

Fesul pwyth mae gwneud crys.
Llywio'r nodwydd â bawd a bys
gan dynnu llathen o fôr coch o ffabrig,
a'i wnïo at ei gilydd
fel wnaeth ein neiniau cyn heddiw.

Gwehyddu ein gobeithion
i ni gael dod â'r crys yn fyw.

Plygu dau ddart ar yr esgyll,
brodio draig ar galon y canol cae.
Dwy gic flaen y goler,
ac un hem tua'r gwaelod yn gadwyn, yn rhes.

Fesul pwyth mae creu hanes.
Nid benthyg y crys hwn, ond ei gadw
wedi ei greu.

Gwisg ein chwarae yw chwarae teg
ac ar ei chefn nawr mae
Fishlock
10.

Llio Maddocks 10

9 Englyn: Dêl

Tir Iarll

Ni all ‘dêl’ wella dwywlad na rhyfyg
Droi’r rhyfel am eiliad;
Er mwyn siâr maen nhw’n siarad,
I gael bargeinion y gad.

Emyr Davies 10

Ffoaduriaid

Ar y map, dim ond tincro mân – oedd hyn,
wrth i ddynion sipian
eu te bach; twtio bychan.
Dileu gwlad â dwylo glân.

Gruffudd Owen 10