Cerddi Talwrn Tafwyl
1 Pennill bachog (rhwng 4 ac 8 llinell): Y Broblem a Sut i’w Datrys
Tîm Eckley
Os bydd gennyt lond y tÅ·
O stwff sydd yn dy boeni,
Wel agor dwll yr atig fry
A chuddio'r oll tan fory.
Elen Ifan 8.5
Tîm Evans
Mae pla y bade bychain/ yn broblem, peidiwch sôn,
gan lenwi dŵr y Fenai/ rhwng Gwynedd a Sir Fôn.
Mae’r wlad ma’n llawn dieithriaid,/mae’n bryd ‘ni gael control
drwy hala Rhun ap Iorwerth/ a Hywel Gwynfryn nôl.
Aled Evans 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘twym’ neu ‘poeth’
Tîm Eckley
Os yw’n boeth, mae swnian byd
yn rhynnu, am rhyw ennyd.
Carwyn Eckley 9
Tîm Evans
Y galon ddaw â’r golud
i Drebo’th, nid aur y byd.
Aled Evans 9
3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi hoffwn gael gwybod yn fuan’
Tîm Eckley
Wrth gymryd llond cegaid o'm brechdan
mi deimlais i rywbeth yn crensian,
ai hadau oedd rhain,
neu bryfed, neu chwain?
Mi hoffwn gael gwybod yn fuan
Megan Elenid Davies 9
Tîm Evans
Mi hoffwn gael gwybod yn fuan
ble’n gwmws y cwatest, Lord Lucan?
Fe ‘nest ti gwd job
wrth whare’r gêm Mob,
o’dd neb gallu ffindo ti’n unman.
Aled Evans 9
4 Cywydd : Marwnad unrhyw gymeriad ffuglennol
Tîm Eckley
Ffug-farwnad mistar Urdd
Triongl wedi trengi.
Trichornel tawel wyt ti.
So long! Fe’th wasgwyd yn slwtsh
ym Margam yn sgil mawrgwtsh
cant o blant, a gyda bloedd
anafus est i’r nefoedd.
Wylo’n lli wna plant Glan-Llyn,
owt-ail-wylant Lywelyn.
Gwae rennir drwy Llangrannog
yw gwae pob Hwntw a Gog.
Un gynt fu’n goch gwyn a gwyrdd
draw’n y llaid a dry’n llwydwyrdd.
Wyt fasgot sy’n fagot fwyd.
Heddiw, fe’th ddiorseddwyd!
Nawr dy fod dan glawr dy focs
mae o hyd Lio Maddocks
â’i gwen iach, a gwn gwna hi
â’i phincwallt fasgot ffynci!
Gruffudd Owen 10
Tîm Evans
Methodd Q rwystro’i ddiwedd:
a yw Bond, James Bond, mewn bedd?
Siglwyd (ni styriwyd) ein stad,
adlef aeth drwy’r sefydliad,
M sy’n sâl gan dorcalon,
a Moneypenny mewn po’n.
Heriodd pob uwch-ddihiryn
yn ei hwyl, ond Angau’i hun:
ni allai car na dryll cŵl
ei aberth na’i ‘O ddwbwl’
na bun ddod i’w achub o;
Rholiodd credydau’r wylo
am nawr - galaru’r Å·m ni
ym Mritania’r Martini.
Ond, er hyn, cyn dod o’r hearse
ailenir ei oneliners
ar ein rhan, ar ei union
yn ei siwt, ar Amazon.
Hywel Griffiths 9.5
5 Triban beddargraff trefnydd gŵyl
Tîm Eckley
Drwy’i oes, bu’n hawdd ei weld-o,
hi-vis fu’n ail groen iddo,
ac er ei fod o wedi-went,
fluorescent oedd ei arch-o.
Carwyn Eckley 9
Tîm Evans
Daeth amser trist ffarwelio
 threfnydd Gŵyl Draw Fynco,
Mi faglodd, druan, draw fan hyn
Ar byntin. Damo, damo.
Dwynwen Lloyd Llywelyn 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Parodi ar ‘Dwylo Dros y Môr’
Tîm Eckley
Fe ddaeth penwythnos Tafwyl rownd ’to,
Es i, fel pawb arall, i barc Biwt am dro
I glywed cerddoriaeth a gweld yr hen griw,
Osgoi fy nghyn-gariad, sy heb weld fi (ffiw!)
Ac er y glaw, fe ddawnsiwn ni
Mae pawb yn wên dan wybren ddigon du.
Trodd un peint yn ddau, ac wedyn yn dair,
Dwi angen pi-pi ond ma’r lle ma fel ffair,
Dwi’n ciwio ers oes – hei – ’nhro i oedd hi, mêt!
Daw’r un nesa’n wag, a dwi yno’n strêt.
Ond yn fy mrys caf anffawd brudd
wrth lacio ’mlows, a thynnu’n ’nhrowsus yn rhydd
O ’mhoced cefn ma’n ffôn i’n mynd...
Gwaeddaf reg, o paid a gweud,
Oooooo
Wy’n gwbod beth sydd yn rhaid ’mi neud
Oooooo
Fe fydd hyn werth e, ar fy llw,
Rhaid estyn dwylo lawr y lŵ,
Ie, estyn dwylo lawr y lŵ,
Dwi’n estyn dwylo lawr y lw..
Elen Ifan 10
Tîm Evans
Aeth teulu o Nefyn am ddiwrnod o hwyl
I lawr i’r brifddinas penwythnos Tafwyl.
Pacio’r car yn llawn i gael mynd
Efo mam, dad, y plantos, a Iestyn (mab ffrind).
Gan fod y siwrne am fod yn hir,
Rhaid stopio am snacs, a phi-pi i gael taith glir.
Yn garej Ffôr fe stopiodd y car
A’r plant aeth i siopa yn hapus yn Spar.
Ail-lenwi’r car, ond anghofio un
Gan fod Iestyn bach yn pi-pi’n gytûn.
Drwy Dolgellau a drwy Cwm-ann
Mae’r teulu’n mynd, efo’i carafán.
A Iestyn bach yn yr un fan.
Iesgob, mae y car ‘di mynd (O noooo)
Maen nhw ‘di colli mab eu ffrind (O nooo)
Maen nhw bron ar yr M4
Mae Iestyn dal yn garej Ffôr (x3)
Ym Mharc Biwt, mae’r teulu’n cael hwyl,
Peint bach a bandiau a bwyd yn Tafwyl.
Cyn derbyn neges tua chwarter i ddau.
Gobeithio fod Iestyn a chithau’n mwynhau.
Ond yn yr haul, daw pethau’n glir,
Bu Iestyn bach
Ar goll am amser hir
Mae o di bod ar goll drwy’r dydd!
Ble mae Iestyn wedi mynd? (O noooo)
Da ni ‘di colli mab eu ffrind (O nooo)
Helpwch ni Bwncath, Mellt a’r Ior.
Ond mae Iestyn dal yn garej Ffôr (x3)
(Rap Ed Holden o’r fersiwn newydd)
Mae Iestyn dal yn y garej,
Wedi cael job yn gweithio fel mechanic
Deg mlynedd fu heb weld ei deulu.
Does neb yn chwilio rhagor, maen nhw wedi rhoi fyny.
Nes un diwrnod daw ei dad i Spar
A’r atgofion ddaw yn ôl i Iestyn o’r car
Emosiynau ddaw drosto fo
Hwre, amen, da ni wedi’i ffeindio!
Ble mae Iestyn wedi mynd? (O noooo)
Mae nhw ‘di colli mab eu ffrind (O nooo)
Canwn bloeddiwn fel un côr
Da ni di’w ffeindio’n garej Ffôr (x3)
Llio Maddocks 10
7 Ateb llinell ar y pryd – Dad a Mam mae’n rhaid i mi
Tîm Eckley
Heddiw dw i’n mynd i feddwi
Dad a Mam mae’n rhaid i mi
Gruffudd Owen 0.5
Tîm Evans
Dad a Mam mae’n rhaid i mi
Aros i glywed Ceri
Hywel Griffiths
8 Cerdd (heb fod dros 18 llinell): Gêm
Tîm Eckley
Mae’n symud o’i ffôn i’w gyfrifiadur
ac yn ôl i’w ffôn,
adeiladu tywyllwch ei ddiwrnod braf,
ehangu gorwelion ei dawelwch.
Rydym yn ceisio deall y chwarae hwn,
ei demtio a’i dwyllo
a gwasgu’r botymau cywir
i’w ddenu at ein bwrdd ni.
Ond ni allwn symud blociau,
ni allwn ddeall byd
na cherddasom drwyddo.
Ni allwn ond croesi ein bysedd
a gosod ein ffydd
yn y cysgodion o bobl sydd yn ei glustffonau.
Mari George 9.5
Tîm Evans
Dis
Wyt ti'n cofio fel y daeth
yr hydref hwnnw'n ddisymwth,
a ninnau heb arfer gyda'r rhuthr;
y newid yn yr aer, a'r hast
odd wrth y dyddiau - diwedd tyfiant, y dail,
caws llyffant, a gwres y gegin
wedi diwrnod tamp.
Wyt ti'n cofio'r holl ddis yna oedd gennyt ti,
y rhai symudliw rhwng oren a choch,
a'r gêm yna o'n ni arfer ei chware -
yr un 'da'r dis a'r rhife?
Wyt ti'n cofio unrhyw beth o gwbl?
Dyfan Lewis 9.5
9. Englyn cywaith ar y pryd – Parc Bute
Tîm Eckley
Heddiw, nid tir arglwyddi yw’r erwau
i’r erwan mae’r gerddi;
Do, agorwyd y clwydi –
nid i rai, ond i’r di-ri.
Mari George yn darllen 9.5
Tîm Evans
Ein hyder sy’n y deri, - yn yr haf,
mae rhodd rhwng y meini,
a sŵn iau ein dinas ni
yw’r curiad drwy’r aceri
Hywel Griffiths yn darllen 9.5