Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Rheol Aur
Bro Alaw
Mi a glywais, “Câr dy g’mydog”,
“Gwna i eraill”, “Bydd drugarog”,
Ond y rheol dyddiau yma,
Lliwio’r gwallt yn felyn ola’ –
Troi tu min a phalu c’lwydda’.
John Wyn Jones 8
Manion o’r Mynydd
Yng nghyfamod trallodion – awn lygad
am lygad heb styrio’n
Iawn y tâl o’r weithred hon,
Awn oll i niwl yn ddeillion.
Tudur Puw 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â chadwraeth
Bro Alaw
O goflyfr archif gyflawn
Hanner gwir bob tro a gawn.
Richard Parry Jones 9
Manion o’r Mynydd
Dryslwyn a brwyn lle bu’r og,
Gwylltir lle bu maes gwelltog.
Nia Powell 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae sôn y bydd rhaid adleoli’
Bro Alaw
‘Mae sôn y bydd rhaid adleoli’
Pob prifardd ym Mhrydain eleni,
Y gorau yn wir
Ddaw i Fôn dirion dir,
A’r lleill lawr i Sir Aberteifi!
Ioan Roberts 8.5
Manion o’r Mynydd
Mae sôn y bydd rhaid adleoli
I blaned ger Alpha Centauri
Sy’n siwrna go hir
Tu allan i’r sir
Ar dractor John Deere heb rocedi.
Alwyn Evans 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pennaeth
Bro Alaw
[o gofio “Hail to the Chief” yng ngherdd enwog Sir Walter Scott
“The Lady of the Lake”]
Hen ramant mewn cri rymus
Uwch y llyn wrth gyfarch llys,
Yn adrodd am wrhydri
Glewion a’u bloedd ydoedd hi,
A’r awr ddaeth â Rhodri Ddu
O’i orchest a’i ymgyrchu,
Un hwyr, a’i rwyfwyr, ar wÅ·s
Enwog i achub ynys.
A heddiw mor anaddas
Yw, ar dro, fod gŵr o dras
Dewrion yr ucheldiroedd
Yn ei Blas yn hawlio’u bloedd.
Richard Parry Jones 9
Manion o’r Mynydd
Un enfys o gyfanfyd
Heb os dy ddyfod i’r byd,
Dod o wyrth i’n côl ni’n dau
Yn wanwyn o enynnau.
Ond gwawch ar ôl gwawch a gwyd
I reoli yr aelwyd,
Dy deulu ar dy alwad
A dau was yw mam a dad
Yn gaeth i’th wasanaethu,
Y teyrn feddiannodd y tÅ·.
Yn hyder hyf dy dair oed
Unbennaeth yw mabanoed.
Nia Powell 9.5
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Clywais ddweud gan un sy’n cofio’
Bro Alaw
Clywais ddweud gan un sy’n cofio
Nad yw am weld rhyfel eto,
Wrth i’r atgof fynd ymhellach
Daw ei gysgod yn agosach.
Ioan Roberts 8.5
Manion o’r Mynydd
Clywais ddweud gan un sy’n cofio
Bod y Cymry’n gewri sgrymio,
Gan y gŵr mae côf arobryn,
Cofio’r arth a’r blaidd tra’n blentyn.
Alwyn Evans 8
6 Cân ysgafn: Trafodaethau
Bro Alaw
Bu’n drafodaeth yn y Porthdy, ers pum canrif fwy neu lai
A’r seintiau yn cytuno mai ar Pedr ’roedd y bai
“Dwi’n mynnu mis o wyliau dros y Pasg”, a fyddai’i gri
Ond aeth trafodaethau’n gega’n dwy fil un deg tri.
“Mae’r dyddiad yn wahanol ym mhob un o wledydd ffydd
Fe fyddai angen ’mynadd sant i greu amserlen fydd
Yn para am ganrifoedd”, medda Padrig. “Hon yw’r dasg -
A dw inna’ hefyd isio peint yn Nulyn dros y Pasg”.
Andreas yn rhy brysur, roedd o wedi cael y job
O gadw cýw ar Andrew, oedd yn ffrindia’ â rhyw lob,
Sant Pawl oedd yn e-bostio, a Iago’n Compostela
Yn gwerthu cregyn plastig a phob math o drugaredda’.
Roedd bron fel Senedd Lloegr, ac yn mynd o ddrwg i waeth;
Rhai’n chwifio eu bugeilffyn, rhai’n taflu’u gwawl, pan ddaeth
Ryw sant bach tawel mewn gan ddeud: “Wna i waith Pete - ok”?
Ac felly fo oedd ar y giât, ac yn y feri lle
Pan laniodd Margaret Hilda wrth y porth yn swnllyd, ewn
Yn gweiddi “Cym' on Peter! - mi dwi isio dod i mewn!”
Â’i dawel lais atebodd, “ Y lle arall sydd i ti;
Mae Pedr ar ei wyliau - tyff - a Dewi Sant dw i”.
John Wyn Jones 8.5
Manion o’r Mynydd
Bu’r Manion mewn tipyn, o benbleth,
Un dasg yn eu drysu yn lân,
‘Roedd Ceri am bennill ar fesur o’r Sowth
Efo lein na wnai ffitio’r fath gân.
Tecstiasom at Ddafydd ab Edmwnd,
Ond ‘roedd yng Nghaerfyrddin ar hap,
‘Chwi sbarblisyddion, wyf Bencerdd, ni rof
Un cyngor ar neges Whatsapp.’
TH oedd yn dipyn addfwynach,
‘Roedd yn Rio yn disgwyl rhyw long,
‘Wel ie, mae’r mesur yn ddiarth i mi,
Ond all Ceri Wyn FYTH fod yn rong ….’
Mewn panic, yr oeddem am sicrwydd,
A barn JMJ sy’n ddi-ffael,
‘Gyfeillion, cyfeiriaf y Prifardd o fri
At fy Meibl - mae’i linell o’n wael!,’
Bu’r tîm o Fro Alaw yn gallach,
Cael barn GWIR awdurdod a wnaed,
‘Am unwaith’, medd Manon, ‘er syndod a sioc
Camwri gan Geri a gaed!!’
Nia Powell 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Cewri sgwâr yw’r crysau gwyn
Bro Alaw
Cewri sgwâr yw’r crysau gwyn
A ninnau’r dîm llawn gwenwyn
Annes Glynn 0.5
Manion o’r Mynydd
Cewri sgwâr yw’r crysau gwyn
A ni yn wÅ·r mewn newyn
Cynon Tomos
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwaith
Bro Alaw
Erwau Rhos Ddu’r Dŵr Mawr oedd wedi suro,
Rhaid oedd traenio, troi a thrin.
Pwyso ar brofiad gŵr y dysgodd fy rhieni i mi ei alw’n ‘Yncl’,
Er nad yw’n perthyn dim, mae popeth amdano’n perthyn,
O’r amser pan redwn o’r ysgol i gab y JCB
I wylio’ i gelfyddyd a rhannu ei fisgedi sunsur.
Nawr ac yntau bron yn bedwar ugain
Awn ati i roi sglein yn ôl i’r ‘boliau duon’.
Yna wrth agor y gwythiennau
Down ar draws hen, hen draeniau agorwyd gan ‘nafis’
Ganrif a mwy ynghynt, gyda throsol, pîg a rhaw,
Cerrig wedi eu cloddio a’u gosod yn gain gyda’u dwylo dur.
Y dŵr yn llifo o’r hen i’r newydd
A’r wefr o’i wylio’n rhoi rhyw ias o berthyn.
Dychwelodd y ffresni i Rhos Ddu’r Dŵr Mawr
A gwn fod mwy i waith na’r gwaith ei hun.
Ioan Roberts 8.5
Manion o’r Mynydd
Wrth i gorau’r wig gilio,
a’r haul yn meddwl am ei wely,
Syllaf,
Yr erwau yn oriel o grefft
Pob llechwedd â’i artist.
Rhyfeddaf,
at y waliau,
a godwyd garreg ar garreg
gan fy nhaid,
â ’nhad yn gwmni.
Â’r nos yn cau amdanaf,
Gwelaf
chwyn lle bu cnwd,
trogod yn pesgi ar waed cefn gwlad
a boliau’r byd yn wag..
Bylchu mae’r wal,
A gaf i ei chodi?
... â ’mhlant yn gwmni?
Gwilym Rhys Jones 9
9 Englyn: Deiseb
Bro Alaw
(dros Heddwch, 2025)
R’ym ni sydd â’n henwau isod yn daer
Dros weld oes o gymod,
A llafn yw pob un llofnod
Drwy’r dig sy’n beryg’ i’n bod.
Annes Glynn 9
Manion o’r Mynydd
Tros ganrif ers bu rhifo – eu henwau
I’ch annog i uno;
Trump, clyw di ninau’n ein tro,
Oeda di ymneilltuo.
Cynon Tomos 9