Main content

Cerddi Rownd 2 2025

1 Pennill bachog: Datganiad o gefnogaeth

Ffoaduriaid
I fy nghyfeillion Traws
Ac yn y galon onid eneidiau
ydym? Gwarth ac erlid,
law yn llaw â thwyll a llid;
mor rhwydd yw marw rhyddid.

Dyfan Lewis 9

Tanau Tawe

(I gefnogwyr yr Adar Glas yng Nghaerdydd)
Na hidiwch i chi ddisgyn,
Dyw bywyd byth yn fêl ;
Mae’r peis yn eitha blasus
Yn Burton a Port Vale.

Robat Powell 9

2 Cwpled caeth: Arwyddair Newydd i Urdd Gobaith Cymru

Ffoaduriaid

Ynom ni yng nghwmnïaeth
Mistar Urdd mae stori'r iaith.

Gruffudd Owen 8.5

Tanau Tawe

Awn i fewn i’r Gymru Fydd
Â’n gwên a’n hawen newydd.

Robat Powell 8

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mae aelod o’r parti llefaru’

Ffoaduriaid
Mae aelod o’r parti llefaru
’Di gofyn a gawn ni’n dau baru
yn neuawd lorweddol
ei brifwyl bersonol
pan allai jyst ddweud y gair ‘caru’.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 8

Tanau Tawe

Mae aelod o’r parti llefaru
Bob amser ddau air ar ei hôl hi,
Ond er 'bod ni’n garbwl,
Fe gurwn ni’r cwbwl:
Ei hwncwl yw’r un sy’n beirniadu.

Non Lewis 8.5

4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw gymeriad chwedlonol

Ffoaduriaid

Efnisien, wnes ti wenu – ar dy nai
brau, di-niw, gan wasgu
i dy gôl am eiliad gu
wên Dyflwydd cyn ei daflu?

Cyn ei daflu a fuodd – ryw ennyd
pan fu’r wên ar ddiffodd?
Eiliad pan sylweddolodd
ar frâd dy fwriad ryw fodd?

Rhy hwyr. Erys brâd yr hen - i’r rhai iau,
yn friw na chaiff grachen;
rhag ofn bod yn nyfnder gwên
fynwesol lid Efnisien.

Gruffudd Owen 9.5

Tanau Tawe

‘Promethews’

Aeth eryr fy noluriau – â’i big glau
Fel rhaib cledd trwy’r gïau,
A dial teyrn y duwiau
Yn artaith faith yn fy iau.

Er artaith faith, gwelaf i – danau dyn
A dywynna’n heini ;
Tân, y rhodd na ddiffoddi,
Yn ei wres daw dyn i’w fri.

I’w bri a llwybrau’i hawen – ni ddaw hil
Heb ddolur na chynnen
Hir i gladdu’r eryr hen
A’i dduw oer dan ddaearen.

Robat Powell 9

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘‘Do, mi fûm yn chwilio droeon’

Ffoaduriaid
Do, mi fûm yn chwilio droeon,
am ryw falm i wella nghalon.
Sweip i’r dde ac yna matsio!
Mae fy nghalon wedi’i thrwsio!

Gethin Wynn Davies yn darllen gwaith Gwennan Evans 9

Tanau Tawe
Do, mi fûm yn chwilio droeon
Am Nirvana neu Afallon;
Ond pe cawn i gyrraedd yno,
Heb fy ‘socials’, awn i’n wallgo’.

Elin Meek 9

6 Cân ysgafn: Casglu Sbwriel

Ffoaduriaid
Roedd hi’n arfer bod yn broses hawdd, rhoi sbwriel yn y bin,
Ond mae blwming bin i bob un darn o sbwriel erbyn hyn.

Mae bin sydd jest i fatris fflat, a dyma sy’n rhyfeddol –
Mi gefais hwn am ddim o’r Cyngor Sir, heb charge atodol.

Mae bin i'r darnau selotêp a ges i gan hen ffrind.
Dwi’n berson sentimental, ac mae’n drafferth gadael fynd.

Mae bin wyau ‘di berwi, ac mae’n rhaid i mi egluro
mai hwn yw fy hoff fin. Mae o’n un anodd iawn i’w guro.

Rhoddais ddrych oedd wedi malu yn ei briod fin yn daclus.
Erbyn dallt, yr wythnos dwytha casglwyd rheina. Am anlwcus.

Mae’r drefn ma yn un newydd, a do’n i ddim yn ei licio,
nes cael bin i lygod laptops, a dyma’r drefn yn dechrau clicio.

Mae bin sydd mond i fwyd Chinese i’w iwsio yma nawr.
Mae’n orlawn ar y funud, ond fydd o’n wag mewn hanner awr.

Mae bin arbennig i fwyd môr, a dio ddim werth yr hassle
achos bob tro dwi’n mynd a’r bin i’r lôn, dwi’n tynnu mussle.

Mae bin i ganiau soda pop. Un perffaith sgwâr, at that,
Nes aeth y lori drosto, ac mae’r bin yn awr yn fflat.

Bob nos, dwi'n treulio oriau yn didoli i sawl bin
A’r unig beth sy'n mynd yn wastraff nawr yw f'amser prin.

Llio Maddocks 9

Tanau Tawe

Ar ben y stâr mae twll lan i’r to,
Tu hwnt i hwnnw, mae’n ddu fel glo,
A bocsys mawr a bocsys bach
A sdwff a sgrwff yn llanw sawl sach.
Twl nhw bant, twl nhw bant, sdim eisie nhw mwy.

Yn y cysgodion, wele lu
O greiriau bywyd, trysorau fu,
Hen fat a dillad bore oes,
A doli glwt heb fraich na choes.
Twl nhw bant, twl nhw bant, sdim eisie nhw mwy.

Draw yn y cornel mae llestri Mam,
A chasgliad dystlyd o botie jam,
Hen rîl rhyw ‘gêbl’, nawr yn wag,
A lluniau o Gastell Penarlâg.
Twl nhw bant, twl nhw bant, sdim eisie nhw mwy.

Mae’n siwr fod tebyg ym Mae Caerdydd,
Man lle mae sbwriel yn llechu’n rhydd,
Hen fagie llawn sy’ ddim werth grot.
Mae’n bryd rhoi ‘ffling’ i’r cwbwl lot.
Twl nhw bant, twl nhw bant, sdim eisie nhw mwy.

Keri Morgan 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Mewn twll y mae Anti Ann

Ffoaduriaid

Mewn twll y mae Anti Ann
Ella y daw hi allan

Gruffudd Owen 0.5

Tanau Tawe

Mewn twll y mae Anti Ann
A’i horiawr a’i phwtch arian

Keri Morgan 0.5 

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ystyfnigo

Ffoaduriaid

Ar Lan Afon
(Lao Tzu)

Gad i fi fod fel y garreg hon;
talpyn nad yw'n ildio
yn dal fy nhir, yn styfnig,
osgeiddig, cadarn, heb hido
dim am ddirmyg na llid,
fy ochrau cam yn chwarae mig â chysgod
a llewyrch ar ddiwedd dydd.

Gyfaill, gwranda, carreg? Saimbo.
Mae dewis gwell, edrycha eto -
y pethau byw, pysg a thyfiant
neu'r dŵr, oni weli di'r nant? Mae'n plygu -
hoffwn innau fod fel hynny
yn cyrraedd man, yn addasu,
gan araf lyfnhau pob carreg arw
a'i thorri lawr i beth bach pitw.

Dyfan Lewis 10

Tanau Tawe

Doedd dim pwynt gofyn iddi ddod o’i 'stafell:
gwrthodai'n lân.
Arhosai yno, gyda’i sgrin,
yn arddegyn naw deg oed.

Erbyn hynny, roedd hi’n gaeth
i gaer ei lled-fyddardod;
hi, fu mor gymdeithasol,
y nyrs a siaradai’n rhwydd â phawb.
Yn ei chornel, pwdai braidd,
a gwelem fam nad oeddem yn ei ’nabod.

Ceisiem ei themtio
â briwsion crefftau cymunedol,
fel petai’n gath fach swil mewn lloches:
“Christmas baubles, gyda’ch hoff ofalwraig!
Beth amdani?”

Ond fuasai hi erioed yn un am hwyl yr ŵyl,
a bydd ei hateb yn rhan o bob Nadolig bellach:
“Cadwed ei baubles”.

Elin Meek 10

9 Englyn: Parc Margam

Ffoaduriaid

Simneiau'n cau fesul cam - diwydiant
fel hen deidiau gwargam.
ond mae hergwd ym Margam,
a phlant sy'n ail-gynnau'r fflam.

Gethin Wynn Davies 10

Tanau Tawe

O’r orendy a’r abaty bydd – cân
yn cwnnu o'r newydd
yn llawn hyder, oherwydd
neidia'r iaith fel naid yr hydd.

Non Lewis yn darllen gwaith Elin Meek 9.5