Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Rheol Newydd
Caernarfon
Bydd holi pellach
Am y Fedal Ddrama
Yn prynu tocyn
Unffordd i Siberia.
Emlyn Gomer 8.5
Llewod Cochion
Ar rymoedd y farchnad
Bu rhai’n rhoi eu ffydd;
Maent heddiw’n rhoi tariffs
Ar eu marchnad rydd.
Arwyn Groe 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw emyn-dôn adnabyddus
Caernarfon
Ydio’n normal bod Alwyn
yn byw yn ei wheelie bin?
Ifan Prys 8.5
Llewod Cochion
Mae Grug ’ny bar ym Mharis
‘da Sarah’i chriw a ryw Rhys.
Alun Cefnau 8
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Po fwyaf o arian y gorau’
Caernarfon
Mae’r Meuryn yn mynd ar fy nerfau;
’Lly byddwch yn hael â’ch ceiniogau,
I’w gludo ymhell
I Dalwrn sydd well:
Po fwyaf o arian y gorau.
Emlyn Gomer 8.5
Llewod Cochion
Po pwyaf o arian y gorau
Medd Elon wrth gyrraedd y gatiau.
Ebe’r Arglwydd yn flin:
“Gwranda’r tecboi dan din,
Mae'r nefoedd ar gau 'rôl toriadau!"
Huw Jones 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Rali
Caernarfon
Ha’ dwytha, gorymdeithio,
gwnes safiad ha’ dwytha, do;
gweiddi’n groch, yn goch a gwyn,
cenhadu, cael cân wedyn,
ond ar ôl bod i’r rali
yn ddi-sŵn adre ddes i.
Fis Ebrill mae’n fis sobri
a gweld nerth yn ein gwlad ni.
Fe awn, o dan un faner,
yn rheng i wynebu’r her;
mae’n rhaid! Mae fy maner i
yn barod am y Barri!
Ifan Prys 9
Llewod Cochion
Mynnu creu mae’r monocrom,
Hanes yn arswyd ynom;
Lens Riefenstahl yn dal dydd
I droi gwae’n ffilm dragywydd.
Hen rîl graen-llwyd o rali'r
Zepelinfeld, gweld y gwir
Yn anrhaith ei hareithiau,
Dur yn ein co', dwrn yn cau.
Awn heno'i ail- fyw’n hanes
Ni, daw Nuremberg yn nes;
Ffasgydd, cywilydd y co’,
Yn ei ôl i Sieg-heilio.
Pryderi Jones 9
5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai sy’n hoff o frolio’
Caernarfon
Mae rhai sy'n hoff o frolio
Fod bwystfil fedar iodlo
Yn byw'n y Swnt oddiar Ben LlÅ·n:
Fy hun, dwi'n deud mai lol 'dio.
Emlyn Gomer 8.5
Llewod Cochion
Mae rhai sy’n hoff o frolio,
Mae rhai sy’n hoff o gwyno;
Y rhai sy’n brin fel cig mewn cawl
yw’r sawl sy’n hoff o wrando.
Angharad Penrhyn Jones 9
6 Cân ysgafn: Datrys Problemau
Caernarfon
Mae bywyd wedi newid lot ers imi brynu gwn;
datryswr fy mhroblemau mawr a bychain ydi hwn.
Gwylanod oedd yn broblem efo’u hen sgrechfeydd a’u baw:
mi saethais un neu ddwy, a bellach maen nhw’n cadw draw.
Doedd bocs o greision brynais i yn Tesco ddim yn llawn;
es nôl ’no efo’r gwn a chael datrysiad sydyn iawn.
O’n i’n arfer cael fy nghicio gan yr hogie 5-a-side,
ond rŵan maen nhw’n gwrando arna’i pan dwi’n gweiddi ‘Paid!’
Roedd y mab yn cael ei fwlio yn yr ysgol gan Jake Smith;
es fyny i gael gair. Neith o ddim bwlio eto, byth.
Roedd XL Bully cas yn arfer llywodraethu’n stryd,
ond erbyn hyn mae’r cr’adur wedi mynd i arall fyd.
Roedd coeden yn yr ardd drws nesa’n llawn o bryfed tsetse;
es rownd am sgwrs. Fy ngh’mydog bellach sydd yn ’sbyty Betsi.
Bob Sadwrn byddai tafarn pen draw’r stryd yn cynnal rêf;
ers imi alw draw i’w gweld mae’n dawel fel y bedd.
Ac erbyn hyn mae heddwch yn teyrnasu yn y dre.
Cnoc ar y drws – edmygwyr, glei, na’i wadd nhw mewn am de.
~~~
Ga’i oes o lonydd erbyn hyn, a’r unig broblem ydi,
ches i ddim dod â ’ngwn ’fo fi i westy Ei Fawrhydi.
Geraint Lovgreen 9
Llewod Cochion
(i’w chanu ar diwn yr Adams Family)
Mewn fferm ar y Gorore dihunaf i bob bore
i fyd lle nad oes ond probleme lu yn bod .
A allaf heddiw ymdopi â’r seiatica tra‘n plygu
i roddi ’mlaen fy socs i - rhai o Marcs - sydd yn y drôr?
A hoffwn de neu goffi i helpu imi lyncu
yr afacado a’r llymru sy’n fy nghynnal i?
’Rôl ffidio’r stoc a af i am beint i lawr i’r “Welly”
Neu fynychu’r cwarfod gweddi cyn tacluso?
Beth gaf i heno‘i swper, wyf i angen golchi’n siwmper,
a oes ’na blydi wiwer yn yr atic ?
Beth ydyw ystyr bywyd? - (tydi gwraig drws nesa’n hyfryd?)
Pa bryd caf siawns ymgymryd, dwed, â’r Tasgau?
Pa emynau gaf i ’nghligeth (dowch rwyf angen gweledigaeth,)
ac hefyd, yw rhagluniaeth yn bodoli?
Os bodoli yw, neu beidio, mae’n rhaid im ddechrau hŵfro
a throi fy sylw i’r smwddio - dyna drallod!
Nid yw’n problemau lleol,
cenedlaethol, na rhyngwladol
yn ddim o’u cymharu â’r llond trol sydd gennyf i!
Ond rywsut rwyf yn côpio
A ‘mywyd gaiff ei swyno
o synfyfyrio, a breuddwydio am Mrs Thislethwaite “next door” !
Alun Cefnau 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Am wneud dim y mae ‘na dâl neu Y mae ‘na dâl am wneud dim
Caernarfon
Am wneud dim y mae ‘na dâl
Ein duwiau fydd yn dial
Ifor ap Glyn 0.5
Llewod Cochion
Nid wyf ond dyn diofal
Am wneud dim y mae ‘na dâl
Arwyn Groe 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ffoi
Caernarfon
Dyn oren aeth yn hi-vis at ei goed
a ninnau’n mynd o’r tu arall heibio,
nes i’w li gadwyn, a’i gacwn udo
amhosib o hir, fynnu ein sylw
dros nawclawdd a chamfa…
Ac yna cymerodd ei wynt,
a’i beiriant yn cecian yn dawel,
cyn unwaith eto dreiddio i’r byw
wrth gwympo’r breninbrennau…
A gwn y bydd o heno’n trechaf-dreisio ar y sgrin,
ei goesau ar led a’i geg yn dwll tin iâr
yn bys-egluro fod angen ehangu’r ffin,
A gwn innau hefyd, mai ni yw’r mes wedi’r hirlwm,
yr egin newydd pan ddaw ei betrol i ben,
a’n brigau’n alaw wedi’r storom…
Ond rhaid yn gyntaf ymgrynhoi,
yn ddi-wyrdroi,
gan dystio’n ffyrnig o ffraeth. Ni chawn ffoi…
Ifor ap Glyn 10
Llewod Cochion
Weithiau, wrth ymdrochi
ger yr hen bont garreg,
dwi am i’r Ddyfi fy nghario
yr holl ffordd i’r môr.
Dwi am arnofio, fel gronyn paill
neu frigyn neu ddeilen grin
a dilyn graen y dŵr tua’r gorllewin,
gan deithio trwy gymylau
o wybed Mai,
a gobeithio am fflach
Glas-y-Dorlan uwch fy mhen.
Bydd rhaid osgoi y troli
sy’n gawell yn y llaid
ac ildio’n llwyr i’r lli
wrth i’r afon droi’n aber
a’r aber droi’n fôr,
y gorwel o fy mlaen,
fel rhith.
Angharad Penrhyn Jones 10
*Gwybed Mai: Ephemera Danica, byw am ddiwrnod yn unig ar ôl gadael y dŵr
9 Englyn: Coleg
Caernarfon
Heb ddigrî i’w boeni beunydd, na gŵn,
’mond ei got pob tywydd;
di-glem fel academydd,
ond dysgu, dysgu bob dydd.
Ifan Prys 9.5
Llewod Cochion
Cyw, dy dynged fu hedfan – o’n hen nyth,
dy un nod oedd hofran
yn uwch. Ond heno, ’mechan,
tywyll yw’r gwyll heb dy gân.
Angharad Penrhyn Jones 9.5