Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Ar werth: Gitâr Ail-law
Lleill o’r Llew
Mae gen i gitâr ail-law
Ail law yw fy ngitâr
Os nad yw hi’n ail law
Nid honno yw ‘ngitâr.
Mae’n handi cael ail law
Sy’n seinio’n swynol bron
Ac anodd iawn ei gwerthu,
F’ail law, yr hen law hon.
Beca Davies 8.5
Tanau Tawe
Un deg a thannau segur - un rad iawn,
cyflwr da a chlasur,
a’i bodio’n cordio pob cur,
yn ddêl am bris heb ddolur.
Non Lewis 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cwis’
Lleill o’r Llew
Dwi bob tro yn curo cwis,
OS, oes multiple choices.
Sioned Camlin 8.5
Tanau Tawe
Yng nghwis Duw, myngus yw dyn,
Annifyr fydd y gofyn.
Robat Powell 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un noson, mi giwiais am oesau’
Lleill o’r Llew
Un noson mi giwiais am oesau
am wax a spray tan ar fy nghoesau,
ond druan, bêc ffêc,
roedd o’n ddiawl o fistêc
a ‘wan dwi fel llewpart yn smotiau.
Myfanwy Alexander 8
Tanau Tawe
Un noson, mi giwiais am oesau
Am bitch yn y maes carafanau,
ond ffoniais i Ry
a Rob ar y slei
a hei! Ces i le gyda’r bandiau!
Non Lewis 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ystâd
Lleill o’r Llew
(Cynllun Donald Trump ar gyfer dyfodol Llain Gaza)
Tir ar werth at odre’r traeth;
y tir glân, tir rhagluniaeth.
Addo gwledd dros fedd o fyd,
hafau diddiwedd hefyd.
Mae yma wlad i’w chadw
â’n nawdd rhag eu gobaith nhw;
pobl, sbwriel i’w hela,
mynd â’u plant sy’n ddim ond pla.
Glanach y tir o’i glirio;
pwy fydd ceidwad gwlad dan glo?
Fi yw’r dyn â’i fwriad da
i forio’r Riviera.
Sam Robinson 9.5
Tanau Tawe
Ystâd y lleisiau dedwydd,
Tir hawdd y tenantiaid rhydd
Yw hwn ; cânt rhwng fy llwyni
Ddaear heb gipar na’i gi.
Yma i’w llwyth does dim llog
I’w dalu am nyth deiliog,
Eu rhent hwy yw rhannu tôn
Yn eu hafiaith trwy’r mafon.
A ryw ddydd, fel yr ardd hon,
Lle gras fydd dinas dynion ;
Onid byd i bawb ydyw?
Nid gardd i’r goludog yw.
Robat Powell 9.5
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Do, addewais innau droeon’
Lleill o’r Llew
Do addewais innau droeon
geisio’r enaid am fendithion.
Dim un llymaid wedi’r Grawys,
sy’n siom i holl dafarndai Powys.
Myfanwy Alexander 8.5
Tanau Tawe
Do, addewais innau droeon
Na chawn ddim i’w wneud â dynion
Sy’n ymhél ag odli geiriau,
Ond rwy’n edrych ‘mlaen ers dyddiau.
Elin Meek 9
6 Cân ysgafn: Cymryd y Bai
Lleill o’r Llew
Os hoffech chithau wybod sut mae dyn fel fi yn byw,
mi ddysgais gan fy nhad gelfyddyd gynta’ dynol ryw:
Nid trin y tir na hela chwaith, na gwneuthur potiau clai,
ond sut i wastad hawlio’r clod a byth i hawlio´r bai.
Os fethais i dy alwad - geshi’m cyfle i jarjo’n ffôn,
os gr’aeddais i y gig yn hwyr – roedd ´na dractor ar y lôn.
Os oes ´na staen ar garped lownj – y gath sy’n haeddu’r ffrae,
ac os ti’n clywed ogla rhech, wel ar y ci mae’r bai.
Mae’n dechneg ymarferol da, mae ganddi lawer iws,
cei get awê â bron bob dim ‘mond i ti gael ecsciws.
Cei hawl gwneud pob drygioni a phechod marwol, mwy neu lai,
‘mond ´ti ddweud yn hy´ a digon cry´ - ´nid arna fi mae´r bai!´
Arbenigedd pob un gwleidydd da yw rhuthro mas o wynt
i esbonio - nid ni sydd ar fai ond y rhai oedd yma gynt.
Mae´r prisiau i gyd yn uwch a´r pwrs yn pwyso llawer llai,
a haid o foch yn gwaeddi’n groch – mewnfudwyr sydd ar fai!
Gwêl pawb yn troi a phawb yn ffoi – osgoi dod dan y lach
a chymryd cyfrifoldeb bod y byd yn mynd i´r cach.
Dim un wan jac a´i law i lan o Lanarth i Shanghai,
wel dwi ´di cal llond bol o hyn, mi gymra innau´r bai.
Gwilym Bowen Rhys 8.5
Tanau Tawe
Nid y fi oedd yn gyfrifol
Am y drewdod anarferol
Ddaeth o gegin fach yr ysgol.
Na, nid fi, ond cymra’ i’r bai.
Clywais swae fod rhywbeth rwber
Wedi adael ar y ‘cwcer’
Gan ryw dwpsyn yn ei gyfer.
Na, nid fi, ond cymra’ i’r bai.
Wa’th siwd alle rhywun w’bod
Fod y letrics heb eu diffod?
‘Dyw’n ddim mwy nag esgeulustod,
Na, nid fi, ond cymra’ i’r bai.
Mae hi’n amlwg bod rhaid inni
Ganfod bwch dihangol handi
Yn lle beio ‘Cwc,’ trueni.
Na, nid fi, ond cymra’ i’r bai.
Pan fod trafferth yn yr ysgol,
Fi sy’ wastod yn y canol,
‘Sneb yn agos, mae’n rhyfeddol.
Cymra’ i’r bai .... ond fi sy’ ar ôl!
Keri Morgan 8
7 Ateb llinell ar y pryd – Anodd iawn yw maddau hyn
Lleill o’r Llew
Neidiodd o dan y nodyn
Anodd iawn yw maddau hyn
Iwan Wyn Parry 0.5
Tanau Tawe
Anodd iawn yw maddau hyn
Ag enllib dêl ei gynllun
Non Lewis
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cord
Lleill o’r Llew
Gyda’r nos mae’r llenni ar agor,
a phan mae’r wawr yn torri fel plisgyn wy,
dwi’n deffro cyn agor fy llygaid.
Gwelaf heb feddwl am ennyd.
Yn y ffenest mae’r goeden boplysen
yn diwlip o ganghennau sy’n torri’r
awyr yn bluen eira, ac ynddi
mae’r adar yn gweu côr fesul cân.
Mae llais ar goll o’u plith,
ac yn y gwagle, fy anadl fras.
Dwi’n dy deimlo wrth fy ochr,
dy fraich yn estyn, dy law
yn canfod fy llaw.
Dwi’n dal i wrando.
Mae côr y wig yn dawelach heddiw,
ac eto, mae ’na gord i’w glywed o hyd,
fel plisgyn wy mewn nyth o olau.
Sam Robinson 9.5
Tanau Tawe
Ym mhob cord, mae dy denor di’n
esgyn yn ysgafn a phêr,
fel yr arferai bob Sul.
Mae pob sain yn adlais,
ac er ceisio’i ddadglywed,
mae’n gaethiwed,
a thad yma eilwaith.
Daw mwy o alaw o hyd
i’m bywyd
tra bydd dy denor
yn fyw yng nghân corau,
ym mhob cord.
Elin Meek 9.5
9 Englyn: Dwylo dros y môr
Lleill o’r Llew
O’r alaw daeth yr alwad — i addo
Wrth roddi’n ddieithriad;
A daw â gobaith i’w stad,
Yn eli, am ryw eiliad.
Iwan Wyn Parry 9
Tanau Tawe
Nid aradr ond awyren, - nid gwenith
Ond gynnau yw’r angen,
A drôn hir i hollti’r nen
Yn iasol yw’n helusen.
Robat Powell 9.5