Main content

Cerddi Rownd Cyn Derfynol 2025

1 Pennill Bachog: Yr Ateb i’r Broblem neu Yr Ateb i’n Problemau

Dros yr Aber
Yr ateb i’r broblem
Y rhyfeloedd rhy filain/ yn Iran, Gaza, Wcráin
yw hunllef fy Mehefin/ a’u sgrech sy’n ormod i’m sgrin.
Ac felly gwell ambell waith/ yw diffodd eu byd diffaith
yn ’tÅ· ni trwy’u miwtio nhw,/tawelu’r holl blant ulw.

Rhys Iorwerth 9

Y Cŵps
Mae’n broblem, un bur wobli, – y swigen
Fawr oren sy’n gori
Ar y byd. Iôr, heb oedi,
Brysied dydd ei byrstio hi.

Huw Meirion Edwards 9

2 Cwpled caeth decsill yn cynnwys gair neu ymadrodd o unrhyw iaith Ewropeaidd

Dros yr Aber

Bydd rhywun bob tro’n fwy bodlon â’r byd
os yw c’est la vie yn sail i’w fywyd.

Marged Tudur 9

Y Cŵps

Mae’r Glitterati’n mynd mas i gino,
Ond Literati’n neud lot o reito.

Huw Meirion Edwards 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Cytunwyd mai gwell oedd gohirio’ neu ‘Cytunwyd mai gwell yw gohirio’ neu ‘Cytunwyd mai gwell fydd gohirio’

Dros yr Aber
Cytunwyd mai gwell oedd gohirio
am ennyd yr unawd piano
ar ôl i’r to ddisgyn
am ben yr hen Siencin,
gan sbwylio darn Chopin, a’i fflatnio.

Rhys Iorwerth 8.5

Y Cŵps
Gan nad oedd y rash wedi clirio
A chan fod ei gefn yn dolurio,
A chan ei bod hitha
Yn teimlo'n reit beth'ma,
Cytunwyd mai gwell oedd gohirio.

Geraint Williams 8

4 Cywydd gofyn (rhwng 12 a 18 llinell) unrhyw wrthrych domestig

Dros yr Aber
I ofyn dril

Ar fy hyrddiau gorfarddol
(dwîb y bûm!) cefais lond bol.
Mae’n adeg ailfynegi,
adfywhau pwy ydwyf i.
Yn daer iawn, rwyf eisiau dril.
Un gwir beryg, a’r baril
o fan dwfn o’i fewn yn dod
ac yn hwn bigyn hynod.
Ffarwél lanc dof! Rwy’n gofyn
am DeWalt (ffrind mwya’ dyn)
a’r farwol rof i furiau.
Bydd hi’n amén ar bren brau
ac â winc, rhannaf ar goedd
fy selffis efo silffoedd.
Efo rheg fe fawrygaf
ei ruthr a’i nerth. A throi wnaf –
yr un a fu’n llipryn-fardd –
yn ŵr eilfyw, yn ddrilfardd.

Rhys Iorwerth 10

Y Cŵps
I ofyn peiriant golchi

Annwyl leidr, sâl ydwyf,
Ac fel hen wig, aflan wyf,
Ers y dydd y cymraist ti,
Y gwalch, fy mheiriant golchi.

Dywed, o’m stydi dywyll,
Sut na chlywais adlais hyll
Y fath ddatblymio a fu,
Ceudod ei ddisocedu?
Bu yma fel behemoth,
Mi aeth mor dawel â moth.

Am fy Mosch mae f’emosiwn
Yn pruddhau, un piwr oedd hwn –
Swyn ei gân a’i hosan gudd
A’i sebonwyllt ddawns beunydd.

Gan hynny, was, ga’i o’n ôl?
A’r hosan? Os doi’n rasol,
Cei ’niolch a chei olchi
Drewdod dy gydwybod di..

Huw Meirion Edwards 10

5 Pennill mawl neu ddychan, ar fesur y Clerihew, i unrhyw Sais neu Saesnes enwog

Dros yr Aber
Y Fonesig Mary Berry
sy’n debyg i Ceri:
mae’n talu ei rhent
trwy feirniadu mewn tent.

Iwan Rhys 9.5

Y Cŵps

Boris Alexander de Pfeffel Johnson,
Rex Maximus y Saeson,
Ymlafniodd yn nobl
I genhedlu ei bobl.

Geraint Williams 9

6 Cân ysgafn: Trwsio neu Riparo

Dros yr Aber

Mae’r printer wedi torri. Rwy’n eitha’ siŵr o hyn.
Mae’n gwrthod printio lliwiau. A llwyd. A du a gwyn.
Rwy’n ceisio printio dogfen ers wythnos i ddydd Llun.
Mae’n dweud fy mod i’n ciwio, a ’mod mewn ciw o un.
Fe fwydais bapur iddo i weld ai dyna oedd
ond poerodd hwnnw allan cyn rhoddi gwich a bloedd.
Cynigais toner wedyn, ond na, ni wnaeth y tric.
Ei ddiffodd a’i danio eto. Ond doedd dim byd ond.... clic.
Fe es i ar y wefan a’r cwmni oedd yn dweud,
i’r printer gael ei drwsio hyn fyddai’n rhaid ei wneud:
Rhoi’r printer mewn bocs cardbord, a’i amgylchynu’n dynn
â’r pethau sbwnj pecynnu sydd jyst fel Wotsits gwyn.
Lawrlwytho taflen felen ‘report-a-fault.docs’,
ei llenwi, ei hargraffu, a’i sticio ar y bocs.
Fe wnes i hyn yn gywir hyd yr olaf gam ond un
– y printio – a nawr rwy’n ciwio y tu ôl i mi fy hun.
Gofynnais i’r dyn drws nesa a gawn ar ei brinter e
brintio’r daflen felen i’w sticio yn ei lle.
Ond printer dyn drws nesa sy’n cael trafferthion inc –
mae’n gwrthod printio’n felyn ac ond yn printio’n binc.

Iwan Rhys 9.5

Y Cŵps

Lleufer dyn yw llyfr da nes bod y bylb yn chwythu
Ac wedyn rhaid cael cannwyll fawr i ffendio’n ffordd i ngwely.
A thra bo’r gannwyll yn ei gwres darllenais chydig rhagor ...
Nes sylwi, rhwng dwy bennod dda, bod crac bach yn ymagor
Yn y nenfwd uwch fy mhen a dropyn ar fin dripio.
Tybed beth achosodd hyn? ... Cyn ymgolli eto ...
Er bod na wres ’ny fflam fach goch dwi’n teimlo nhraed yn oeri,
Ella’u bod nhw bach yn damp ... cyn hir fydd rhaid mi godi ...
Trwy gil fy llygaid sylwais i ar ffurf yn nofio heibio:
Un hwyaden felen fawr ac un llai yn bobio.
Nawr mae rhywbeth mawr ar droed ... fydd rhaid ’mi ddechrau meddwl ...
Un bennod arall? Neu sa’n well mi estyn am y morthwl?
Tybed oes na ‘earth’ ym mhlwg y sinc lan grisia’?
Neu tybed wir ai’r tÅ· bach sy wedi ei ddifetha?
A nes i adael nofel sâl yn yr u-bend wythnos diwetha?
Sa’n help sa hi’n block buster sbo ... os bydd eiliad rhwng penoda’ ...
Mae’r gannwyll ddewr yn dal ei thir, rwy’n gweld yn well i ddarllen,
Neu ai seren wela i rhwng distiau praff a llechen?
A diawl mae’n dechrau bwrw glaw, ond mae’r llyfr ma yn un handi,
Agorai’r Beibl DIY yn do bach uwch fy mhen i.

Rocet Arwel Jones 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Chwiorydd sy’n cydchwarae, chwiorydd am gydchwarae, chwiorydd fu’n cydchwarae

Dros yr Aber

Yma am oes yng Nhymru mae
chwiorydd am gydchwarae

Rhys Iorwerth

Y Cŵps

Chwiorydd fu’n cydchwarae
A gwn y daw genod iau

Dafydd John Pritchard 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Picnic

Dros yr Aber

Cyn i mi ddechrau byw ar fy ewinedd,
aem ar bererindod ar hyd ben ’rallt
i enwi’r blodau gwyllt yn sawdl y cloddiau
a hawlio’n lle uwch y clogwyn.
Deuai’r haf i eistedd atom
ac â llygaid dim smic, gwyliem Mam
yn gosod pacedi crisps a chartons
rhwng ein pengliniau priddlyd.
Yna, eiliadau hir y dadlapio ffoil.
Ninnau â’n careiau heb eu cau,
yn sychu trwyn â chefn llawes,
yn llowcio’n flêr a’r briwsion
yn tasgu’n ddi-feind ar serfiéts ein siorts.
Rybuddiodd yr haul ddim y deuai’r pnawn i ben
fel sŵn ein sugno sych drwy’r gwelltyn.

Marged Tudur 9.5

Y Cŵps

nid carthen, wrth gwrs, ond
rhyw ddarn o beth sy’n ddigon
mawr a sgwâr i wneud y

tro i’w harbed rhag y
mwd. ac arno? cig? na,
ar ddiwrnod da, rhyw ddyrnaid

bach o friwsion, falla.
couscous? go brin, bellach;
a gellyg – y rhai pigog hynny sy’n

edrych fel dagrau bach o ryw
uchder mawr. a rhai bwledi, blasus,
gwyrdd oddi ar ganghennau balch

y llwyni olewydd. ac os yw hi’n
ddiwrnod ‘tawel’ daw’r
adar barus at y sgwaryn bach a’i

gyfoeth o fwyd; fel yr adar newydd
hynny sy’n gweld o bell, ond nad
ydynt byth, byth yn canu.

Dafydd John Pritchard 10

9 Englyn i unrhyw stryd benodol

Dros yr Aber
Stryd O’Connell, Dulyn

Dwi’n clywed y bwledi’n sigo’r Pasg,
a’r Post a’i bileri
fan yma’n gofyn imi:
ble mae tyllau’n waliau ni?

Iwan Rhys yn darllen englyn Carwyn Eckley 10

Y Cŵps
Stryd Fawr Treorci

Yn llawnder ei baneri, – mae ’na gwm,
Mae ’na gof yn gloywi,
A dreigiau’n daer i hogi
Wilia hÅ·n na’i waliau hi.

Huw Meirion Edwards 9.5