Cerddi Chwarteri 2025
1 Pennill bachog: Arwydd o Henaint
Tir Iarll
Wrth sprayo ’nghlun ddolurus
rhag stiffrwydd, cofiais i
am barti pen-blwydd deugain
Y Prifardd W.D.
Tudur Dylan Jones 8.5
Y Glêr
Na, fedra’i ddim nos fory,
Na heno, o ran hynny.
Yn bendant ddim nos Sadwrn –
Rwy’n gwrando ar y Talwrn!
Megan Elenid Davies 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw gyfansoddwr/aig
Tir Iarll
Un gair Bach all ail-greu’r byd
Yw ‘diolch’ i’r rhai diwyd.
Aneirin Karadog 8.5
Y Glêr
Waldo, ti yw’n Vivaldi.
Gwibdaith Hen Frân ydan ni.
Eurig Salisbury 9
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Parhau er hynny mae’r pererinion’
Tir Iarll
Bron colli ffydd
Yn dilyn protest y sosbenni gweigion Tel Aviv, 25.1.25 (diwrnod cofio’r Holocaust) a led-led Cymru, 24.5.25
All llaswyr gweddi na lleisiau’r gweddwon,
na chri’r un bader ddal eu pryderon,
a deall ni all eu holl benillion
nac esbonio gwg sosbenni gweigion;
â’u baner ofer a’u hofon, – fory
parhau er hynny wna’r pererinion.
Mererid Hopwood 9.5
Y Glêr
Os pery tlysni’r eglwysi gleision
Ac uchaf a theg a chyfoethogion
I ddenu’r miloedd, yn nhrai’r ymylon
Parhau, er hynny, mae’r pererinion
I fynnu tynnu at hon – allor gul
Y gell a’i hymyl ar greigiau llymion.
Eurig Salisbury 9.5
5 Englyn ysgafn yn seiliedig ar unrhyw ddigwyddiad diweddar
Tir Iarll
I Elon a’i ymdrechion i gyrraedd Mawrth
Mae hi’n dric mynd â roced draw o’r byd,
Ond er bod hi’n galed,
Ar dy union, Elon, hed
Nôl heno i’th fam blaned.
Emyr Davies 9.5
Y Glêr
I geiniog Beechingllyd gynnil - mae’r rêls
yn Gymreig; o Bourneville
i Essex, draw i Bexhill,
dyma’r aur. Does dim i Rhyl.
Hywel Griffiths yn darllen gwaith Osian Rhys Jones 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Llais
Tir Iarll
Mae’r gwanwyn wedi tiwnio
I’r gystadleuaeth eto
I weld pa un o leisiau’r wig
Fydd ar y brig wrth wawrio.
Er cof am nain mae’r titw
Yn canu (mae ‘di marw);
Aeth hithau’n fflat ynghanol cân
Dan olwyn fla’n Daihatsu.
Y dryw yw’r ffefryn druan -
Mae’n gloff, mae’n methu hedfan;
Yn wir, mae’n methu canu chwaith
(ond ‘dechrau taith’ yw’r llwyfan).
Cyhuddwyd y fwyalchen
O ladrad gan y bioden:
‘Fe aeth â’m cân a phob un sill…
Y floozy hyll bigfelen.’
Enillodd brân ddienaid,
Er loes i’r holl eosiaid,
A nawr mae’r stori’n drwch drwy’r drain
Mai brain yw’r panel beirniaid.
Emyr Davies 9
Y Glêr
Pe bai gan Ceri gadair goch
Yn lle’r ddwy bren sy ganddo,
Fe ganwn innau iddo’n groch
Nes byddai’n troi a chlapio.
I’w blesio’n llwyr fe ganwn gân
Ar dôn gan Einir Dafydd,
Ar ôl gwneud newidiadau mân,
Sef sgwennu geiriau newydd.
Ac yn y gytgan, fe gawn i
Y llenni i agor hwythau
I ddangos côr gwych Ar Ôl Tri
Yn canu ar eu gorau.
I’w gael i’m dewis wedyn ni
Wenieithiwn i’n anghynnes,
Ei nawdd fai’n waddol hael i mi,
Pe rhoddai imi loches.
A phe’m cyhuddid i fel bardd
O fod â mantais wirion,
Se dim a wnawn cweit mor ddi-wardd
 sgwennu awdl am goron.
Eurig Salisbury 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn LA peryg yw’r lôn
Tir Iarll
A milwyr i’w hymylon
Yn LA peryg yw’r lôn
Aneirin Karadog 0.5
Y Glêr
Yn LA peryg yw’r lôn
Creu o olud fyd creulon
Eirug Salisbury 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Sedd
Tir Iarll
Sedd Lleucu
(merch Mari ac Emyr, wardeiniaid Ynys Enlli, a dderbyniodd lyfr lliwio awyrennau ymladd pan ddaeth milwyr yr RAF i gasglu debriseu hofrenyddion rhyfel o’r ynys.)
Ar garreg ddiogel,
yn ddigon pell o ymyl y dibyn,
cymer un o Glustogau Mair a nytha’n esmwyth ynddi;
yna, estyn dy lyfryn, yr un gan y gŵr mewn lifrau,
a chyda hud a lledrith dy bensiliau lliw
tro’r fighter jets yn adar mân,
tro lafnau’r chopper yn erwydd cân,
tro’r fuelling tank yn llond aelwyd o dân,
a rhwng y peiriannau du
llenwa bob bwlch gwyn â blodeugedau
o wymon a meillion a phlu,
a gad i’r geiriau
aros fel ag y maent,
yn eiriau estron:
geiriau nad ydynt o dir a daear yr ynys hon.
Mererid Hopwood 10
Y Glêr
Yn ei chawdel y mae ei rhinwedd,
ym mriwsion mân y bisgedi llaith
sy’n llwydo rhwng ei lledr;
yn y macynon tamp
ac yng nghylchoedd hen baneidiau
sy’n gadael hoel,
yn brawf ei bod yn gwrando.
Nid oes arni le am glustog
na charthen chwaith
oherwydd nid er esmwythyd un
y crëwyd hon.
Nid lle i hamddena mohoni,
nac i ddiosg esgidiau gwaith
pan fo hon yn dal
holl fynd a dod y stryd
ac yn sedd i bob un ohonynt.
Megan Elenid Davies 9.5
9 Englyn: Ystafell Newid
Tir Iarll
(Ymson Robert Prevost wrth baratoi i ddod yn Bab)
Yn ddynol feidrol, fe af – a dyfod
i’r ystafell leiaf,
ac yn awr Dy wisgo wnaf
yn rhwym-dyner amdanaf.
Tudur Dylan Jones 9.5
Y Glêr
I mi, mae’r loceri cau – y dolur
Ar dawelwch meinciau
A’r dyrnu cyn cyrchu’r cae
Yn haws na’r holl sgarmesau.
Hywel Griffiths 9.5