Main content

Cerddi Rownd 1 2025

1 Pennill bachog: Dêl

Y Cŵps
Mae gennyf i gynnig, hardd iawn, i’m cyfeillion
Am mai prin, fel y gwyddom, yw cardiau’r Derwyddon.
Gadewch inni ennill. Trwy’ch aberth, fy ffrindiau,
Ailgodwn y Talwrn i’r uchelfannau.

Geraint Williams 8

Derwyddon
Er i ti ddwyn fy enaid
drwy newid siap fy ngwlad
a’r lliw sydd ar y mapiau,
pob bywyd nawr mor rhad.
O’r dechrau, heddwch oedd dy nod,
fe gei di’r ddaear - a phob clod.

Siw Jones 8

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gafr’ neu ‘gafar’

Y Cŵps
Colli wy yw colli iâr,
Gofid yw colli gafar.

Huw Meirion Edwards 8.5

Derwyddon
I’r dref daw weithiau ar dro
afar sy’n camfihafio.

Eryl Mathias 8

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar Ebrill y Cyntaf eleni’

Y Cŵps
Ar Ebrill y cyntaf eleni
A finnau ar dân eisiau sgwennu,
I'n Meuryn mwyn, sawl
Gorchestgerdd o fawl
Fe guddiodd rhyw ddiawl yr Odliadu...(r)

Geraint Williams 8

Derwyddon

Ar Ebrill y cyntaf eleni
bydd Putin yn dod ar y fferi
i hawlio ein gwlad,
gan estyn ei stâd
a’i fwriad yw byw yng Nghwm Deri!

Jo Heyde 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfrinach

Y Cŵps

Rhoddodd ei orau iddi,
Ei roi’n llwyr i’w hennill hi,
Yntau’n ddalennau ar led,
Ei garu’n llyfr agored.

Hithau’n bos unwaith, yn bell,
Ond mi lanwyd amlinell
Y darnau fesul diwrnod;
Cydiodd ddarn at ddarn gan ddod
 lliw hyd gyrion y llun,
A’i wneud yn gyflawn wedyn.

Gwenodd, heb weld, o’i ganol,
Un lle’n wag, yn syllu’n ôl.

Huw Meirion Edwards 9.5

Derwyddon

Ei hawgrym ddaw â dagrau
o foddhad, rhyddhad i ddau
ar eu taith heb lenwi’r tÅ·
â heulwen magu teulu.
Mae ei thinc mewn gwinc a gwên,
a’i lliw yw’r wyneb llawen,
yn esgor ar hir ddisgwyl,
a hi sydd yn geni gŵyl.
Mae yno’n gwylio pob gair
rhag ei gollwng ar gellwair,
yn osgoi iaith nes daw’r sgan
yn wybod ac yn faban.

Meirion Jones 9.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Anodd aros yn ddiduedd’

Y Cŵps
Anodd aros yn ddiduedd
Pan fo'r byd yn llond cynddaredd.
Anos byth yw cadw echel
Pan mai ynof i mae'r rhyfel.

Geraint Williams 9

Derwyddon
Anodd aros yn ddiduedd
‘mhlith y mamau a’r modrybedd,
gyda’m hwyres ar y llwyfan
yn cystadlu’i ennill cwpan!

Meirion Jones 8.5

6 Cân ysgafn: Colli Cyfle

Y Cŵps

A Chân i Gymru’n orlawn o dalent Ynys Môn,
(Roedd chwarter y caneuon o’r Ynys yn y bôn),
Roedd undod rhwng y glannau, pob cyngor plwyf a thref,
Fod y ‘Tlws yn Dŵad Adra’, sawl cam yn nes i’r nef.
Fe grëwyd un Strategaeth Fawr ac wrth ’ddi ddod yn nes
Roedd hyd yn oed y Cyngor Sir yn dechrau sôn am bres:
Roedd benthyciadau rhad at dalu biliau ffôn,
Insentives da i ffonio mwy na’r boi i lawr y lôn,
Gostyngiad bach ar dreth tai ha a’r holl air b&b -
Ond iddyn nhw roi pleidlais i’r gân o Angyl-si.
Ond baglu wnaeth y cynllun pan ddaeth y bleidlais fawr,
A phawb a’u ffôn yn barod i ffonio’n wyllt am awr,
Roedd system newydd yno ar gyfrifiadur crand,
Dim ond un bleidlais! Dim ond UN! I UN o’r pedwar band?!
Erbyn flwyddyn nesa caed cyngor gan Keith Best:
Fydd deuddeg cyfri ebost, pob un yn pasio’r test,
Gan bob Monwysyn tanbaid, pob un â deuddeg enw,
Yn barod i bleidleisio, Y Fam fydd ar ei helw.
A cawn ragbrawf yn mis Rhagfyr yn nhafarn fach y Goat
I ddewis ‘Cân i’r Ynys’, rhag ofn ’ni sblitio’r fôt!

Geraint Williams yn darllen gwaith Rocet Arwel Jones 9



Derwyddon

(Ar y dôn ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’)

Rwyf Gymro ifanc gwladgar sy’n hoff iawn o’r ti-fi,
a gwylio wnaf yn ffyddlon holl arlwy Es- Ffôr -Sî,
a’r freuddwyd ers y cychwyn, wrth syllu ar y sgrîn -
y byddwn i wrth wylio, rhyw ddydd yn gweld fy hun!

Cytgan:
Cael bod ar Es- Ffôr -Sî, cael bod ar Es- Ffôr -Sî,
’roedd hon yn freuddwyd fawr i mi, cael bod ar Es- Ffôr -Sî,
* nid oedd yn brofiad melys iawn,cael bod ar Es- Ffôr -Sî! (cytgan clo)

A minnau’n ffermwr blaengar, yn dilyn cŵys fy nhad,
ystyriais mod i’n gymwys fel testun Cefen Gwlad;
daeth Ifan draw a gwelodd y dom yn llygru’r nant,
yr ŵyn yn traddu a buwch gloff, a thrôdd y cam’ra bant!

Daeth criw o Dechrau Canu i fflmio yn y llan,
dwi byth yn mynd i’r capel ond wir fe droies lan!
Eisteddais lle y tybiwn y cawn fy ngweld yn glir,
ond 'steddodd clatshen fowr o ‘mlaen - 'na beth oedd rhaglen hir!

Ar ol recordio’r Talwrn a’r canmol yn ddi-stop,
cês sesiwn yn Llanina - aeth pethe dros y top!
Er i mi gynnig cildwrn i Loader gau ei geg
fe ges fy llun ar Es- Ffôr -Sî ac ar Newyddion Deg!

Eryl Mathias 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Daeth yn ffasiwn gŵn sy’n gas

Y Cŵps

Daeth yn ffasiwn gŵn sy’n gas
Bach harddach na beirdd Barddas

Dafydd John Pritchard 0.5

Derwyddon

Daeth yn ffasiwn gŵn sy’n gas
Yn weflau hynod ddiflas

Siw Jones

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Adnewyddu

Y Cŵps

a dim ond digwydd
taro arni wnes i

a hynny mewn rhyw
eglwys dywyll yng

Nghaerdydd; roedd pwysau
holl bechodau bach

ei byd, fel ei throli
siopa, ar olwynion brau,

ryw 'chydig yn
ysgafnach wedi bwrw'i

bol fan hyn, a thros
fy ysgwydd gwelwn iddi

fynnu tynnu'i sgarff
a chwifio honno

heibio'r drws ac
yn yr haul a'r

awel; a diflannu i mewn i
holl wynebau'r stryd.

Dafydd John Pritchard 10


Derwyddon
(Mam-gu, ti’n edrych mor hen … a wyt ti’n mynd i farw’n fuan?)

Am yn hir, gwyddwn pa beth yw gwywo …
gwelwn freuder y gaeaf
rhwng esgyrn y cloddiau,
a minnau’n petruso i fyny’r allt
yn gaeth i’m ffon a’m corff cam;

deallais pa beth yw gorfod aros,
ac ildio i gyhyr a thyndra gïau …

ildio fy oriau i ddysgu symud eto;

gadawaf y llenni ar agor y dyddiau hyn
i’r wawr gipio’r cysgodion
a’u ffeirio am aur ar foreau llesg …

imi gael llithro o rychau fy nghwsg;

a heddiw, clywaf yr adar ar anadl Ebrill,
a chyffro deffro’r dail;
fe af am dro yn y man,
af tua’r afon … tua’r glasgoed talsyth,
a’m dwylo’n rhydd imi flasu ffresni’r dŵr.

Jo Heyde 9.5

9 Englyn: Gwystl neu Gwystlon

Y Cŵps

Dall y daeth i’w geudwll du, – yn furgyn,
Neu’n fargen i’w werthu,
A’i amynedd yn mynnu
Galw i fod y golau fu.

Huw Meirion Edwards 9.5

Derwyddon
(*Mae gwystlon hefyd yn air am ‘ pawns’ ar fwrdd gwyddbwyll)

Mae dwy res wâr ar y sgwariau - mor giwt,
mor gain yw'r mudiannau,
anialwch di-reolau
yw’r gêm gyda’r ‘Llain’ ar gau.

LlÅ·r James 9