Main content

Cerddi Rownd 2 2025

1 Pennill bachog: Awgrym ar gyfer swydd newydd

Y Glêr
Beth am roi gwyliau, neu beth am roi tâl?
Beth am roi lwfans pan fyddan nhw’n sâl?
Beth am roi bonws am bob napi llawn
dyrchafiad am swper arbennig iawn?
Ac os oes rhaid holi i ddeall pam
’se rhywun yn gwneud hyn heb dâl, holwn Mam.

Elen Davies yn darllen gwaith Megan Elenid Lewis 8.5

Beirdd Myrddin
Ym mhob Eisteddfod,
a’ i ddim i ama’,
mae yna angen
am blismon drama.

Lowri Lloyd 9

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â diplomyddiaeth

Y Glêr
Nid diogel dêl os daeth
trafodion trwy orfodaeth.

Hywel Griffiths 9.5

Beirdd Myrddin
Os ‘di’r droed yn rhwystro’r drws,
ai’n unsain yw’r consensws?

Aled Evans 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Cytunodd y pwyllgor cynllunio’

Y Glêr
Cytunodd y pwyllgor cynllunio,
Cawn godi’r estyniad a’r patio,
Rwyf i’n llawenhau
Oherwydd mae’r ddau
’Di’u plastro a’u teilio a’u paentio.

Hywel Griffiths 8.5

Beirdd Myrddin

Roedd problem mewn pwll pyrcs ger Nebo
a threfnwyd site meeting i’w weld-o,
ac wrth Eve ger y ddôr,
medd y clerc, - ‘Show us more!’ -
cytunodd y pwyllgor cynllunio.

Geraint Roberts 8

4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw olygfa benodol

Y Glêr
(Wrth edrych o Langynog i gyfeiriad y gogledd-orllewin)

Caeau o boptu Cywyn – o waelod
Preseli sy’n estyn,
A choed cilfachau wedyn
Am y tir yn gwlwm tyn.

Cwlwm tyn, a thirwedd feddal – yn dod
Fel un don i’m cynnal,
Yn troi pob parc petryal
Fin nos yn rhwyd i fy nal.

Fy nal pan fo’r ofn yn dyfnhau – a phan
Gollaf ffydd mewn geiriau,
Caf i hafan man lle mae
Cywyn yn pwytho’r caeau.

Hywel Griffiths 9.5

Beirdd Myrddin
Gofodwyr ar daith

Anwyliaid mwyn fy nheulu a welais
yn olaf cyn saethu
fel gwiber i’r dwyster du
a’n tanau yn tywynnu.

Tywynnu fflamau tyner a welem
o’r heuliau a’u gwychder;
gwyliem fellt draw’n y pellter
a chanfod syndod y sêr:

sêr hud enbyd o danbaid yn addurn
o ryfeddod llathraid:
er hyn, dychwelyd oedd raid
eto’n ôl at anwyliaid.

John Gwilym Jones 9.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Gwyn eu byd y rhai sy’n gwrthod’

Y Glêr
Y mae rhai sy’n medru fforddio
Torri amod, er pob addo;
Gwae pob un sy’n derbyn cardod,
Gwyn eu byd y rhai sy’n gwrthod.

Elen Davies yn darllen gwaith Eurig Salisbury 9

Beirdd Myrddin
Gwyn eu byd y rhai sy’n gwrthod
mynd i rigol arfer parod,
creu trefn newydd sydd yn anos –
gwyn fyd Dafydd Elis-Tomos.

Geraint Roberts 8.5

6 Cân ysgafn: Bod yn Cŵl

Y Glêr

Does dim trydargerdd bellach, ’dyw’r Talwrn ddim mewn vogue.
’Sdim lle i feirdd fel fi, sy’n canu fel y gog.

Dwi’n un sy’n chwilio beunydd am blatfform newydd, ffri,
i gysylltu hefo’r i’enctid, y zeitgeist a Gen Z.

A chyn yr ornest heno, ro’n i’n darlledu’n fyw’n
esbonio be ’di’r Talwrn, i fy fanbase enfawr, triw.

Daeth Ceri drwy’r drws a chael andros o hen sioc,
achos ’mod i’n dawnsio, yn creu TikTok.

Roedd ei wyneb yn welw … yn fwy gwelw na hyn …
trodd yn goch, yn gochach, yna’n binc, yna’n wyn.

“Tyrd yma!” gwaeddais. Eboniais TikTok wrth y Meuryn.
Ni ddalltodd o ddim byd, ddim hyd yn oed wedyn.

Fe syllodd yn farwaidd, ychydig yn brudd,
ar ddawns feiral i gyfeiliant ‘Merch o Gaerdydd’.

Ond dyna ni, rhaid dylanwadu.
Yfory, heddiw, does dim mo’i wadu.

Mae pawb yn canu eu cân erbyn hyn, a be nesa’?
Meim-ddawnsio englynion fydd ffasiwn talyrna.

Cyn hir, i Ceri, fydd dim nad yw cystal
â cherddi TikTok, a’r Talwrn yn feiral.

Osian Rhys Jones 9

Beirdd Myrddin

Dwi isio bod yn brydydd er mwyn cael gwisgo het,
rhoi pensil ger fy arlais a smocio sigarét.

Rhoi T o flaen fy enw, fel gwnaeth y boi Parc Nest,
Gwynn Jones ac Arfon Williams, John Penri and ddy rest*.

Fe weithiodd i Wm Morys, i Udur Dylan ‘fyd,
nawr mae’r ddou yn gwerthu’u gwaith am ffiffdi miliyn cwid.

Er mwyn cael bod yn brydydd mae’n rhaid cael sbectol ddu,
cael wig ‘run fath ag Eurig a barf fel Hywel G.

Gwaredu’r haearn smwddio a phob dilledyn posh
gan lenwi’r wardrob wedyn â dillad fel rhai Osh.

Mae’n rhaid wrth ach lenyddol, ac euthum yn reit swil
â dogfen fabwysiadu at drothwy drws John Gwil.

“Arwyddo wnaf yn llawen,” medd hwnnw â’i holl nerth,
“mae’n braf cael un o’r teulu sy’n reito stwff o werth.”

Fe fyddaf ar y Talwrn, bod ar y ÃÛÑ¿´«Ã½
a dweud wrth bawb wi’n nabod, bod Ceri’n nabod fi.

Darllena’ i ‘nhasg drwy FfeifJi, fel gwna’r genhedlaeth iau,
ac nid fel Waldo’n chwilio am signal mewn dau gae.

Dwi isio bod yn brydydd, y cwlaf un erioed,
mor cŵl fel nad wyf innau’n barddoni hyd yn oed.
* T.Llew Jones, T.Rowland Hughes, T.Eurig Davies, T.Glynne Davies,
T.H.Parry Williams et al.

Aled Evans 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Mae’n haul yn Hermon o hyd

Y Glêr

Mae gwen a hufen hefyd
Mae’n haul yn Hermon o hyd

Hywel Griffiths 0.5

Beirdd Myrddin

Mae’n haul yn Hermon o hyd
A’i haf sydd yma hefyd

Aled Evans 

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dweud

Y Glêr

Un tro, wrth ddweud y weddi
Ddiwedd pnawn,
A Blwyddyn 6 yn plethu
Dwylo’n iawn

A phlygu pen, cydadrodd,
Dyma un
Yn dweud fod llygaid arall
Ar ddi-hun.

‘Tinddu!’ wrth yr wylan
Ebe’r frân,
A chochodd bochau’r bychan
Fel y tân.

Fe waedda arweinwyr gwledydd
Yr un cam,
Ond nid yw’r rheini i’w gweld yn
Becso’r dam.

Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Eurig Salisbury 9

Beirdd Myrddin
a gwneud yn ddweud

Os daw yr Iesu heddiw
i’r ‘sbyty heb ei wadd
tra’r byd i gyd ar bedwar
yn llarpio ac yn lladd.

Bydd maddau yn ei fysedd
tosturi yn y gwneud,
mae’i neges yn y cerdded
yn fwy nag yn y dweud.

Lowri Lloyd yn darllen gwaith John Gwilym Jones 9.5

9 Englyn: Hysbyseb

Y Glêr

Dros fuddiannau dadleuwn – dy rai di,
Rhad iawn yw’n comisiwn,
Fel baw, ac fe lobïwn.
Brysia! I gyd am bris gŵn.

Elen Davies yn darllen gwaith Eurig Salisbury 10

Beirdd Myrddin
recriwtio i’r fyddin

Heddiw’n awr, i’n byddin ni, – dewch â gwên,
dewch i gael cwmpeini,
dewch yn ddewr, dewch yn gewri,
a dod â’ch arch gyda chi.

John Gwilym Jones 10