Main content

Cerddi Rownd 2 2025

1 Pennill bachog: Y Fformiwla ar gyfer...

Manion o’r Mynydd
... Aelwyd ddedwydd heddiw
Y tad sydd wrthi'n pori'r papura'
a'r fam ar y wé rywle'n Awstralia;
Twîtiai un mab ei fêt yn Namibia
a’r brawd wnai ryw draethawd am Wlad yr Ia.
Yn edrych fel pawb adra 'marwydos
y tân beunos, ond eto neb yna.

Tudur Puw 8.5

Caernarfon (EG)
Y fformiwla ar gyfer gwên
Yw troi ymysg plant dynion;
Y fformiwla ar gyfer gwg
Yw'r un un peth yn union.

Emlyn Gomer 9

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘hallt’

Manion o’r Mynydd

Daw ieuanc anystywallt
Ato’i hun trwy brofiad hallt.

Nia Powell 9

Caernarfon (IP)

Naw Ceri fel deg Gerallt -
y cnaf sydd yn marcio’n hallt!

Ifan Prys 8.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae ymchwil diweddar yn profi’

Manion o’r Mynydd
Mae ymchwil diweddar yn profi
Na all dafad Gymreig ar glogwyni
ddim magu dau oen
ar dirwedd di groen;
Ysywaeth, ’toes neb wedi dweud ’thi

Tudur Puw 8.5

Caernarfon (EG)

Mae ymchwil diweddar yn profi,
Os rhowch chi gitâr i anchófi,
Mi fydd, ymhen oria,
'Di dysgu'r holl gordia
I bob un gân sgwennodd Bon Jófi.

Emlyn Gomer 8

4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw gymeriad chwedlonol

Manion o’r Mynydd

I Siwpyr-Ted a’i lais, Geraint Jarman – dau ‘lej’, un llais.

Arwr bach yn concro byd - ar ei wib,
Rhoi ar sgrin ein bywyd
Rhyw asbri coch a’r ysbryd,
O lwyddo’n Gymro i gyd.

Llais Cymro’n gwibio ar goedd - llais rhyfyg,
Llais i’r ifanc ydoedd,
Llais o her i’r amseroedd
A’i lais, ein dyfodol oedd.

Troes llais diniwed tedi - i agor,
Trwy’i reggae a’i gerddi,
Gig o daith i’n heniaith ni,
Rhoi bloedd o barabl iddi.

Nia Powell 9.5

Caernarfon (IP)

Tylluan Cwm Cowlyd

Unwaith, hon, yn ei nyth hi a welai
hyd Gwm Cowlyd dderi;
coed ar ôl coed yn codi
a chroch rhwng dail oedd ei chri.

A chri hon a ddychrynai hunllefau’r
holl lifwyr a fentrai,
neu fwyellwyr efallai,
i’w deri hen; deuai rhai.

A’r rhain, mor ddieithr eu hiaith, aeth foncyff
wrth foncyff â’u hanrhaith,
nes troi gwÅ·dd y moelydd maith
yn chwyn, lle ceid sgrech unwaith.

Ifan Prys 9.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Mae hi’n haf, mae’n braf ymhobman’

Manion o’r Mynydd

Mae hi’n haf, mae’n braf ymhobman,
Yn y fframiau uwch y pentan.
Gaeaf ddaeth i’r aelwyd ddiddos
Cysur oer yw’r gwres marwydos.

Alwyn Evans 8.5

Caernarfon (EG)

Mae hi'n haf, mae'n braf ymhobman;
Ond mae Abergeirw'n griddfan
Gan ryw ias, er gwaetha'r hindda,
Wedi ymadawiad Nesta.

Emlyn Gomer 9

6 Cân ysgafn: Y Grŵp WhatsApp

Manion o’r Mynydd

(Yn seiliedig ar chwedl fodern leol a theyrnged i weithgarwch WhatsApp cefn gwlad)

Hen sgolar o Rydychen a ddaeth un p’nawn reit dêg,
I festri fach Llanrechwyn a chwestiwn ddaeth o’i geg.
Y Pwyllgor gadarnhaodd hen goel o fryniau’r fro,
Bod Cymry’n cynganeddu wrth rechu ambell dro.

Hanfodol oedd i’r sgolar gael tystiolaethu’r ffaith,
A dyna pam y paciodd recordiwr cyn ei daith.
Ond buan sylweddolodd bod hwnnw braidd yn crap,
‘Paid poeni’, meddai’r Pwyllgor– ‘fe wnawn ni grŵp Whatsapp’.

Ar hynny taniodd menter fel chwyldro o’r lle chwech,
A glosiodd galon pentref drwy rannu ambell rech.
Bu cryn din-droi hirwyntog ond wedyn daeth rhyddhad,
Goferodd ffrwd y Whatsapp â gweithiau mawr y wlad,

Cyrch a chwta ddaeth yn gyntaf gan Elwyn Rych y Gwynt
A rhupunt byr ddaeth wedyn a’i drawiad tipyn cynt.
Trwm ac ysgafn gan Dei Plismon er gormodd oglau braidd.
Ta waeth am broest llosgyrnog ar Leusa Hafod Haidd.

Ac wedi storm glogyrnach fe aeth pob caeth yn rhydd,
A’r sgolor bach ga’dd ddamwain mewn toddaid derfyn dydd,
Fe ddaeth i ben ei yrfa drwy ollwng campwaith mawr,
A phentref balch Llanrechwyn sy’n dal i llnau y llawr.

Cynon Tomos 8.5

Caernarfon (GL)
Y Grŵp Watts-Ap

Nôl yn y saithdegau tra o’n i yn byw fan hyn,
ymhell mewn gwlad wahanol magwyd Ifor, yr Ap Glyn.
Cocni bach o Gymro ydoedd Ifor yn y bôn,
a Llundain oedd ei gartref (er bod teulu yn Sir Fôn).

Mynychai “Pinner Prim’ry School for Boys, Girls and Transgenders”
yng nghwmni ei ffrind penna – Curly Watts odd’ar Eastenders.
Roedd y ddau yn ffans cerddoriaeth garej, pync, hip-hop a rap,
a phenderfynu ffurfio grŵp wnaeth Watts ac Ifor Ap.

Roedd Cymraeg yn iaith egsotig iawn i hogie Pinner School,
felly penderfynwyd galw’r grŵp yn Grŵp Watts-Ap – yeah, cool.
Efo hits fel Cerddi Albert Square roedd Grŵp Watts-Ap yn fawr,
cawsant slot ar Old Grey Whistle Test, The Tube a Miri Mawr.

Ond does dim Watts-Ap bellach, yn drist iawn bu farw Curly,
ac wrth iddo gyfarch Pedr Sant wrth borth y Giatiau Pearly
dywedodd “Ro’n i’n aelod o Grŵp Watsap cynta’r byd,”
a chafodd groeso mawr ’n y nef gan Dduw a’r saint i gyd.

Ac am Ifor Ap, ein prifardd, wel, beth bynnag arall neith o,
fel ffurfio’r Treiglad Pherffaith, a canu efo Llwybr Lleitho’,
y Grŵp Watts-Ap yn Pinner fydd ei bennaf ‘claim tw ffaim’,
chos fel dwedodd ei gydwladwr Shakespeare: “Wott is in a naim?”

Geraint Lovgreen 9

7 Ateb llinell ar y pryd – ‘Hon yw tre’r castell a’r traeth’

Manion o’r Mynydd

Ansefydlog boblogaidd
Hon yw tre’r castell a’r traeth

Alwyn Evans

Caernarfon

Hon yw tre’r castell a’r traeth
A neuaddau’n llenyddiaeth

Ifan Prys 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Du a gwyn

Manion o’r Mynydd

Gyda’r dydd
yn newid i’w byjamas,
a hwyl heddiw
yn nofio ym mybls y bath,
Safodd
dan bwysau penderfynu,
Ei llygaid yn neidio o silff i silff
a’i bysedd bychain yn pori’r cloriau,
cyn nythu yng nghesail y soffa
gan ddisgwyl am fy mherfformiad.

‘Un tro...’, meddwn i,
a’i dwylo’n mwytho’r dalennau,
Sain pob sillaf
yn llwybr aur iddi
a’r iaith yn enfys ar fap ei meddwl.

Tudalen wen
A llythrennau du
Yn lliwio’i dychymyg.

Gwilym Rhys Jones 9.5

Caernarfon (IapG)

Mae’r brigau inc yn sgwennu’n araf
ar gymylau’r lloer,
er gwaethaf curiad brys fy nhraed…

Mae’r peunod yn y coed yn gwawchio’u rhybudd
rhag ymdroi - mae’r dref yn bell o hyd,
a rhyw sluman simsan yn osgoi’r
corneli yn y gwyll nas gwelaf i.

Mae gwrychoedd nos ’di gwasgu’r lôn yn gul…
bysedd drain yn ymbil am fy llaw…
seren wib o gar, drwy bellter o berthi…
a dyma dÅ· nes, a’i lyn o oleuni…

ond rhaid bwrw ‘mlaen i ben y daith ddudew,
lle ga’i fendith gwely cymar
er gwaetha ’nwylo rhew,
am imi oedi cymaint, yn wyn fy ngwep,
wrth bwnio ’ngherdd i olau’r ffôn,
yn ddall dros dro gan eiriau…
cyn cychwyn,
ac ail-betruso, yn nh’w’llwch y lôn…

Ifor ap Glyn 9.5

9 Englyn: Smyglwr neu Smglwyr

Manion o’r Mynydd
Smyglwyr (ar ôl gweld y gyfres ‘Adolescence’)

Dan bridd ein cartrefi diddos, - on-line
tyf 'dylanwad’ agos,
ei wreiddiau’n dyfnhau bob nos
a heintio gwawr ein plantos.

Tudur Puw 8.5

Caernarfon (IP)

Hwn oedd ddoe’n rhoi’i addewid am y daith,
am dÅ·, am ddim gofid;
hwn heddiw aiff â’i rhyddid
a’i “gwaith” sy’n gelwydd i gyd.

Ifan Prys 9