Main content

Cerddi Chwarteri 2025

1 Pennill bachog: Y Pysgodyn a Ddihangodd

Dros yr Aber
Nid oedd ond cysgod iddo dan y don,
a dim i ddatguddio
i ddyn pa beth oedd yno’n
creu hen stŵr. Ond crynais, do.

Rhys Iorwerth 9

Tir Mawr
Holais Dic y siopwr garw
“Ydy’r ‘sgodyn wedi marw,
Achos, un ai, mae na ddogni
Neu, mae wedi bwyta’n chips i?”

Carys Parry 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw air yn ymwneud â thenis

Dros yr Aber

Bob tro, lawr allt, y boi trwm
sy’ â mantais momentwm.

Carwyn Eckley 9

Tir Mawr

Fel gwybed gwnawn ehedeg
I rwyd y We’n ara’ deg.

Carys Parry 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae sgip dros y ffordd ers wythnosau’

Dros yr Aber
Mae sgip dros y ffordd ers wythnosau
a honno yn orlawn o lyfrau.
Mae’n arwydd o stad
uffernol ein gwlad.
Yn wir, y mae’n siarad cyfrolau.

Marged Tudur 8

Tir Mawr
Mae sgip dros y ffordd ers wythnosa'
Am sleifar o le i gael gwylia'
Lle chwech a charpedi
Cadeiriau, matresi
Mae'r cwbl oll yna a drysa'

Gareth Jôs 8.5

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Gwenais am eiliad a gwnes i smalio’

Dros yr Aber

Gwyliau ’gafwyd, i’r plant gael ei gofio.
A’u holl nefoedd oedd mewn un pwll nofio,
ar y sleid a’i ffrydlif. A’r ddau’n prifio.
Gwenais am eiliad a gwnes i smalio,
yn sŵn pob sblash, nad rasio a’n troi’n hen
’wnâi haf o heulwen a’i wres difalio.

Rhys Iorwerth 9.5

Tir Mawr

‘Smo’r plant yn siarad,’ medd llais ar radio
‘nac yn gweiddi heddi, fel oedd hi ddo’ –
mintai o obaith ar ffôns sy’n mynd heibio.’
Gwenais am eiliad a gwnes i smalio
diolch am sŵn a dawo – nes troi i’r stryd
a tharo ar fyd sy’n dieithr fudo.

Myrddin ap Dafydd 9

5 Pennill ar fesur ‘Ynys Enlli’ (T. Gwynn Jones) yn cychwyn â’r geiriau ‘Pe cawn’

Dros yr Aber
Pe cawn i hyd i’r llwybr cul
fe awn bob Sul i’r oedfa.
Ond am fod glitsh ar Google Maps
gwnaf laps o gylch Bethania.

Iwan Rhys 9

Tir Mawr
Pe cawn i funud i fy hun
Ddydd Llun neu Fawrth mi faswn
Yn mynd a ‘nialwch lawr i’r dump,
A Trump a Farage gladdwn.

Huw Erith 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Ymddiheuriad

Dros yr Aber

Annwyl wych drigolion ac etholwyr Cyngor Plwy
Llan-gyntun-llwyn-banana-pwrs-y-bugail-tost-ar-wy.
Fel eich aelod etholedig ers etholiad mil naw dau tri,
braint ac anrhydedd yw ichi gael eich cynrychioli gennyf i.
Ond heddiw daeth cais gorfodol gan fy nhaid, y Cadeirydd ei hun,
am fy ymddiheuriad cyhoeddus wedi’r hyn ddigwyddodd nos Lun.
Y mae’n wirioneddol anffodus bod y camera yn dal ymlaen
ac wir, does gen i ddim syniad o ble y daeth y paun.
A rywfodd (peidiwch â gofyn – technoleg, fy nghyfaill nid yw)
mae’n debyg i’r hanner awr nesaf gael ei ffrydio ar Facebook yn fyw.
A do, gwnaed camgymeriadau, ac oedd, roedd y paun yn un mawr.
Ond na, nid yw hynny’n esgus. Rwy’n cydnabod hynny’n awr.
Rwy’n sori os cawsoch eich gwylltio yn arw gan y ffordd
y gwnaeth y camera am ’chydig gael ei guddio gan yr ordd.
A drwg calon os gwnaeth yr olygfa ddaeth wedyn gythruddo rhai.
Y mae y paun, fel finnau, yn syrthio ar ei fai.
Mae gwersi i’w dysgu, yn sicr. Rwy wedi cofrestru ar gwrs.
Mae technegydd am gael cip ar y camera. Ac rwyf finnau a’r paun ’di cael sgwrs.
Etholwyr Plwy Llangyntun, dyma estyn fy ymddiheuriadau
gan deimlo’n llawn embaras â’i gynffon rhwng fy nghoesau.

Iwan Rhys 10

Tir Mawr

P'nawn da, Musus Protheroe annwyl, rwyf yma fel aelod o'r bwrdd
I drafod yr hyn sy'n eich disgwyl pan dynwch chi'r rhwymun i ffwrdd.

Cytunwyd ar dair mil o bunna' (neu ddau gant a hanner mewn cash)
Ac fe daloch yn brydlon i ninna' gael gwared o'ch barf a'ch mwsdash.

Ni chawsoch ein doctor arferol. D'oedd eto'm yn undeg a saith,
Pan alwodd o yma, o'r ysgol, am ddiwrnod ar gynllun creu gwaith.

Awyddus i blesio oedd Alan, rhyw fymryn yn wyllt, rhaid 'mi ddweud
Mae wedi gwneud ambell i joban nad oedd 'na wir angen ei gwneud.

Aeth ati, heb neb yn ei wylio, heb ofal na phoen yn y byd
O'r herwydd mae'ch llygaid yn sbio i wahanol gyfeiriad r'un pryd.

Fe lwyddodd gael gwared o'r locsyn a pheth o'r mwsdash, chwarae teg.
Yn awr pen ôl camel Sŵ Colwyn yw'r hyn sy' debyca i'ch ceg

Mae'ch trwyn fymryn bach yn wahanol. Mae'n ôl ar eich gwyneb yn sownd.
Arferai fod reit yn y canol ond n'awr mae o hanner ffordd rownd.

Di'r stori'm yn darfod yn fan'na Eich gên sy'n eithriadol o gam
A rhywsut fe gollodd o'ch clustia cyn gadael y wlad efo'i fam.

Na hidiwch ! ar ôl i ni ch'lota, fe ddaethom o hyd i rhai sbar,
Ond 'nawr 'da chi berchen ar glustia' sydd ddim wedi dod o'r un par

Dros Alan rwy'n llwyr ymddiheuro am be sy' 'di digwydd i chi,
Ond rydych yn daeall, gobeithio, 'di o ddim oll i'w wneud efo ni

Gareth Jôs 10

7 Ateb llinell ar y pryd – Dan haul haf ni fwytaf i

Dros yr Aber

Yn Iran heb rieni
Dan haul haf ni fwytaf i

Carwyn Eckley 0.5

Tir Mawr

Hwyrach mai gwres y cyri
Dan haul haf ni fwytaf i

Carys Parry 

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pabell

Dros yr Aber
Ers mis Mai 2024, mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu gwersyll o flaen adeilad Pontio i wrthwynebu buddsoddiad y Brifysgol mewn cwmnïau sydd â chysylltiadau ag Israel ac i alw ar i’r hil-laddiad ym Mhalesteina ddod i ben.

Yn faich o ffeiliau, meal deal a dedleins,
dwi’n bwrw blaen bys ar y botwm
gan regi’r dyn bach coch sy’n gwrthod
yn lân â newid i’w lifrai gwyrdd.
Tu ôl imi, mae placardiau yn hoel briwiau,
fflagiau Palesteina ar rwygo,
pegiau cam bron â gollwng gafael ar linynnau
ac o dan y to polyester ar gadair glwt,
mae un yn gwylio’r ceir sy’n dal, dal i fynd heibio.
Dwi’n llusgo fy llygaid dros resi o enwau
a wynebau llychlyd ar bosteri...
bîp bîp bîp bîp bîp bîp bîp
... maen nhw’n edrych arna i’n loetran rhwng y llain a’r lôn.
Dwi’n croesi’r ffordd.

Marged Tudur 9.5

Tir Mawr

Cuchiogrwydd Mai yn crasu,
O’r Gogledd eto chwyth,
Y bychan sydd yn swatio
Fel pathaw yn ei nyth,

Ar sgotal ôl y llywiwr
A’r tilar yn ei law
Sy’n craffu trwy y seithlliw
I’r rhith yr ochor draw,

Côt oil yn orchudd trosto,
A pholyn (darn o rwyf),
Mae’n mwytho’r hen dun ‘sbydu
A ddeil wasgaroedd clwyf,
Gan feddwl yno o don i don
“Am hyn dwi’n swnian pob dydd bron”?

A’r coesau bach cyffiedig
Yn betrys ac yn wan,
A araf edy sicrwydd
Y sgotal blaen i’r lan.

Huw Erith 9

9 Englyn: Gary Lineker

Dros yr Aber

Mi wyddai bris y meiddio â pheiriant
corfforaeth yn pwyso;
gwyddai y gallai guddio,
ond dweud y sgôr fu’i dasg o.

Carwyn Eckley 10

Tir Mawr

Ar gaeau claear-gywir – nid y byd
ond y bêl ’ddilynir;
y gôl ydi y gwelir
nad y gêm yw dweud y gwir.

Myrddin ap Dafydd 10