Main content

Cerddi Chwarteri 2025

1 Pennill bachog: Arwydd o Ddiffyg Profiad

Crannog
Pan own i ddoe yn suddo
I’r gwaelod unwaith eto
Fe ges rhyw syniad yn fy mhen
Bod angen gwersi nofio.

Eirwyn Williams 9

Ffoaduriaid
Llawn o gariad, llawn o hwyl
llawn delfrydau annwyl.
Y chwarddiad rhwydd, y wên heb amod -
rho i mi hyder un nad yw'n gwybod.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Dyfan Lewis 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw arlunydd

Crannog

Mewn llun y Kyffin uniaith
drwy ddweud ei ddweud ddysgodd iaith.

Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 9.5

Ffoaduriaid

Yn y Louvre, drysais yn lân,
(yr ydwyf yn ben Rodin).

Gethin Wynn Davies yn darllen gwaith Gruffudd Owen 9.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n aelod o glwb digon dethol’

Crannog
‘Rwyn aelod o glwb digon dethol
Yn Salem ond nid wyf yn dduwiol,
Tra’n caru yn iau
Ar bompren go frau
Bedyddiwyd ni’n dau - yn ddamweiniol.

John Rhys Evans 8.5

Ffoaduriaid
Rwy'n aelod o glwb digon dethol
a gred bod y talwrn yn llethol,
Dwi'n thori, deud 'llethol'
ydw i nid deud 'llethol'...
o Iethgob, mae'r lithp ma'n ormethol!

Gruffudd Owen 9

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Ni ddowch i brofi heddwch heb ryfel’

Crannog

Ni ddowch i brofi heddwch heb ryfel
medd bom a bidog byd anniogel
tra bo cyfalaf am ddal ei gaf’el
eto ar geyrydd tu hwnt i’r gorwel.
Ond daw o’r cymod tawel sydd ar waith
rhyw wawr o obaith o hyd o’r rwbel.

Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 9.5

Ffoaduriaid

"Ni ddowch i brofi heddwch heb ryfel".
Mae'n fargen sgleiniog...pan rwyt ti'n ddiogel.
 gwen fochaidd fe gawn ninnau fochel
yn neis a gwaraidd; ond dros y gorwel
i Arabiaid y rwbel, cyrff babis
yw pris ein dewis i gadw'n dawel.

Gruffudd Owen 10

5 Englyn ysgafn yn seiliedig ar unrhyw ddigwyddiad diweddar

Crannog
Red Arrows ar V E Day
Lan fry wrth iddynt ruo yn eger
drwy’r mwg holaf eto
a yw rhain wrth lygru’r fro
yn seriws am net sero.

John Rhys Evans 9

Ffoaduriaid
Eisteddfod yr Urdd
Er y mwd a’r dagrau myrdd– er y ffys
a’r ffair a’i chŵd pincwyrdd,
dod nôl yn fythol fythwyrdd
yn ei streips wna Mistar Urdd.

Gethin Wynn Davies 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Mynd ar Gwrs

Crannog

Mae gennym yn nhȋm Crannog wendidau rif y gwlith
a gweithio cân garlamus sy’n amlwg yn eu plith.
Ni ddaeth ‘run Barbirolli na chwaith gondyctor bws
i’n harwain at y degau ers dyddiau Dewi Pws
ond cilio wnaeth cyfalaf yr holl atgofion hyn
pan gasglwyd mwy o denners nag sy’n walets Ceri Wyn,
ac wrth i’r holl ddiflastod gynyddu fesul pwl
mi es i holi cyngor, cyngor y Doctor Dwl.
Ar ôl y diagnosis fe’m rhoed ar gwrs o bils
fel rheiny lyncodd Wordsworth cyn gweld y daffodils
a chefais i gyflenwad o dablets coch a phinc
‘run fath a’r rhai sydd gennyf adre’n glanhau y sinc
a’u llyncu wnes yn ffyddiog mewn gobaith byddai’r laughs
mor amal ac arhosol a’r miloedd blincin daffs.
Ac wedyn cefais goctel o frwmstan, rum a stout
i’w yfed ar brynhawniau yn nhafarn Y Way Out
a fesul llwnc fe welais fod y marciau mawr yn dod
wrth dreulio ugain llinell mewn byd nad yw yn bod
ac ynddo am ryw eiliad, ar ôl alltudiaeth hir,
ces gip ar Holstein Oernant yn ôl yng ngodre’r sir.

Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 9

Ffoaduriaid

Mae na gwrs reit wyllt bob blwyddyn, yn downtown Llandrindod Wells,
Maen nhw’n heidio yn eu miloedd lawr i’r Metropole Hotel.
Cwrs i osod hen benillion, a’u cyflwyno’n ddigon pêr.
Cwrs sy’n esgus i delynorion fynd i Powys am affêr.

Yn y bore mae na ddosbarth gwneud ystumiau yn sidêt,
Yn y pnawn, gwers ymarferol sut i barcio dy estate.
Entertainment noson gyntaf yw cael gwylio Einir Wyn
Yn arm wreslo ei gelynion – cyn-enillwyr Llwyd o’r Bryn.

Cyn cael brecwast mae na wers ar ddefnyddio’r ymwthiol y,
Cyn cael cyrempog efo cyrîm i gael llenwi’n bol, iym iyy(m).
Bore wedyn, mae na ddosbarth ar gael yr acen yn y lle iawn,
Yna dysgu sut i orffen run pryd a’r delyn yw’r wers prynhawn yr ail ddiwrnod.

Mae na wers cario brawddegau tan y diwedd efo gwên
Ond mae pawb yn reit benysgafn ar ôl noson ar siampên.
A chyn gadael, gwers fach gyflym ar sut i dapio’r clun yn ddel
Yna codi’r llaw yn araf, tan flwyddyn nesaf, hwyl fawr, ffarwel.

Llio Maddocks 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Na hidiwch am dro pedol

Crannog

Na hidiwch am dro pedol
Tra yn nos rhaid troi yn ôl
John Rhys Evans 0.5

Ffoaduriaid

Hei Reeves oes arian ar ôl?
Na hidiwch am dro pedol

Gethin Wynn Davies 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drws

Crannog

Gorffennwyd datgymalu cartref Mam,
pob rhan ohono’n drwm dan lwyth ei llun,
o’i chelfi mawr, i’w chwpan hoff, bob cam
i’r sorod yn y sach ddu olaf un.

Trwy’n sgwrs ni’i phlant, a’n jocan, ceisiem gau
y drws i’r galon, nes i drosol co’
ei hagor whap, ond ’mlaen âi’r gwaith glanhau
fel gallai’r asiant gael allweddi’r clo.

Wrth orffen, cawn ei nodyn hi ar wal
wrth swp o lysiau’r llwynog ger y drws
a’i llais trwy’i ’sgrifen “Paid â’u Tynnu!” ’n dal
i garco’r twffyn, gan eu bod yn dlws.

Fe wyddom dylent fynd, ond gallwn sbo
eu gadael, chwyn a ’sgrifen, am y tro.

Philippa Gibson 9.5

Ffoaduriaid

Mae’n gwneud i mi sefyll o flaen drws y gegin

cyn codi fy ffôn i dynnu llun.

Dyma’r drefn yn tÅ· ni
ar ddiwrnod cynta’r tymor,
diwrnod mabolgampau,
Diwrnod y Llyfr a’r lleill.

Mae fy ngwallt yn anniben, dim colur,
siwmper staeniog a sanau anghymharus.

“Ti mor ciwt” mae’n dweud,
gan ddangos y llun ohonof
namyn corun fy mhen.

“Ardderchog” rwy’n ymateb cyn tanio’r peiriant golchi
a mynd i redeg y bath.

Ar ôl iddo gysgu, dwi’n gweld y llun unwaith eto.
Mae’n deg dweud na fydd yn mynd ar Instagram.

Ond fe’i cadwaf
am iddo fe weld rhywbeth
oedd yn haeddu llun o flaen y drws.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 9.5

9 Englyn: Diffibriliwr

Crannog

Yn ddi-gais cafodd gusan ac â’r rhodd
bu greddf yn ystwyrian
a’r anwesu’n gwefru’n gân
trwy hud y twtsh llawn trydan.

Philippa Gibson 9.5

Ffoaduriaid

Ein gwlad? Capeli dan glo, – neuaddau
di-nawdd, hen flwch ffonio;
er hyn fe’i llusgwn o’r gro
di-fywyd a’i hadfywio.

Gruffudd Owen 9.5