Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Rhestr Siopa
Caerelli (DO)
Pentref, ysgol, mynwent, capel,
eglwys, ffermdai, caeau tawel,
afon lân a chwm dan gwmwl.
Hwn yw’r pris am ddŵr i Lerpwl.
Dilwyn Owen 8.5
Crannog
I gofio Dewi
Peli golf, chwe-pac Peroni,
crysau chwys a’r powdwr cyrri,
cwch bach coch yn llawn caneuon -
a digonedd o facynon.
Gillian Jones 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â’r theatr
Caerelli (JM)
Criw rhai hen ydy Crannog
Ond ry’n ni o Dir na nóg.
John Manuel 9
Crannog
Ar y set cast segur sydd
a mudan yw’r dramodydd.
Gillian Jones 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y fi oedd yr olaf i sylwi’
Caerelli (DO)
Fe dalais yn ddrud-fawr amdani
Y wisg lle roedd pawb yn fy nghweld i.
Ond gwaeddodd rhyw hogyn
“Mae’r Brenin yn borcyn”
A fi oedd yr olaf i sylwi.
Dilwyn Owen 8
Crannog
Y fi oedd yr olaf i sylwi
Na chaewyd fy zip i i fyny,
Meddai menyw sidet
“Check your stable door mate”
‘Rwyf lot mwy gofalus ers hynny.
John Rhys Evans 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tystiolaeth
Caerelli (ED)Yn ystod y rhyfel yn Gaza mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cyflenwi cydrannau awyrennau rhyfel i Israel.
Ni welir yr un aelwyd
o dan wast y llanast llwyd,
distaw’r plant a distryw plwy
yn arthio trwy’r rhyferthwy,
a daw’r byw i dorri bedd
i lanw o gelanedd.
Llef mamau a’u dagrau’n dod
yn ebill drwy ’nghydwybod.
Gwadu mai euog ydwyf,
ond gwn nad di-euog wyf –
trwy dreth gwaith a’r gyfraith gêl
fe rof at arfau rhyfel.
Eirian Dafydd 9
Crannog
Ni welodd drwy’i fabolaeth
eisiau mwy na swsus maeth
a Mam a Dat yn ateb
yno waedd y plentyn neb;
ym moethau hael mam a thad
roedd ei geyrydd o gariad.
Yn ŵr mud, o chwalu’r mur,
bodiai y papur budur
yn oedolyn di-deulu,
heb un fam, yn fab na fu,
mewn dogfennau â dau dad
yn ddeufwy o amddifad.
Idris Reynolds 9.5
5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Dwi ddim yn hoffi tarfu’
Caerelli (DO)
Dwi ddim yn hoffi tarfu,
Ar elyn sy’n gwamalu,
Na chi mawr hyll sy’n gwneud pi-pi,
Na Chardi tra mae’n talu.
Dilwyn Owen 8.5
Crannog
Dwi ddim yn hoffi tarfu
ar rai sy’n llywodraethu
ond chwant ddaw arnaf bob nos Lun
i ddala un a’i saethu.
John Rhys Evans yn darllen gwaith Eirwyn Williams 8.5
6 Cân ysgafn: Diwrnod y Llyfr
Caerelli (DO)“The Scottish Trip” Max Boyce
Dwi’n darllen pob nos yn y gwely,
ac edrych ymlaen at y dydd,
Pob blwyddyn ar ddechrau y Gwanwyn
I ddangos fy un dalent gudd.
Cytgan Mae’n ddiwrnod y llyfr unwaith eto
Ac amser i wisgo yn cŵl
Dwi’n dweud mod i’n wneud o i’r plantos
Mae’r musus yn dweud mod i’n ffŵl.
Mae Llyfr Mawr Y Plant yn hen ffefryn,
Felly es i mewn cit Wil Cwac Cwac,
Ond damwain a fu, dangosais fy mhlu,
Fy nhrowsys oedd llawer rhy llac.
Kate Roberts sydd wastad yn plesio,
Dwi’n ffan mawr o De Yn Y Grug,
I edrych fel Wini, mi wisgais i fini,
A phâr o amrantau mawr ffug.
Mae’r dyddiau o wisgo ‘di gorffen,
Y broblem chi’n gweld – fi yw’r Prif.
Fe gododd fel testun mewn sgwrs gydag Estyn.
Ac nawr dwi ar ‘gardening leave’.
Cytgan Dim ots os yw’n ddiwrnod y llyfrau,
Pob dydd dwi yn gwisgo yn cŵl,
Dwi’n byw ar fy hun mewn cwt ym Mhen LlÅ·n
A’r musus yn byw lawr yn Poole.
Dilwyn Owen 9
Crannog
Ym myd y sbin ddoctor, mewn oes o farchnata,
mae diwrnod i bopeth o fints i’r fanana.
Ceir dydd atalnodi a dydd Notty Ash,
dydd Ysbryd y Nos a dydd i’r mwstash.
Aeth y peth yn gyffredin, yn rhemp erbyn hyn,
a synnwn i fawr nad oes dydd Ceri Wyn.
Rhaid cael dydd i’r llyfyr meddai’r Cyngor Llyfre
ond dyna beth ddweden nhw, ond tefe.
Mewn cyfnod o gyni roedd arian yn sbâr
i fynd ati i sefydlu yr adran P. R.
a daeth yn amser i’r sefydliad ddathlu
yr holl gyfrole nad oes neb yn eu prynnu.
Aed ati i ddangos nad hanfod llyfyr
yw tudalenne o ddarllen difyr
ac fel mae cynllunwyr byd ffasiwn yn gwybod
gall silffoedd o lyfre addurno gofod
ac mae cyfrol gan brifardd na wnaf ei enwi
dan droed celficyn nad yw’n eistedd yn deidi.
Fel nifer o lyfre na chafodd eu darllen,
Ar ddiwedd y dydd, mae’n ateb rhyw ddiben.
John Rhys Evans 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Ces naw pancosen unwaith
Caerelli
Ces naw pancosen unwaith
Ni elais yno eilwaith
John Manuel
Crannog
Ces naw pancosen unwaith
A ddoe ces ddeunaw ddwywaith
Idris Reynolds 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Marchnad
Caerelli (DIJ)
Cydgerddai’r ddau yn araf araf bach
o’r beudy i’r cwt ieir a siediau’r clos,
y stabl wâg, a’r ’sgubor heb ’run sach,
pob man yn dawel ar hyd erwau’r rhos.
Hen gaseg wedd arweiniai’r drol yn braf
wrth dynnu’r aradr drom a lledu’r tail,
a gwyddai’r ddau, boed aeaf neu boed haf,
bod gwreiddiau byw yn angor ac yn sail.
Ond gwerthwyd aelwyd dau, a phlannu coed
er mwyn creu lle i feithrin pleser dyn
a’u beiciau modur drewllyd cyn ddi-oed
a sgrech yr Harley’n mynnu ffordd ei hun.
Cyd-orwedd esgyrn dau mewn llonydd fedd
yn gwybod beth oedd pris tragwyddol hedd.
Denzil John 8.5
Crannog
Ar ei hynt, try’r gwynt yn gas
fel dwrn i fwlio’i deyrnas.
Trwy’r gwallgo’ hyrddio, mae hi’n
ffyddlon eto’n dal ati
yn hel ei gwên o rywle.
“Eisiau un? Big Issue, ie?”
Talaf, a gwelaf ei gwên
yn wyrgam fel ei bargen
annewis sâl - a dwy sydd
ar heol eu dau drywydd.
Rwy’n rhoddi pumpunt llipa,
ond troi, gan fwmian “Ta-ra.”
Yn rhwydd, wedi rhoi iddi,
fel gwynt, ar fy hynt af i.
Philippa Gibson 9
9 Englyn: Cyllell
Caerelli
Un waedd â’i llafn yn naddu angau mab
tra’r giang mawr yn cecru,
â’i hawch wêl fam yn nychu
o roi i bridd aer ei bru.
Eirian Dafydd 8.5
Crannog
Draw ar stryd ein hisfyd ni – hyd a lled
y llafn sy’n rheoli,
yn llythrennog o’i hogi
ac fesul craith iaith yw hi.
Idris Reynolds 9