Cerddi Rownd 2 2025
1 Pennill bachog: Awgrym ar gyfer rhaglen deledu newydd
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
I’r Cymry, mae hi’n grefydd
fatha côr neu fara lawr,
mae o’n dod yn ail natur
(haws na dringo Glyder Fawr.)
Hon yw’n camp genedlaethol,
ac mae’n haeddu’n sylw ni:
Dechrau Canu, Dechrau Cwyno
coming soon to S4C.
Anest Bryn 8
Tir Mawr
Garddio tra'n gwleidydda
Am sut i hawlio costa
A sut i dyfu coed da-da
O'r enw 'Palu Clwydda'
Gareth Jôs 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â theilwria
Dwy Ochr i’r Bont (OWO)
Duwiol ŵr sy’n dlawd ei wlân,
yn ei siwt y mae Satan.
Osian Wyn Owen 9
Tir Mawr
Bwyth wrth bwyth dadwneir ein bod -
Di-atal ydyw’r datod.
Carys Parry 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn i yn berchen ar ynys’
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
Pe bawn i yn berchen ar ynys
fe’i llenwn â dynion niferus,
Myrddin ap, Ceri Wyn,
Idris Reynolds, T. Gwynn,
dwi’n licio fy meirdd yn oedrannus.
Anest Bryn 9
Tir Mawr
Pe bawn i yn berchen ar ynys,
Mi fridiwn i nadroedd peryglus
Ac wedyn creu jeti,
Rhoi arwydd mawr arni:
“Pob jetsgi – eich glanfa groesawus”.
Huw Erith 8.5
4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw ddigwyddiad torfol penodol
Dwy Ochr i’r Bont
Marathon y SheUltra, Pen LlÅ·n
Marathon elusennol i ferched i godi pres i ymchwil cancr.
Arferai sglein mileiniach - fod i’r haul,
'fedrai'r heli afiach
ar rŵt ei gwneud hi'n rheitiach
troi’i hwyneb o’r bore bach.
Bore bach casach y co' - a’i bwriad
fyddai bwrw heibio
i chwaer er mwyn ei churo,
a'i dagrau hallt hyd y gro.
Ond i’r gro caled, daeth wedyn - ryw ras
yn rhoi croeso i’r penrhyn
i gyd-redeg drwy'r rhedyn
a dal llaw ar dywod LlÅ·n.
Osian Owen 9.5
Tir Mawr
Mari
ym Mynytho adeg Ultra Merched LlÅ·n
Tir comin. Y trac. Camau unigol.
Neigwl wrth ein cefnau.
Gweld llwybr adref. Bonllefau’r
Foel Gron. Calon lond y cae.
Cau rhoi’r gorau. Ond gwyro i goflaid
plant a’u gweflau’n groeso.
Dŵr a siwgwr rhag sigo,
yna traed ac am y tro.
Troi i’r allt, a gwacter hir y poenau
yn pwnio’r deg milltir
olaf. Y nod a welir.
Rhedeg teg sy’n ennill tir.
Myrddin ap Dafydd 9.5
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Do, mi glywais wrth glustfeinio’
Dwy Ochr i’r Bont (BE)
Do, mi glywais wrth glustfeinio
rhywbeth wna i mo’i anghofio.
Clywed llais ar wynt yr awel,
llais fy ngweddw, fel plu angel.
Bethan Eirian 8.5
Tir Mawr
Do, mi glywais wrth glustfeinio
Swn y byd yn rhuthro heibio.
Minnau’n credu, yma’n hunan,
Iddo aros yn ei unfan.
Carys Parry 9
6 Cân ysgafn: Y Print Mân
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
Ar alaw ‘Dau Gi Bach’
Aeth Wil bach am beint ’fo’i fêt
a’r p’nawn yn dechrau’n reit sidêt.
Erbyn iddo gyrraedd adra’
Hangofyr oedd wedi dechra’ – O Wil bach.
“Pasia dablet i mi, plis?”
Erfyniodd ar ei wraig, Louise.
’Stynodd hithau rhai’n rhy fyrbwyll,
“Taga ar rheina!” meddai’n gandryll. – O Wil bach.
Drannoeth, roedd ei drwyn o’n damp,
Codai’i goes wrth bostyn lamp,
Cyfarth ar y dyn drws nesa’
Llusgo’i dîn ar hyd y lloria’. – O Wil bach.
Chwilio’n daer a wnaeth Louise
Cyn ’ddi holi’i gŵr mewn brys.
Y cwestiwn a drodd Wil yn welw -
“Lle mae tablets wormio’r Shih Tzu?” – O Wil bach.
Nawr, Wil bach sy’n ddoethach dyn,
Mae’n darllen bocs y pils ei hun.
Os caiff fyth hangofyr eto,
‘Blew y ci’ ’di’r ffordd i’w sortio. – O Wil bach.
Anest Bryn 9
Tir Mawr
Yr oedd Huw Llywelyn Morus, dyn gofalus efo'i bres
Yn chwilota'r papur swmpus i gael gwyliau yn y gwres
D'oedd o'm isio gwario gormod er mwyn mynd o'r glaw a'r gwynt
Yna gwelodd gynnig hynod - 'PROFIAD OES AM £200 !
Blwyddyn gyfan ar yr heli i bob cwr o'r blaned hon ! '
Fe archebodd le'n reit handi ar henfordaithrad.con
Dyma yrru i Southampton, dod o hyd i'r fan a'r lle,
A rhoi dau gan punt i'r Bosun cyn ei ddilyn lawr i'r dre
Ond pan godwyd yr angorion roedd 'na rhywbeth mawr yn rong
Roedd ei draed yn sownd mewn cyffion ac roedd rheiny'n sownd i'r llong
Bron yn noeth mewn rhesi destlus yn ymestun hyd y bad
Wele'r barus a'r darbodus oedd 'di prynnu tocyn rhad
D'oedd o'm tamaid haws a chwyno Be sy'i gael am ddau gan punt ?
Ac roedd yntau 'di arwyddo'r cytundebau'r noson gynt
Rhaid oedd rhwyfo, nos a bora i Gorea ( ger Japan )
A phob harbwr (bron) yn Asia heb roi blaen ei droed ar lan
Fyny Camlas Suez wedyn ac am adra heibio i Sbaen
Ond y cwbl welodd Huwcyn oedd pen ôl rhyw Sais o'i flaen
Pan ddychwelodd o o'r weilgi d'oedd 'na neb yn 'nabod Huw
Main fel telyn a’n llawn scyrfi, roedd hi'n syndod 'fod o'n fyw
Ac os daw'na awydd crwydro draw ymhell o Wlad y Gân
Ni aiff Huw i'r unman eto......Dim heb stydio'r sgwennu mân !
Gareth Jôs 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Ni wn heb drydan beth wnaf
Dwy Ochr i’r Bont
Ni wn heb drydan beth wnaf
Daw hi’n wyth, a dinoethaf
Osian Owen 0.5
Tir Mawr
Yn y twll oer tywyllaf
Ni wn heb drydan beth wnaf
Huw Erith
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Buddugoliaeth
Dwy Ochr i’r Bont (MWD)
‘O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?’ (1 Corinthiaid 15:55)
Oes, mae i angau ei ennill heno,
yn y waedd oer sy’n atseinio drwy’i phenglog,
yn ei gwared hi rhag cwsg,
yn yr hunllefau nosweithiol
sy’n hoelio’r llun yn sownd
i’w byw beunyddiol,
yn gwaedu i’r blaen
wrth iddi hwylio swper neu olchi crys:
Mae i angau ei ennill
yn y llygaid gwag y teimlodd eu diffodd
wrth wylio rhan ohoni’n darfod,
ac yn y plwm sy’n syrthio’n ei stumog
bob pnawn pan ddaw cysgod y bryn
i dywyllu’r dref:
Mae i angau ei ennill
yn y chwerthin a’r gwatwar
sy’n fflangellu ei chlyw
ac yn rhwygo rhychau’n ei hwyneb hen.
Oes, mae i angau ei ennill.
Manon Wynn Davies 9
Tir Mawr
(Roedd dau gôr o filwyr Cymreig yn eu lifrai yng nghystadleuaeth y Côr Meibion yn Eisteddfod Bangor1915 – mi ddaeth un yn fuddugol ac ymunodd y côr arall gyda nhw i
ganu gyda’i gilydd ar ddiwedd y cystadlu)
Maen nhw’n llenwi Steddfod Bangor –
Dwy fataliwn mewn dau gôr;
Maen nhw’n galw ar y meibion
Yn eu lifrai i roi encôr.
Rhowch nhw’n rhengoedd gyda’i gilydd,
Dyma’u gwobr ger bron gwlad
Ac mae’u lleisiau tlws yn tynnu
Dagrau llawen mam a thad.
Mi gânt fartsio â’r bonllefau’n
Uwch na thramp eu traed ar lawr
Nes bydd rheiny’n cael eu boddi
Gan daranau’r gynnau mawr.
Coed Mametz sy’n galw bellach,
Coed Mametz y gwaed a’r tân,
Ac yn rhengoedd hogiau ifanc
Coed Mametz, nid oes ’run gân.
Myrddin ap Dafydd 9.5
9 Englyn: Allwedd
Dwy Ochr i’r Bont (LlS)
i Martha Roberts, Prifathrawes olaf Capel Celyn
Yn y dŵr mae paderau – mae ’na wers,
mae ’na hwyl pasiantau;
ac wedi’r cam, Martha, mae
eu rhwd ar dy oriadau.
Elin Walker Jones yn darllen gwaith Llywela Siriol 9.5
Tir Mawr
Lle cil haul ger twll y clo, yn noddfa,
A chuddfan i wrando
Ar ryfeloedd y bloeddio
Un haf oer rhwng Mam a fo.
Carys Parry 9.5